Skip to main content

BANEE Y GROES. Rhif. 4. MAWRTH, 1855. Cyf. 1. g^mprgöio. Rhagddywedodd ein Harglwydd bendigaid am waith ei Eglwys yn trefnu Dyddiau Yrnpryd, " Y dyddiau a ddaw, pan ddyger y Priodfab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant." S. Matt. ix. 15. Ac felly yn wir y bu fyth ar ol Esgyniad Crist i'w gartref nefol. Dywed Epiphanus fod S. Iago Fwyaf a S. Ioan yn hynod am eu gwaith yn marweiddio'r cnawd; ni fwyttâent na chig na physgod, ac ni wisgent ond un gôd a dilledyn o liain. Mynega Clemens Alexan- drinus am S. Matthew, ei fod cyn belled oddi wrtb foddio ei archwaeth, fel na fwyttâi ddim ond llysiau, gwraidd, hadau, a grawn. Ac am S. Iago Leiaf, Esgob Jerusalem, dywedir ei fod yn ddyn o'r fath dymmer ddwyfol, fel ag i fod yn anwylyd ac yn rhyfeddod ei oes, iddo ymarbed yn llwyr oddi wrth gig-fwyd, ac nad yfai win na diod gadarn, a bod ei gorph yn llwyd a chul gan ympryd. Yr oedd y Brif Eglwys hefyd, ar ol dyddiau yr Apostol- ion, yn hynod am ei hymprydiau. Cedwid dau ddiwrnod ymhob wythnos yn ymprydiau, sef Dydd Merchur, a Dydd Gwener, o herwydd i'n Harglwydd gael ei fradychu ar y naill, a'i groeshoelio ar y llall; ac heblaw y rhai hyn, yr oedd ganddi ei Hympryd blynyddol, sef y Garawys, fel ymbarottôad gogyfer â Gŵyl Fawr y Pasg. Cadwai y Prif Gristionogion eu Hymprydiau yn fanwl iawn. Ymgadwent i gyd ar y cyfryw ddyddiau oddi wrth win a chig-fwyd; ac ymborthai y rhan fwyaf ar ddim ond llysiau a ffà, ac ychydig fara. Arferai rhai fwyd sych, megis cnau, almonaus a'r cyfryw ffrwythau; ymborthai eraill ar fara a dwfr yn unig. Nid yw ein Heglwys ninnau ar ol yn hyn. Mae ganddi Cyf. i. s