Skip to main content

BANER Y GROES. Rhir 3. CHWEFROR, 1855. Cyf. L <£atf)Qltgrtogìŵ Hîglfcgs líotoxt Y mae yn debyg nad oes un Eglwys ar wyneb y ddaear yi: fwy Catholig nâg Eglwys Loegr. Y mae yn dra Chatholig o ran ei holyniad, o ran ei thymmer, ac o ran ei hathrawiaeth, I. 0 ran ei holyniad. " Hyspys yw," medd hi yn y Rhag- ymadrodd o flaen y Ffurfiau Urddo, " i bawb yn dyfal ddar- llen yr Ysgrythyr Lân, a hen awdwŷr> fod y graddau hyn o weinidogion yn Eglwys Crist er amser yr Apostolion ; sef> Esgobion, Offeiriaid, a Diaconiaid." Ac yn unol â hyn gotala atn fod pawb yn cael eu hurddo yn rheolaidd gan y rhai hynny yn unig ag sydd âg awdurdod ganddynt Felly nid oes nac Esgob, Oífeiriad, na Diacon yn ein plith nad all olrhain ei achau ysprydol at un o'r Apostolion, a hynny trwy'r Esgobion a feddiannent yr Esgobaethau Prydeinig ym mhell cyn yr Adgy weiriad yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Esgobion presennol Cymru a Lloegr ywgwirgynrychiolwýr hen Esgobion y wlad. Ar ol y Diwygiad y dechreuodd olyniaeth y pabyddion yn y wlad hon. Yn wir gyd â golwg ar eu tiriogaethau eu hunain y mae Eglwysi Groeg a Rhuf- ain yn hyn o beth mor Gatholig ag Eglwys Loegr, a dyna'r achos pa ham nad ormesa ein Heglwys ni ar esgobaethau y rhai hynny. Yr ydym ni yn hyn yn dilyn yr hen ddeíod, yr hon a gadarnhawyd yng nghymmanfa ardderchog Nicaea, a.d. 325. Ond nid yw Eglwys Rhufain mor foesgar tu ag attom ni, fel y gwelsom yn ddiweddar yn ei gwaith yn ffwfìo cyfundrefn Eglwysig yn y wlad hon, pryd y cododd y trig- olion fel un gwr i dystio yn erbyn y fath weithred anghan onaidd. II. O ran ei thymmer. Y mae Eglwys Groegyn gwrtlu wynebu Eglwys Rhufain, ac Eglwys Rhufain yn condemaio