Skip to main content

BANER Y GROES. Rhif. 1. IIHAGFYE, 1854. Cyf. J. &murcf)fa& <l Gwelwch pan gyfodo Efé Faner ar y mynyddoedd "— i'e, ar lÿnyddoedd hen Gymru. Llawer math ar helynt a gymmerodd le ar bennau y rhai hyn, er pan y daeth Hu Gadarn a'i giwdawd drosodd gyntaf i Ynys Prydain. Tu mewn i'r cylchoedd cerrig, olion llawer o ba rai a welir etto hyd ein bryniau, gwelwyd y Derwyddon gynt yn addoli ac yn athrawiaethu. Y llwythau, er maint eu hymrafaelion gwladol, a esgynent yno gyd â'u gilydd yn " nawdd Duw a'i dangnef," a chan edrych tua'r Dwyrain, disgwylient yn hiraethlawn am godiad Haul Cyfiawnder—am ddyfodiad ÜN "er gorfod drwg a chythraul."* Chwyfiai'r Üífeiriad y gangen oll-iach, fel arwydd o'r" Blaguryn Cyfiawn," oedd i darddu o gŷü' Jesse, dail yr Hwn a iachài'r cenhedloedd Oud nos oedd hi etto—Adfent aneglur. Nid oedd dim yn urwyddion yr amserau yn datgan bod ei Nadolig Ef yn agos. A gofynai llawer o'n hynatìaid braidd mewn an- obaith—"Pa le y mae addewid ei ddyfodiad Ef?" O'r diwedd gwelwyd y cenhadou dieithr, â Baner y Groes ar eu hysgwyddau, yn dwyn y newyddion da i blith y Cymry hen. .4c O! " mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch; a'r hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Zion, Dy Dduw di sydd yn teyrnasu !" 0 hynny hyd yn awr, y mae y Faner goch wedi ym- chwyfio yn fuddugoliaethus ar bennau ein mynyddoedd— er bod gelynion lawer, o oes i oes, wedi ceisio â'u holl eçni ei thynnu i lawr, a'i mathru dan draed. \'no y saif, ac yn hon gorchfygwn. Ynghanol ymosodiad anrFyddiaeth," a * Trioedd Barddas.