Skip to main content

dlpntit diitîl Cyf. IV. MAWRTH, 1891. CEIRIOG. Rhif 3. ]YWEDIR nas gellir deall yr un bardd na'i weithiau, yn iawu heb gymeryd i ystyriaeth ddylanwad amgylchiadau ei fywyd ar ei feddwl a'i awen. Ond nid rhoddi hanes bywyd J. Ceiriog Hughes yw'm hamcan i yn y sylwadau hyn. Difyr a buddiol fuasai dilyn ei gamrau ym moreu ei oes yn Llanarmon, pan yr oedd ei feddwl yn ymffurfio wrth iddo sylwi ar natur, a chwareu hyd lannau'r afon, a physgota gydag edaf lîn a phin plygedig oddiar ryw hen garreg, am yr hon y dywed,— "Fy mebyd dreuliais uwch ylli Yn eistedd yno ami hi; A mwy na hrenin oeddwn i Pan ar fy Ngharreg Wen." Ni chawn fyn'd ar ei ol i Groesoswallt am yr ychydig fisoedd y bu yno'n brentis o argraffydd, na dim ond dweyd mai ychydig, os dim, tuedd at ffarmio a ddanghosodd ar ol rhoi'r grefft sech honuo i fyny. Gwell fyddai ganddo ef sgwrs gefail y gof, a melus iddo ef fyddai deall fod eisiau pedoli'r ceffyl, neu fyn'd a rhywbeth i'r efail. Ond,— " Mae John yn myn'd i Loeger, A hore fory'r â ; Mae gweddw fam y hachgen, Yn gwyhod hynny'n dda ;