Skip to main content

áptp ç^uâi Cyf. IV. CHWEFROR, 1891. Rhif 2. WILLIAMS PANT Y CELYN. 1717—1791- |AE hanes y " Per Ganiedydd," fel hanes llawer o'r rhai a adawsant eu dylanwad yn ddwfn iawn ar y byd, yn hynod brin ac ansicr,—dim ond ychydig o ffeithiau am ei berthynasau, lle ei enedigaeth, ei gartref, a'i dröedigaeth o dan weiuidogaeth nerthol Hywel Harries. Adnabyddir ef yn fwyaf neillduol fel awdwr barddoniaeth addoliadol yr eglwys. Chwi a wÿddoch fod Cymru yn wlad y beirdd ; ond nid wyf yn tybio y methwn lawer pe dywedwn, —o'r holl feirdd, 0 ddyddiau Aneurin hyd ddyddiau Emrys ac Eben Fardd a Hiracthog; ac o'r holl farddoniaeth a gyfansoddwyd, o'r Gododin hyd yr awdl gadeiriol yn yr Eisteddfod Geuedlaethol ddiweddaf ym Mangor, fod enw Williams yn fwy adnabyddus, a chaneuon Williams yn parhau yn ddyfnach yng nghof y gcnedl, na'r oll gyda'u gilydd. Rhaid addef fod llawer bardd yn well ieithyddwr, ac yn fwy gofalus gyda'r gynghanedd a'r odlau na Williams, ond eto saif ef yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na hwynt oll. Pan êl gweithiau prif feirdd Cymru, yn enwedig yn y mesurau caethion, yn angof, bydd ei Theomemphus, ei Olwg ar Deyrnas Crist, ei Farwnadau, ac yn enwedig ei Emynnau, yn dyfod yn fwy adnabyddus ac yn fwy anwyl. Mae hwn,