Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. III. TACHWEDD, 1890. Rhif 1: EMYNNAU CYMRU. |AWR, ond nid rhy fawr, yw y lle roddir yng Nghymru Fydd i emynuau Cymru. Yno y dywedir fel y maent wedi profi yn foddion iach- awdwriaeth i íìloedd o bechaduriaid, ac yno hefyd y dadleuir yn gryf ac yn gadarn y dylid eu troi i iaith y Saeson, " fel yr achuber hwyhtau hefyd." Llama ein calon o lawenydd wrth weled ambell i hen bennill yn ymddangos mewn gwisg newydd ddisglaerwcn, ac yn honno yn edrych mor hoew a thrwsiadus a phrydferth, os nad lawn mor gryf a chadam, ag erioed ; a dyinuniad ein calon ydyw ar i gannoedd eto gael eu gwisgo yr un mor hardd, ac ar i'r Yspryd eu cludo ar ei adenydd dros Glawdd Offa. Wedi hynny dygid y Saeson beilchion a ffroen-uchel i weled fod yn byw yn eu hymyl nifer o boblach dlodion sydd, yn bendifaddeu, wedi llwyddo cystal, os uad yn llawer gwell, na hwy i ddatgan eu teimladau a'u syuiadau crefyddol mewn barddoniaeth. Byddai d'od i deimlo h\ n yn rhan o iachawdwriaeth i'r Sais; rhaid fyddai iddo gredu fod y Cymro hefyd yn rhywun ag y mae iddo waith yn y byd. Ond pa faint bynnag o'n dyledswydd ddichon fod yn y cyfeiriad yna, ymddengys i mi fod dyled- swydd bwysicach, ond haws, o bosibl, ei chyflawni, dipyn yn nes atom. Pa nifer mawr o'n hemynnau gwych sydd, â llef uchel, yn llefain yn ein hwynebau, gan ofyn i ba beth y maent hwy dda, a pha waith sydd iddynt hwy i'w wneyd ? 41