Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<fprp (xji|íî(l Cyf. III. HYDREF, 1890. Rhif 10. EISTEDDFOD BANGOR. JiUM yn hir ar gyfyng gyngor a awn i'r Eisteddfod eleni a'i peidio, a bu llawer yn yr un benbleth a minnau. Yr oedd y tywydd yn wlyb er's wyth- nosau, y gwair yn pydru a'r ŷd yn methu addfedu, a meddyl- iem mai lle oer a di groesaw fuasai glan y mor ar dywTydd fel hyn. Yr oeddym wedi clywed hefyd fod yr Eisteddfod wedi syrthio i ddwylaw anrasol, a fod ychydig dduwiolion Bangor wedi troi eu cefnau arni ; ac ofnem ninnau na byddai yn llwyddiant. Heb law hyn i gyd yr oeddwn wedi darllen program y cyfarfodydd a'r cyngherddau, a gwelwn mai Seisnig fyddent i gyd ; ond gwyddwn yr ail elwid am bob un o'r ychydig ganeuon Cymreig gan fechgyn y chwareli. Rhwng popeth, meddyliwn mai Eisteddfod wael a thruenus fyddai Eistcddfod Cymru yn y flwyddyn 1890. Dychmygwn gael fy hun yn eistedd ar feinciau pren gwlybion pabell eang, a'm traed mewn bìawd llif a dwfr, a'r glaw'n diferu drwy'r llian uwch ben. Gwelwn ambell i Sais coegfalch ymysg y cadeiriau gweigion o flaen yr esgynlawr, ac efe'n tybied fod yr Eisteddfod yn well na'r tywod gwlyb a'r cychod budron"; gwelwn ambell i gwmni bychan o Gymry yma ac acw yn torri ar unigedd eang y meinciau ; gwelwn Sais modrwyog mawr ar y llwyfan yn adrodd ei hen ystori am Duduriaid ac esgobion Cymreig, ac am gariad y Cymry at eu heisteddfodau. 37