Skip to main content

ẂÎPP álíM. Cyf. III. MAWRTH, 1890. Rhif 3. DE WI S AN T. [CHYDIG wyddis am Ddewi Sant, ac y mae hynny, ond odid, yn un rheswm am ei fri. Gwyn eu byd y llyfrau a'r bobl nas deallir, ac na wyddis eu hanes, hwynt-hwy sy'n byw ym marn a bywyd byd. Ni buasai Plato ac Aristotle yn cnwog heddyw pe buasai pobl yn eu deall ; oud gan nas deallir hwy, gall unrhyw un ddarllen ei syniadau ei hun iddynt, ac am hynny y mae'n barod i ganmol y llyfrau oherwydd y syniadau gwir a .doeth sydd ynddynt. A phe buasem yn gwybod hanes Dewi Sant, ac yn deall gwir ystyr yr hanes hwnnw, y mae'n bur debyg y buasai wedi ei gondemnio er's llawer canrif,— buasai'r unfed ganrif ar bymtheg wedi torri ei ben oherwydd ei Babyddiaeth ; buasai'r ail ganrif ar bymtheg wedi ei newynu oherwydd iddo, ac yntau yn Eglwyswr, siarad Cymraeg; buasai'r ddeunawfed wedi ei warthruddo am erlid Pelagius, yr hyn o'i gamgyfieithu yw Morgan; a buasai ein.hoes uchel-eglwysig erlidgar ni wedi ei foli nes y buasai'n destun melldith i bob Cristion, oherwydd iddo ddweyd gair bach am y Gwyddelod, ac oherwydd iddo achub yr " Eglwys yng Nghymru" rhag y rhai a fynnent ei dinystrio. Nid wyf yn honni fy mod yn gwybod rhyw lawer o Hanes. Er hynny, yr wyf yn barod i addef, gyda'r gwyleidd-dra sy'a weddu8, fy mod yn gwybod mwy na rhai. Meddyliwch am