Skip to main content

■ i Cyf. III. CHWEFROR, 1890. Rhif 2. BEIRDD CYMRU. GAN S. WYXN, LLüNDEN. [RIF nodwedd y deffroad Cymreig ydyw'r dyddordeb gymerir yn hen feirdd Cymru. Ac er cywilydd i ni yr wyf yn dywedyd, dylasai y dyddordeb hwn fod wedi ei ennyn ynnoin flynyddoedd a blynyddoedd yn gynt. Hwyr y deffroisom, ac ychydig iawn ydym wedi ei wneyd eto ; nid ydym wedi gwneyd cymaint a rhoi Dafydd ap Gwilym yn nwylaw'r werin, na Dafydd Naumor neu Dudur Aled yn nwylaw'r ysgolheigion. Wythfed rhyfeddod Cymru ydyw ei hanwybodaeth am ei beirdd ei hun. Gwyr pob Sais fu mcwn ysgol rywbeth am Shakespear a Milton ; gwyr pob Ysgotyn, pa un bynnag a fu mewn ysgol a'i peidio, am Scott a Burns. Ond gofynner i Gymro am Ddafydd ap Gwilym neu am Oronwy Owen, a cheir ei fod yn gwybod yr un faint yn union am danynt ag a wyr am Hafiz a Firdausi. Hyd yn nod ymysg llenorion proffesedig, nid ydyw pethau nemawr gwell. Gwyr holl fechgyn gwladgarol Cymru rywbeth am enw Dafydd ap Gwilym, ond iii wyddant am ba beth yr ymdrechai, na pha gyfoeth a roddodd i'r byd. Y n»aent wedi darllen mewu rhyw erthygl arwyncbol, fe allai, am ei helynt gyda'i gar-