Skip to main content

HELYNT Y CLADDU YN LLANFROTHEN. 59 T ei hun. Yr oedd telerau cyfeillgar allan o'r cwestiwn ; ac os- yw Rheithor Llanfrothen yr hyn ydoedd y diwrnod hwnw— yr unig ddiwrnod y bum erioed yn ei bresenoldeb—yr wyf yn sicr na wnai hyd yn nod boneddwr o safle gyffredin ei hoffi. Gwelsom ein bod wyneb yn ngwyneb âg un o ddau beth—un ai caethwasaeth parhaus neu frwydr am ein hiawn- derau. Fe ddarfu i ni ymgynghori â lliaws o awdurdodau ar gwestiwn y claddu. Un o'r rhai hyu, ag sydd wedi astudio» y cwestiynau hyn yn fanwl, a ysgrifenodd ar y 30ain o Ebrill,. 1887 :— " Oddiwrth y ffeithiau a adroddir yn eich llythyr, ymddengys yn- eglur—1. Bod y tir a ychwanegwyd at y fynwent blwyfol wedi ei fwriadu i fod yn perthyn i'r plwyf, a'i fod, mewn gwirionedd, wedi ei ddal a'i ddefnyddio fel y cyfryw. O ganlyniad, y mae yn dyfod o fewn terfynau Deddf Ciaddu 1880.—2. Bod yn ansicr pa un a gafodd y tir ei drosglwyddo mewn ffordd ffurnol pan y rhoddwyd ef.—3. Nas gall unrhyw weithred a wnaed yn 1881 yrayraeth â'r telerau ar ba rai y delir y tir. Nid yw o ddim pwys pa un a gysegrwyd y tir ai peidio. Yr anhawsder yn y mater ydyw cael allan ffordd i benderfynu y cwestiwn. Ni wna yr Ysgrifenydd Cartrefol presenol eich hplpu, os gellir peidio mewn ffordd yn y byd ; a'r unig lwybr a argymhella i'm meddwl i ydyw, i Anghyd- ffurfwyr gymeryd yn ganiataol fod y tir yn ddarostyngedig i ddeddf 1880, a gweithredu yn unol â hyny. Os bydd i'r Rheithor eich erlyn, credwyf y byddai yn anmhosibl iddo enill ei bwynt. Y mae hwn yn un o'r materion hyny y bydd diysgogrwydd mewn amddiffyniad o iawnder cyfreithiol yn dcbygol o lwyddo." Cynghorwyd ni hcfyd gan ddau aclod Sencddol—un yn gyfreithiwr enwog, a'r llall yn ynad profiadol—i fyned ymlaen pan ofynai rhywun am gael ei gladdu o dan y Ddeddf Newydd, er mwyn cael cynghaws prawfiadol. Ond i gyraedd yr amcan hwn, yr oedd anhawsderau ar ein ffordd. Un o'r rhai hyn ydoedd, fod yr offeiriad wedi cloi porth y fynwent. Auhawsder arall ydoedd, na chaniateid i'r clochydd, fel rheol, ddechreu cloddio bedd hyd nes y perffaith foddlonid y Rhoithor na ddefnyddid y ffurf newydd o gladdu. O'r