Skip to main content

LLEUAD YR OES. Rhn. 7.] GORPHENAF, 1827. [Cyf. 1. COFIANT Y PARCH. LEWIS JONES, GYNT GWEINIDOG YR EFENGYL YN MHLITH YR AN YMDDIBYNWYR YN NGHASNEWYDD PENYBONT, A'R BETW8, MORGANWG. Pell o loesau neu dyrfau daearfyd, A du ingedd mae wedi diangyd ; ■ Ni ddaw i'w breswylfa odfa âdfyd, Na galarnos o achos afiechyd; Mewnhedd mae'n gorwedd mewn gweryd—dirgel, Yn gudd heb awel na gweddau bywyd.—IbüAn ab Dewi. GALAR yw mtddwl bod cymaint o weision ffyddlon Crist yn cael myned i fro angof, heb neb yn gwneud coffadwriaeth am danynt. Pan fyddo enwogion y fyddin neuy llynges yn cael eu darostwngganfrenin brawisefyllfa pryfed y llwch, cant i un na ysgrifenir hanesion helaethion am danynt. Cyf- rolau mawrion a argreffir er cof am eu brwydrau, eu buddugoliaethau, a'u dewrder ar faes y gwaed. Paham ynteu yr anghofìr cedyrn wyliedyddion Sion, a gwroniad dihefelydd Imanuel? y rhai a ymdrechasant hardd ymdrech y ffydd, yr hon a roddwyd nnwaith i'r saint, y rhai fuant yn cloddio dan gestyll annuwioldeb, a ymladdasant yn ddewr o blaid eu Brenin, ac yn y di- wedd a aethantofaesygwaed, iwisgo coronau buddugoliaeth: llawer o'r rhai a fuont unwaith yn llosgi fel can- wyllau o zel dros Dduw a'iwaith; y rhai a ymddisgleiriasant fel ser y wawr- ddydd, ymddangosiad pa rai a fu yn fendith i'r byd a'r eglwys, y rlui a droisant lawer o eneidiau at Grist. Wedi iddynt gael eu galw gan angau oddiwrth eu gwaith at eu tragywyddol obrwy, annghofiwyd hwy, ac aeth eu coffadwriaeth, yr hyn sydd fendigedig, gyda ffrydlif amser, i fro annghof. Efelly y bn, ac y dygwyddodd hyd ymay at y gwas teilwng a'r gweinidog hybarch a goffeir am dano yn y Cofiant hwn. Nid oes dim i gofio am ei enw oddigerth Marwnad a gyfansoddwyd gan y Parch. Dafydd Wiliam, Gwein- idog y Bedyddwyr yn Lîanbedr-y-fro, Morganwg; ond y mae ei enw yn per- arogli yn yr ardal y treuliodd fwyaf o'i araser gweinidogaethol, hyd yn hyn. Gwrthddrych y cbfiant hwn oedd enedigol o swydd Ceredigion. Cafodd ei eni yn y flwyddyn 1701. Nid oes hànes am ei rieni, pa un ai crefyddol neu ddigrefyddol oeddynt, nac ych- waith yn mha le y cafodd ei dderbyn fel aelod o eglwys Crist. Ond cafodd ei dueddu yn fore i ymrestru yn myddin Iesu, oblegyd cawn ei fod yn dechreu cyhoeddi efengyl y tangnefedd idd eì gyd-deithwyr i'r farn, yn ddeunaw mlwydd oed.* Wedi iddo ddechreu pregethu, profodd duedd i dderbyn mwy o ddysgeidiaeth nag oedd yn flaenorol wedi ei fwynhau; achymer- odd hyny le yn fuan. Tebygol mai yn athrofa Caerfyrddin y treuliodd ei * Arferai'n llon ei arfau'n lym, Yn ddeunaw yn ngrym ei ddoniau; Yn union groes i bechod cas, E dynai maes ei gleddau. D. W. 2 B