Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUAD YR OE$. Rhn. 6.] MEHEFIN, 1827. [Cyf. l. COFIANT Y DOCTOR WILIAM BEVERIDGE, ARGLWYDD ESGOB LLANELWY. Paulnm sepultee distat inertise. Celala virtus. * Horas. GANWYD y dyn doeth, duwiol, a dysgedig hwn o.fewn y flwyddyn 1638, yn Barrow, yn swydd Leister. Am fod ei rieni roewn sefyllfa uchel a boneddigaidd, derbyniodd yn fore addysg rhagorol mewn Ysgol Ieithad- urol yn ei artrefle ei hun; ac ar y 24 o Fai, 1653, aeth yn astudiwr i Goleg St loan, Caergrawnt, yn mha le y cymerodd y gradd Gwyryf yn y Cel- íyddydau yn 1656, ac Athraw yn y Ceifyddydau, yn 1G60. Yr byn a sylwodd Mr. Hervey, bod y cristionogion hyny sydd yn cytuno mewn egwyddorion sylfaenol crefydd, ac yn gwahaniaethu mewn rhai pethau allanol, yn debyg i wely mewn gardd lysiau, a ellir gyda phriodoldeb mawr ei gymwyso i'r Esgob Beveridge, yr hwn er ei fod yn glynu yn agos wrth gyfansoddiad yr Eglwys Sefydledig, eto pell iawn ydoe<!d o letya un meddwl ann^haredig tu ag at y bobl ag oedd yn groes iddo mewn barn yn unig. Ar y trydydd o Ionawr, 1661, der- byniodd yr urdd o Ddiacon, yn eglwys St. Batulph, gan y Dr. Robert Saun- derson, Esgob Lincoln; ac urdd Off- eiriad ar y 31 o'r un mis, yn yr un lle, a chan yr un Esgob. Yn o fuan wedi ei urddiad, cyflwynodd Dr. Sheldon, . Esgob Llundain, iddo fywioliaeth yn * Ychydig o wahaniaeth sydd rhwng rhinwedd guddiedig à dingi claddedig* Yealing, yn Middlesex, yn mha le y parhaodd hyd y flwyddyn 1672, pan y dewiswyd ef yn Weinidog St Pedr, Cornhill; ac yna rhoddodd i fyny y fywioliaeth yn Yealing. # Wedi iddo gael ei osod felly yn y fam-ddinas, cyflawnodd ei ddyled- swyddau gweinidogol gyda phob ym- roddiad a gwresogrwydd dros achos Duw. Addysgiadol iawn bob amser oedd ei ymadroddion o'r areithle, a thwym a chariadus oedd ei gynghorion dirgelaidd. Llwyddwyd ei Iafur mor fawr, fel y dangosodd ei hun yn gyn- llun amlwg o dduwioldeb i'r byd i'w ganlyn. Ei rygluddiant a"i cymeradwyodd yn neillduol i sylw Dr. Hincham, yr hwn oedd yr amser hyny yn Esgob Llundain, fel ag y pennodwyd ef yn beriglor eglwys gadeîriol St. Panl. Ychydig* wedi hyny, dyrchafwyd ef gan y Dr. Campton, yr hwn a ganlyn- odd Dr. Hincham, i Archdiaconiaeth Colchester. Oddeutu yr amser yma y cymerodd y gradd o Athraw Duwin- yddiaeth; ac ymddygodd yn y swydd newydd hon, fel Archdiacon, yr nn mor weddaidd ag o'r blaen. Yr oedd rhaduoiaeth Duw mewn modd rhyfeddol iawn yn dyrohafu y gwrduwiolhwn i sefyllfaoedd rhagoro\ oddiallan, ac yn ei addasu ag effeithiau ei ysbryd oddi fewn, i fyw yn addas i r efengyl. Yr oedd yn teimlo ei an-