Skip to main content

LLEUAD YR OES. Rhn. 4.] EBRILL, 1827. [Cyf. 1. Y GWIR GRISTION AR EI WELY ANGAU, Darluniedig yn Oriau Ditcedâaf Luther. Lcetitia per mortem—Diddan ynangau.—Arwyddaib Ll'ther. YN Ionawr, 1546, aeth Luther i Eisleben (tref ei enedigaeth) ar dywydd garw, pan oedd ei iechyd yn wanaidd iawn, a'i fethiant cynnyddol yn arwyddo bod ei ymddatodiad yn agosi: dyben ei daith oedd cymodi rhai o Ieirll swydd Mansfield â'u deil- iaid. Pregethodd yn Eisleben amryw weithiau, ac ymlafuriai yn ddiflin i gyflawni y gorchwyl y daethasai ef yno o'i gylch. Ar y 17 o Chwefror gwelai ei gyf- eillion nad oedd haner iach, a chyngor- ent ef i aros yn ei fyfyrfa yn dawel, yr hyn a wnaeth, gan fynych gerdded yn ol acynmlaen, ac yn ymddiddanâhwy fel un yn ystyried ei ymddatodiad ger llaw. Arosai i edrych allan drwy y ffenestr ar brydiau, acaryr un pryd, yn ol ei arfer, yn gweddio yn wresog ar ei Dduw. Swperodd gyda ei gyfeiilion, ac yn ystod yr amser gwnaeth sylwadau ar àmryw ranau o'r Ysgrythyrau, Ar ol swper achwynai boen yn ei fonwes, i'r hwn yr oedd yn ddarostyngedig yn fynych, ond gwrthodai anfon am gym- morth meddygol, ac o ddeutu naw o'r glochsyrthiai i gwsg. Dihunodd am ddeg, a deisyfodd ar y rhai o'i amgylch fynedigysgu; wrth fyned idd ei ys- tafell dÿwedái, 'Yr wyf yn myned i orphwys at Dduw;' ac a adroddai eiriau y Salmydd, 'l'th law y gorch- ymynaf fy ysbryd ;' a chan estyn ei law dymynai nos dda idd ei gyfeiilion, ac annogai hwynt i wedilio dros achos Duw. Yna aeth i'r gwely, ond o gylch un. o'r gloch dihnnodd Jonas ac un arall ag oedd yn cysgu yn ýr ystaf- ell, ac a ddymynodd gael tân yn ei fyfyrfa, gan ychwanegu, 'O Dduw! glafed yr wyf; y mae poen gerwin yn fy monwes! yn ddiau yn Eisleben y bydd fy marwolaeth.' Yna aeth allan idd ei fyfyrfa yn ddigymorth, gan ad- rodd eto, 'l'th law y gorcbymynaf fy ysbryd.' Casglent ei gyfeillion o amgylch ìddo yn awr; cyffeiriau meddygol a weinid, ac ymddangosai bod ei boen yn Ueihau, a chanlynodd ychyòig chwys drosto'. Rhoddodd hyn gysur i'r rhai oedd yn bresennol, ond Luther a ddywedai, 'Chwys oer ydyw, blaenrhedydd mar- wolâeth; rhoddaf i fynu fy ysbryd.' Yna dechreuai weddio yn agos fel y canlyu: 'O dragywyddol a thrugarog Dduw, fy Nhad nefolî Tad ein Har- glwydd IesuGrist,yn yrhwny cred- ais, yr hwn a bregethais, yr hwn á gyffesais, yr hwn wyf yn garu ac yn addoli fei fy anwyl Achubwr a Phryn- iawdwr; yr hwn y mae'r Pab, a'r lluaws annuwiol yn gablu ac yn erlid, yr wyf yn erfyn arnat, fy Arglwydd Crist, derbyn fy ysbryd ! O Dad, er fy symud o'r byd yma, er bod yn rhaid i mi adael y corph hwn, eto, caf drigo gyda thi yn dragywydd, ac ni bydd alluadwy i fy nwyn oddiwrthyt! Yna adroddai eto dairgwaith y geiriau, 'l'th law y gorchymynaf fy ysbryd! Prynaist lí, O Arglwydd Dduw'r gwir-