Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUAD YR OES. Rhn. 2.] CHWEFROR, 1827. [Cyf. 1. COFIANT M. JEAN FFREDERIC OBERLIN, Gweinidog Waldbach, yn y Ban de la Roc, F/rainc. Ardal fynyddig yw y Ban de la Roc yn nhalaeth Vosges, yn y rhan Og. Orllewinol o Ffrainc, ar gyffiniau Sermania, a 220 milltirynOr. oParis. Cynnwysa ddau blwyf, Rothau a Waldbach. Y mae Rothau yn 1360 o droedfeddi uwch cyfeiriad y môr, a Waldbach tualSOO. Nid oedd yn y wlad yma gan mlyn- edd yn ol ond o gylch pedwardeg o deuluoedd, yu hollol amddifad o gys- tiron, ac heb ond ychydig o angen- rheidiau bywyd. Y mae nifer y trig- olion yn awr yn dair mil, yn cael eu cynnaiiaeth trwy amaethyddiaeth a gweithyddiaeth, ac yn ymddangos yn llwyth boddlongar a dedwydd. Y cyf- newidiad mawr yma sydd idd ei briod- oli i ymdrechiadau dyngarol M. Jean Ffrederic Oberlin, gwcinidog Wald- bach dros fwy na haner can mlynedd. Dechreuwyd y diwygiad gan ei rag- fìaenor, M. Stouber. Yn iawn wybod mai addysg ddaywsail pob rhagoriaeth gymîeithasol, efe a droes ei sylw yn gyntaf atystad yrysgolion. Yr oeildent mcwn sefyllfa warthus. Ni allai yr athrawon eu hunain iawn ddarllen na iawn ysgrifenu, ac amser yr ysgolheig- ion yn cael ei dreulio yn ofer o ddiífyg trefn. Cymerodd M. Stouber arno i ddysgu yr athrawon, a dygodd atliraw o wlad gyfagos, i drefnu yn eu mysg y y modd gorau i addysgu. Er maint ofergoelion y gwladwyr anwybodus, a'u hatgasrwydd at bob adnewydd-deb, deilliodd cryn ddaioni o'r moddion yma; gwelai y rhicni bod cynnydd eu plant yn llawer mwy cyflym nag o'r blaen, ac yn raddol a ddaethant i Hanodd M. Oberlin o deulu dysg- edig yn Strasburg, yn athrofa pa dref y derbyniasai ei addysg. Wedi pen- derfynu cyflwyno ei ddysg i achos crefydd, efe a ddaethai i weinidog- aethu i Waldbach yn 1767. Yma, yn neillduedig o gymdeithas, ac agos allan o gyraedd ei gyfathrachwyr, yr oedd ganddo hamdden dda i helaethu ei wybodaeth, yr hyn a fuasai yn analluog o wneud mewn sefyllfa mwy cyhoeddus. Ond yr oedd Oberlin yn cael ei dywys â dybenion rhagorach. Cyn gynted ag y gwelodd sefyllfa ei blwyf, a'r maes helaeth oedd i ddi- wygio, efe a ffurfiodd benderfyniad. Daioni ei blwyfolion oedd unig wrth- |ddrych ei ofal; erddynt a throstynt y llafuriai gyda diwydrwydd diorphwys, ac efe a fu byw i weled coroni ei ymdrechiadau á llwyddiant. Pan ddechreuodd y dyn defnyddiol yma ei yrfa weinidogaethol, nid oedd ysgoldy yn un o bum pentref ci blẃyf. Bwthyn tylawd o un llawr oedd yr unig gyfle i'r dyben. Symudwyd hyn o rwystr yn o fuan. Mewn rhan ar ei sost ei hun, ac mewn rhan trwy help ei gyfeillion yn Strasburg, adeiladodd M. Oberlin dŷ cyfleus yn un o'r pen- trefydd. Dyiynwyd yr engraifft yn mhen rhai blyneddoedd, ac nid oes pentref yn y plwyf yn awr heb ysgol- dy ynddo. Cytunodd M. Oberlin ag athrawon addas idd yr ysgolion, ac i barotoi y rhai ieuengaf i dderbyn addysg yn yr ysgclion hyn, efe a osod- odd athrawesau yn mhob pentref, a'r plant ieuengaf danynt. Hyfforddid hwy yuia, i weu, i nyddu, Äc. Cyn- werthfawrogi y breintiau oeddent yn uysgaeddid yr athrawesau a darlun- awr yn fwynhau. liadau o hanesyddiaeth ysgrythyrol a