Skip to main content

t! Rhif. 4.] EBRILL, 1829. [Cyf. III. HANES BYWYD A MARWOLAETE PELAGIUS. PARHAD OW RHIFYJV DIJTEDDAF. YPRIF bwnc o ddadl, yn yr am- ser hwiiw, oedd yr athrawiaeth o berffeithrwydd neu auhybechedd, megis y gelwiil hi. Pelagius a eglur- odd ei feddwl trwy wadu y gall nn- rhyw ddyn i'od o'i anian ei hun yn an- hybech ; tra ar yr un piyd yr haerai efe y gallai dyn fyw yn rhydd oddiwrth bechod, os y dymunai i wnenthur felly ; o herwydd y tiallai efe gael y nerth hwnw gan Ddtiw, os yr ymdrechai ac yr ymegniai yn ddifrifol i ochelyd pob pechod, ac i rodio yn ol y gorcbymyn- ion dwyfol. Hwn oedd dehongliad tirion yr esgob, yr hwn a ddygodd eiriau St. Paul yn mlaen, "À?z'd myJi,ond gras üuw" &c. gyd ág ysgrythyrati eieill; Pelagius yn cydsynio gyd àg " Et ego sic aedo,—Y cyf'ryw yw fy nghrediniaeth." Efe a ychwauegodd yn mhellach, " Bydded ef yn amtliema, yr hwn sydd yu dysgu y gall dyn gyr- haedd cyflwr o rinwedd perffaith heb gynnorthwy dwyfol." Ysgrifenodd Pelag'msamryw bethau tia y bu efe yn Jeiusaleni; ond o her- wydd eifod yn cyt'ansoddiyn y Lladin- aeg, yr oedd ei weithiau yn cael mwy o'u darlla'tn yn y gorllewiu uag yn y dwyrain, lle y preswyliai efe; gau mai y Groeg oedd iaith gyffredin y Cristionogion dwyreiniol. Yn glau ar ol cyinmant'a Jerusalem y cynnaíiwyd yr uu hòno yn Diospolis, neu Lydda, Yn y cyngor hwn, yn gystal a'r un blaenorol, cynnaliedig yn Jerusalem, o herwydd fod y Tadau yn annghynnefin â'r Lladinaec, nid oeddynt yn alluog i farnu yn nghylch syniadau Pelagins oddiwrth ei weith- iau ei hun ; ac yr oedd dau o'i brif wrthebyddion yn aninhresennol o blegid atìechyd. Ymddengys iddo ef drech-ddicheiln duwinyddion y gym- manfa hon, y ihai oediiync bedwar ar ddegmewn nifer; o iierwydd, trwy ei fedrusrwydd, efe a hollol ddiddymodd rym y cwbl a ddygwyd yn ei erbyn, iiaill ai o'i ysgrifeniadau ei him, neu eiddo Celestíus. Gyda golwg ar ewvllys rydd, efe a ganiatai l'od cymmorth Dnw yn cael ei weini i bawb a wnant iawn ddefnydd o'u gallu, trwy ddewis yr hyn sydd dda: ond pan y bydd dyn yn peehu, ei fod yn feius trwy ei ddewisiad rhydd ei hun. Efe a tìdaliai fod teyrn- as nefoedd wedi cael ei haddaw ; hyny yw, i'od íToidd iachawdwriaeth wedi cael ei gwneud yn adnabyddus yn yr Hen Destament; hyn a gadarnhaodd efe oddiwrth y geiriau yn Daniel, " Seintiau y Goruchaf a etifeddant y deyrnas." Gyda golwg ar fyw yn ddi- bechod, efe a addefodd "ei fod wedi haeitt y posiblrwydd i ddyn fyw yn ddibechod, a chadw gorchymynion Duw,osy mynai; ond raai ihodd Duw oedd y gaüu hwn :" ond nad haerasai efe " fod unrhyw ddyn, yr hwn, o'i febyd i'w henaint, ni wnaethai bechod erioed : ond ar ol ei ddychwelyd oildi wrth ei bechodau, y gallai ef'e, trwy ei ymdrechiadau ei hun, yn gyssylltiedig â gras Duw, fyw heb bechod." Ond nad oedd efe yn meddwl dywedyd, "Nad oedd efe drachefn yn agored i syrthio." Pethau ereiil cyssylltiedig â'r holiad hwnw, ag y dywedid eu bod yn gynnwysedig yn ei ysgrifen- iadau ef, efe a'u gwadodd; ac wedi gofyn iddo, a ddiofrydai efe hwy, efe a atebodd,Gwnaf,—ond megis ynfydion yn hytrach na gau-ffyd(iiaid; o her- wydd efe a ystyriai y ptthau a haerid fel afresymolion. Mewn peithynas i'r ainrywiol beth- an a ddygid yu mlaeii o ysgrifeniadau Celestins, nid oedd ef'e yn tybied ei hun yn rhwym i sefyil at honiadan gwr arall; ond os oedd ynddynt un peth gwithwyneb i'r athrawiaethau Catholic neu gyffrediuol, yr oedd efe yn eu diarddelwi hwy, ac yn diofrydu pawb a wrthwynebeut athrawiaethau yr eglwys. 12