Skip to main content

ftltttafr 8* #tî Rhif. 1.] IONAWR, 1829. [Cyf. III. Y BRENIN ARTHUR. O'R holl frenhinoedd a deyrnasas- ant ar y Prydeiniaid, ni thros- glwyddwyd enwau neb o honynt gyda mwy bri i'r oesan dilynol nag eiddo Arthiir, cofFadwriaeth yr hwn sydd wedi aros er y cyfnewidiau mawrion a gymmerasant le, ac er yr holl cìi wyldro- adan brawychus a gylchynasant eu gilydd er ei amser ef hyd yr awr hon. Y mae yr ysgrifell wedi ei defnyddio er yn foreu i osod allan ei ragorion, ac y mae ymenyddian llaweroedd wedi bod yn dra fr'rwythlon mewn pob dyf- cisiau er ei wisgo mewn harddwch dychymygol; a rhaid, er mwyn gwneud cyfiawnder â'i enw, ei ddiosg o r gwa- hanol wisgoedd a roddwyd am dano gan fynachod penboeth yn yr amrywiol ffugchwedlau a ysgrifenasant. Ond am mai mwy dymnnol i'r gwron ym- ddangos yn ei wir gymmeriad a'i nod- weddiadau priodol ei hnn, nag yn y rhai a dadogir iddo gan haneswyr, gwneir pob ymdrechiad i ymwrthod á'r hyn sydd amhëus, a thraddodir yn nnig yr hyn y mae y tebygolrwydd mwyaf ynddo o'i fod yn wirionedd. Arthur ydoedd fab Meirig abTewdrig, Tywysog y Prydeiniaid Siluriaidd yn nechreuady chweched ganrif, yr hwn, mae'n debyg, ydyw yr Uthyr, neu yr Uther, o fri mawr yn yr hen ffug- chwedlau; enwad, mae'n debygol, a roddwyd iddo herwydd ei orchestion rhyfeddol yn ei frwydrau â'r Sac- soniaid. Yn mherthynas idd ei fam, yr ydys mewn anwybod pwy ydoedd, ac nis gellir ymddibynu ar chwedl Jeffrey o Fynwy, yr hwn a ddywed genhedlu o Feirig Arthnryn anghyfreithlon, yn ei gyfrinachau âThy wysoges brydweddol o Gerniw. Dywedir fod ganddo chwaer o'r enw Ánna, yr hon a briod- es Llew, brawd Urien,Penaeth y Pryd- einiaid Cumbriaidd; a'r Anna hon ydoedd famMedrod, yr hwu a luniodd lawer o fradwriaethau yn erbyn ei ewythr Arthur, fel y sylwir rhagllaw. Yn ol a ddywed rhai haueswyr, ganed ArthurynTindagelynNgherniw, yr hon wlad a gyfaneddid y pryd hyny gan bobl o'r un cyff, mewn arferiad o'r nn iaith, ac yn blaid ynyr un cyng- rair er gwrthsefyll gormes y Sacson- iaid. Ac wrth ystyried hyn,nid ydyw annhebygol na fyddai Meirig yn cael ei arwain, yn neillduol ar achosion ei hyntiau milwraidd, i gyfaneddn ar brydiau yn y parth hwn o'r wlad. A dywed y Trioedd fod gan Arthur uchel Iys yn Ngherniw, a elwid Celli- wig; ond pa nn ai'r un ydoedd hwn a Tintagel, y mae yn anhawdd ar y pryd hwnddywedyd. Am ddyddiau ieuengaidd Arthur, a'i ddysgeidiaeth foreuol, nid oes oud ychydig idd ei fynegi; ond iddo pan yn ieuanc gael ei ddysgu mewn arfer- ion milwraidd a ellir gasglu oddiwrth natur yr amserau, yn nghyd âg iddo yn moreuddydd ei oes gael ei ddethol i arglwyddiaethu ar y Prydeiniaid. Ac y mae yn debygol wrth ystyried cymmeriad ei dad Meirig, yr hwn oedd dra selog i ymledanu egwyddorion Cristionogaeth yn mhell ac agos; a'r hwn hefyd a seíydlodd ysgoldy Llan- carvan yn Neheudir Cymrn, nad es- geuluswyd, hyd yr ydoedd alluadwy, argraffu ar feddyliau Arthur bethau pwysig crefydd, yn ol eu hymarferid yn yr oes hòno. Yn nghylch y flwydd- yn 517, galwyd Arthurtrwy gyd-ddew- isiad i lywyddu Prydain, ac i arwain ei byddinoedd yn erbyn gallu cyn- nyddol yr estroniaid Sacsonaidd, un- wedd ag y gwnaed mewn amserau boreuach, pan y pennodwyd Caswall on a Charadog yn awr galed cyfyng- der i wrthwynebu arfau cedyrn a Hwyddiannus y Rhnfeiniaio. Yn ol hanes rhai nid oedd Arthur y pryd hyn dros bumtheg mlwydd oed, er cyn hyn arferai ei awdurdod fel Tywysog dros ei dreftadaeth ei hun yn Neheudir Cymru. Coronwyd ef gyda mawredd agorwychdermawr gan üyfrig, Arch- esgob Llandaf, yn Nghaerlleou-ar- wysg, ger gwydd amryw o Dywysogion Prydeinaidd, y rhai a alwyd yn nghyd er cadarnhau ctholiad y wladwriaeth.