Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUAD YR OES. 5B Rhif. 10.] . HYDREF, 1830. [Cyf. IV ADGYFCDIAD Y OTEHtW A'H FARN FAWB. T71R lleied y parch a ddengys rhai i -*-^ orucliaf Air Duw, er fod ei gyn- nwysiad yn caelei annghredu, a'iddwyf- <il awdurdod ei wadu; etto, trwyddo, fel cyfrwng, yr amlygir i ni feddwl ein Crewr, ynddo y datguddir llwybr l>ywyd, ac o'i chwiüo y ceir hysbys- rwydd am y pethau a berthynant i fyd arall. Canmoled y Chiniaid ragorol- deb deddfau Confusius; ymhyfryded yr Hindwaid yn mherffeithrwydd rheolau eu Sharters ; a pheroriaethed Tyrciaid harbaraidd fawl parhaus i gynlluniau eu gau-broffwyd; ein Crist ni a ddyg- odd fywyd ac anllygredigaeth i'r goleu- ni; a chwalodd y tywyllwch a orchudd- iai ddyffryn cysgod angau ; a wnaetb- wyd yn oleuni i'r cenhedloedd, ac yn iechydwriaeth Duw hydderfynau eithaf y ddaear. O dan ei ddysgeidiaeth ef y'n dygir i adnabod pethau ysbrydo}, i ymwrthod S. phethau cnawdol, ac i feddiannu gobaith da trwy ras. Yn hyn yr ymddcngys rhagoroldeb, ardderch- ogrwydd,acuchafiaethy grefydd Grist- ionogol ar holl grefyddau y byd; pan yn tywyllu ar bagan yn awr ei ddad- ymchweliad, pan yn ammheus ar eilun- addolwr yn nghyfyngderau ei ymddat- todiad, a phan y byddo dychrynfeydd anamgyffredadwy yn ysgwyd yr an- nuwiol ar derfyn byd tragywyddol; y mae tystiolaeth gadarn yr efengyl yn atteg safadwy i'r Cristion, na chyfrgollir ef yn y glyn; ond y bydd iddo, er i'w babell gael ei malurio, rhagllaw or- phwyso oddiwrth ei lafur, huno yn y beddrod, a'i ysbryd yn berffeithiedig gyda'r aneirif luoedd yn y gymmanfa bur, Ile yr addolir Crewr y bydoedd mewn purdeb, y molir Pryniawdwr yr hil ddynol mewn gwisgoedd o anfar- woldeb, ac y dysgwylir yn amyneddgar am dywyniad gwawr boreuddydd yr adgyfodiad; pryd y Hwyr ddryllir llyff- etheiriau'r bedd; y datodir rhwymau angeu ; ac y llyncir uffern i fynu mewn cyflawn fuddugoliaeth. Gan fod yr athrawiaeth o Adgyfodiad y meirw, a'r Farntfawr, yn un o brif erthyglau ffydd pob pleidiau Cristionogol, wediteilyngu cymaint sylw yn mhob ocs a gwlad, a'r meddwl myfyrgar yn ei chael yn gefn- for annherfynol o uwch naturiolryfedd- odion, yn ffrydlif barhaus oddiddanwch pur, ac yn gronfa anfesurol o'r hyfryd- wch mwyaf paradwysaidd ; nid anfudd- iol y weithred o rodio hyd ei meusydd, He y teyrnasa oesawl wyrddni ar eillys- iau; tragywyddol flagur ar ei phlan- higion; a gwên anfarwol ar ei holl flodau. Yn awr edrychwn arni yn ei gogoniant, modd y delom allan o honom ein hunain, i fwynhau melusderau cyf- ainmod hedd ein Duw; y gwneler ni yn amyneddgar dan lifeiriant o orth- rymderau, ac yr adfywier ein ffydd i ymgynnal yn ein fîbrdd, hyd nes y caffom gyflawn fwynhad o'r tir dymunol mewn addcwid i'r rhai oll a ofnant Dduw, ac a ymgadwant rhag drygioni. Y mae yr athraniacth hon yn cacl ci chadarnhau gan unol-lais, a thnry holl ysgrythyrau y Dw'ÿfol wirioncdd. Y mae yu dwyn perthynas hanffodol, cyssylltiad anwahanadwy, ac undeb annatodol â'r Iesu, yr hwn yw yr " Ad- gyfodiad a'r by wyd;" am hyny an- nichonadwy credu y naill, ac ymwrthod ä'r llall; ymddiffyn un, ac ergydio'r 37