Skip to main content

LLEUAD YR OES. Rhif. 7.] GORPHENAF, 1830. [Cyf. IV. COFIANT Y DIWEDDAR BARCHEDÎG JOHN WILLIAMS, PANTYCBLYN. "O YDD 'enw Williams, eyfansoddydd •"-*yr Emynan, ac awdwr Golwg ar Deyrnas Crist, Theomemphns, ynghyd ag amrai lyfrau ereill, mewn bri achoff- adwriaeth felus yn y Dywysogaeth, tra y lleisir tôn, ac y darllenir barddoniaeth, o fewn cylch eí therfynau. Mwynhaodd y tywalltiadáu helaeth, a gwelodd eff- eithiau grýmus yr Ysbryd Glan mewn argyhoeddiadau; a chafodd am ryw ys- baid o'ioes gyd lafurio, a chyd weith- redu â Harris, Rowlands, ac ereill o ged- yrn Duw, y rhai a roddasant Gymmru mewn goddaith, ac a fuont offerynol i sefydlu y corff crefyddol hwnw, a ad- waenir wrth yr enw Trefnyddion Cal- finaidd. Dygwyd yr hen Williams i fynu yn yr Eglwys Sefydledig, a gwein- yddodd am ychydig o fewn i'w muriau, ond a'igadawoddcyn caelo hono eigyf- lawn urddau, a chyfeiriodd ei gamrau i'r prif ffyrdd a'r caeau, er gwahodd y rhai oeddynt ar drancedigaeth, i wledd briodasolMab y Brenin. Anneddai dros ei oes yn Pantycelyn, yr hwn le, gydag àmrai dyddynoedd ereill, oedd yn ei feddiant,—yma y ganwyd ei blant, ac oddi fewn i'r hen furiau y dygwyd ei deulu fÿmí. Enw ei fab hynaf 'ydoedd William, yr hwn a ddygwyd i fynu yn offeiriad yn yr Eglwys, a gweinyddodd yn ei chysylltiad hyd ei farw; a'r rhan fwyaf o'i oes a dreuliodd yn swydd Dyf- naint, ac ÿ mae amrai o'i bregethau, y rhai ydynt yn meddiant yr ysgrifenydd, yn brofion ei fod yn Dduwinydd rhag- orol, yn ysgrythyrwr da, ac yn cyflawni ei weinidogacth yn ofn, ac er gogonìant yrArglwydd. John Williams, gwrth- ddrych y byr gofiant hwn, ydoedd a * fab y Parch. W. Williams, yr hwn, un- wedd a'i frawd, a ddygwyd i fynu er bod yn weinidog yn yr Eglwys Sefydledig. Ganed ef yn Mai 1754, ac ymddengys mai yn yr ysgol ramadegawl yn Nghaer- fyrddin, y derbyniodd y ddysgeidiaeth hòno, sydd yn angenrheidiol, ond nid yn anhepgorol i bawb a neillduir i swydd bwysig gweinidogaeth y Testament Ne- wydd. ' Yn mherthynas iV fuchedd tra yn derbyn egwyddorion dysgeidiaeth yn yr ysgol grybwylledig, ymddengys eu bod yn ddychlynaidd iawn, ae y mae yn rhaid bod eì ddiwydrwydd yn fawr, yn gystal a'i ddoniau i ddysgu yn helaeth, oblegid yr oedd yr hyn a elwir, yn ys- golhaig perffaith, wedi treulio blynydd- oedd yn yr ysgol ddywededig, ac wedi myned drwy y prawf, gofynol i'r rhai a ymgeisiant à gweinidogaeth Eglwys Loegr, derbyniodd urdd Diacon gan yr Esgob Warren, yn Nghapel y Palas yn Abergwily, yn y flwyddyn 1778. Yr Eglwys y gweinyddodd yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth, ydoedd Llanfy- nydd, yn swydd Gaerfyrddin, ac y mae yr hen bobl, y rhai a'i hadwaenent y pryd hwn, yn coffhau ei enw gyda pharch, ac yn dwyn tystiolaetho'i ymddugiadau da a'i dduwioldeb, yn nghyd a phob rhinweddau a belydrent allan yn ei holl fuchedd drwy gorff y flwyddyn y Hafur- iodd yn eu plith. Yn 1779, cafodd urdd- au offeiriad gan yr unrhyw Esgob War- ren, ac a wasanaethai wedi hynyam ryw ysbaid yn Eglwys Llan-fair-ar-y-bryìn, ger Llanymddyfri, yn ei fro enedigol, ac yn Eçlwyg y Plwyf y rhoddodd yr an- adliad cyntaf a «Hweddaf. 25