Skip to main content

LLEUAD YR OES. Rhif. 6.] MEHEFIN, 1830. [Cyf. IV. ESCYNIAD CRIST I OGONIANT. TyrlD digon i Grist ddyoddefy loesion ■^™ digyffelyb, nid digon iddo farwar Galfaria, ac nid digon iddo adgyfodi oddiwrfh y meirw, heb iddo escyn i'r gogoniant; amgen buasai ein hiechawd- wriaeth ni mòr anobeithiól a phe nad ymddangosasai yn y cnawd, a phe nad ymwelasai â'r byd yr ydym ni yn byw ynddo. -Diau y cyfeirid at hyn yn ys- grifeniadau dynion santaidd Duw yn yr ocsau gynt, yn neillduol yn nghyfansodd- iadau Dafydd, brenin Israel; o leiaf yr esbonwyr a'r beirniadwyr mwyaf der- byniol a chymeradwy a ddy wedant mai at escyniad yr Arglwydd yn bénaf mae y gàn hòno yn cyfeirio, a gyfansoddodd efe ar symudiad yr arch o dy Obededom i'r babell a barotoisid er ei derbyniad j Salmxxiv.7—10. 'Obyrthdyrchefwch eich penau; ac ymddyrchefwcb, ddrysau tragy wyddol; a Bienin y gogoniant a ddaw i mewn. Pwy yw'r Brenin go- goniant hwn? yr Arglwydd nerthol a chadarn: yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel. O byrth dyrchefwch eich pénau, ac ymddyrchefwch ddrysau tragywydd- ol; a Brenin y gogoniant addaw i mewn. Pwy yw'r Brenin gogoniant hwn ? Ar- glwydd y lluoedd, efe yw Brenin y go- goniant.' Ac oddiwrth ymadroddion yr apostol Panl yn ei Epistol at yr Ephes- iaid, iv. 8. Mae'n amlwg bod Dafydd yn cyfeirio at escyniad Crist yn Salm lxvii. 18. 'Dyrchefaist i'r uchelder, caethglud- aist gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion} ìe i'r rhai cyndyn hefyd, fel y preswyliai yr Arglwydd Dduw yn eu plith.* A phan mai yr apostol yn dang- os, roddi i bob un o'r saint ras, yn ol wesur dawn Critt j mae'u chwanegu:— • O herwydd paham y mae efe yn dyw edyd, Pan ddyrehafodd i'r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion.' A chyn ei farw, pan oedd efe eto gyda ei ddyscyblion, mynych y dywedodd wrthynt am ei es- cyniad at y Tad.—• Yr ydwyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad; yr ydwyf yn myned i barotoi lle i chwi; yrydwyf yn dyrchafu at fy Nhad i a'ch Tad chwithau, a'm Duw i a'ch Duw chwith- au.* Gwelodd y dyscyblion ef.wediei adgyfodiad, buont yn ymddyddanu ag ef, a gwelsant ef yn escyn mewn cwmwl goleu oddiar fynydd yr Olewydd i'r nef. Am hyny, afreidiol profi yr hyn, nas beiddia neb sydd yn derbyn yr ysgryth- yrau fel gair Duw, ei wadu. Y Ue i ba un yr escynodd ein Hargl- wydd glan ydyw y Nefeedd; gorsedd- fainc y Duw Hollalluog, a'r hon a elwir gan y Salmydd, ' Nef y Nefoedd;' ac mewn un màn dywedir ei fod wedi es- cyn goruwch yr holl nefoedd. Yn et waith yn escyn i ogoniant, gwiriwyd y proffwydoliaethau oeddynt wedi myned o'r blaen; dangoswyd ei fod wedi gor- phen y gwaith oedd ganddo ei wneuthur ar y ddaear; ac eglurwyd ei fuddygol- iaeth ar ei holl elynion ; ie yn ei escyn- iad fe dderbyniodd addewid yr Ysbryd Glan. Oddi yno y mae yn rhoddi gras ac yn cyfranu doniau iddei bobl; ac yn ymddangos fel Eiriolwr drostynt gyda'r Tad. Gan mai i eiriol yr escynodd Crist i*r nefoedd, a chan ei fod yn eiriol yn bresennol, mae ei escyniad yn arwain yn union gyrrhol at hyn, yr bwn beth a drinir yc yr araeth hon. 21