Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEMADWR AMERiCAMIDD. Cyf. 24, Rhif. 5. MAI 1863 Rhif. oll 281. (ftraeifyoìíaít. GWxlITH YRYSPRYD GLAN". Pregeth gan y Parch. D. Dames (Dewi Em- lyri), Parisville, a draddodwyd yn nghwrdd üwarterol Grab Creeh, 0.,—a gyhoeddir yn ol cais y üyfarfod. [Parhad o t. d. 105.1 Ioan 16: 7, 8. Ond yr wyf fi yn dywedyd gwir- îonedd ichwi; Baddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys önid af fi, ni ddaw y Dyddanydd atoch: eittìr os mi a af, mi a'i hanfonaf ef atoch. Aphan ddêl, efe a argyhoedda y byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn. Titus3: 5,6. Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ol ei drugaredd yr ach- ubodd efè nyni, trwy olchiad yr adeuedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glan; yr hwn a dywalltodd efe arnora ni yn helaeth, trwy lesu Grist ein Hiach- awdwr. Dyledswyddah Ceistionogion MEWÎT OYS- TLLTIAD A GWEITHEEDlADAU AOHtlBOL YE Ys- PBYD GlAH. 1. Dylent wneuthur defnydd priodoì orr gwirionedd. Ni weithreda yr Yspryd i'r djben i ryddhau dynion oddiwrth en rhwymedigaeth hwy i weithredu, ac i ganiatau iddynt fod yn segur. Dylai pobl grefyddol fod yn llythyraü OristT i gario y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu, a'i draithu, a'u ddefnyddio yn arf ymos- odol i ddymchweled tyrau y fall, a chestyll annuwioldeb. Dylent argyhoeddi, ceryddu, anog gyda phob hirymaros ac athrawiaeth. Mewn cysylltiad â'r gwirionedd, ac â llafur Oristionogion yn dysgü, egluro, ac argymhell y gwirionedd, y gweithreda yr Yspryd Glan. " O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd." His gellir dysgwyl i'r Yspryd weithredu lle nad oes addysg grefyddol,, na moddion addysg,, a lle nid y w y gwirionedd yn adnabyddus. O ganlyniad dylid llafurio yn ddiwyd i addysgu dynion, iawn gyfranu iddynt air y gwirionedd, a'u harwain. yn ffordd gwybodaeth ddwyfol, cyn y gelür dysgwyl amlygiadau o ddylanwad achubol yr Yspryd. Nis gellir dysgwyl' yr Yspryd chwaìth lle nad yw prif egwyddorion yr efengyl yn. cael eu cofleidio, a'u pleidio yn ftyddlawn, megys y gwîriohedd am Fodolaeth Duw yn Däd,, Mab 10 ac Yspryd Glan, am gyflwr Hygredig dyn, am ymgnawdoliad ac lawn y Mab, am fawr ddryg- edd pechod, ac am yr angenrheidrwydd am ddylanwadau" achubol yr Yspryd Gkn. Nid ydys yn arfer clywed am ddiwygiadau crefydd- ol plith TJniversa]iaid, a rhai o olygiadau cyffelyb; a phan lwyddo rhai o olygiadau felly, gellir yn fwy priodol ei alw yn ddirywiad na diwygiad, o herwydd fel canlyniad o'u llwydd mewn ardal, canfyddir gweddio yn myned o arferiad, a thyngu a chablu yn dyfod i fri: sobrwydd yn diflanu, ac anghymedroldeb yû ymledu ar ei adfeilion; a theimlad crefyddol yn gwywo, a chaledrwydd haner-anffyddol yn blaguro yn ei _le. Nid yw Yspryd Duw j'm cydweithio â golygiadau niweidiol ac anys- grythyrol. Mae'n wir fod diwygiadau nerthol wedi cymeryd lle, gydag enwadau sy'n gwa- haniaethu m;ewn rhyw bethau, rnegys Henad' uriaid, Annibynwyr, Trefnyddion Wesleyaidd a Ohalfinaidd, Bedyddwyr, Esgobaethwyr, &c.r ond y mae y rhai yna er yn gwahaniaethit mewn rhyw bethau, yn cyduno yn lled ago* gyda phrif bynciau crefydd efengylaidd: ac o ganlyniad,, y mae Yspryd Duw yn arddel eu hymdrechion. Dylid dysgu dynion mewn gwwbodaeth o'r gwirionedd, o herwydd rhai wedi eu hegwyddori yn y gwirionedd, deiliaid yr Ysgol Sul, a rhai yn arfer mynychu moddion gras, gan mwyaf, yw deiliaid gweithrediadau achubol yr Yspryd Glan mewn diwygiadau. Yn y diwygiad mawr yn ngweithfeydd Myn- wy, Morganwrg a Ohaerfyrddin, yn 1849, pan yóhwanegwyd miloedd at yr eglwysi, deiliaid yr Ysgol Sul a gwrandawyr cyson oeddynt 'gan mwyaf oll. Ychydig o esgeuluswyr y moddion oedd yn eu plith, ac o'r ychydig hyny, ni ddal- iodd nemawr un ei ffordd, yn ol i lanw y diw- ygiad dreio. Yr un modd y bu yn y diwygiad mawr diweddar yn y "Werddon, deiliaid yr Ysgol Sabbothol, a gwrandawyr rheolaidd, oedd y nifer amlaf o'r dychweledigion yno. Dengys hyn, y dÿlid bod yn ymdrechgar i ddarbwyllo pawb ellir, i ddylyn yr Ỳsgol Sul, a moddion gras. Nid yr un fath wirioneddau ddefnyddia yr Yspryd bob ainser. Rhyw adnod o'r Ysgryth-