Skip to main content

Y CENHADWR AMERICANAIDD. Oyf. 23, Enif. 6. MEIÎEFIN, 1862, Rhif. oll 270. Bta.ttì)öìsa n P R E G E TII. Traddodwyd y bregeth ganlynol ar yr achlysur o farwolaeth Mrs. Jane Geaffiths anwyl wraig Mr. John Griffiths, [Ttica, yr hon a ymadawodd öVr fuehedd Jion ioedi eystudd maith, a ddaoddefodd yn datoel, Tach. 25, 1859, yn 52 mlwydd oed. GÁN Y PABOH. DAVID PEICB. Exodos 33 : 20. " Ac efe a ddywedodd, Ni' elli Weled tÿ wynob, canys ni'm gwel dyn a byw." Y mae y testyn yn cynwys rhan o atebiad yr Arglwydd i weddi Moses. Y mae y rhan fwyaf o'r gweddiau a gofrestrir yn y Reibl yn weddiau llwyddianus, ac wedi ei hateb yn gyf- lawn gan Dduw, ond y mae rhai eraill fel y weddi gysylltiedig â'r tesfcyn, yn cael eu gwrth- od yn y dull a'r amser a'r c^nwysiad a ddy- mnna y gweddiwr. Yr oedd Moses yn cael ei wrando gan Dduw,. braidd bob amser, er ei fod yn gweddio mor fynych, ac yn göfyn pethau mor fawr. Y mae genym esiampl nodedig o hyn yn y bennod hon. Yr amgylehiadau oeddynt y rhai eanlynòl. . Yr eedd y genedl wedi digio Daw trwy ei putein- ára gyda'r llo anr. Dywedodd yr Arglwydd wrth Moses na ddeuai efe ei hun gyda hwynt ddim peîlach, ond y gosodai angel i'w harwain. ¥n yr amgylchiad hwn y mae Moses yn ym- ©stwng ger bron yr Arglwydd, yn ymroddi mewn gweddi, ac yn dywedyd " Onid â dy wyneb gyda ni nac arwain ni oddiyma.'1'1 Fel pe buasai yn dywedyd, earem fyned yn miaen tua gwlad yr addewdd. Y mae y peryglon yn fawr, y gelynion yn lluosog, a ninau'n weiniaid. A gawn ni dy wyneb gyda ni? os na chawn, nac arwain ni ddim pellaeh. Nid ydym yn adnabod yr angel,ondyr ydym yndyadnabod di. "Gwel hefyd mai dy bobl yw y genedl hon." Tyred gyda ni, " Felly niyf aHh lobl a ragorwn ar yr holl boll sydd ar wyneb y ddaear." Dyma esiampl o weddi, Llanwodd ei enau â rhes- ymau, a chaniadhaodd yr Arglwydd ei ddy- mnniad. " A\r, Arglwydd a ddywedodd wrth Mosesygwnaf hefyd-y peth hyn a lefarahtp 16- Effeithiodd llwyddiant y weddi hon ar holl galon Moses. Meddyliodd y cawsai bob petb. a ofynai gan Dduw, am hyny y mae yn mynedi yn hyfach yn ei ofynion, a dywedodd "Dangos i mi attolwg dy ogoniant?'' Yr atebiad i'r weddi hon yw y testyn, "Ac efe a ddywedoddr ni elli weled fy wyueb, canys ni'm gwel dyn a byw." Yr oedd Moses wedi myned yn rhy bell, hi wyddai yn iawn am ba beth yr oedd yn gofyn,, am hyny, nis gallai yr Arglwydd o drugaredd ei ganiadhau, Ond ni byddai yn anmbriodoì imi sylwi yn y He hwn, Pan y mae yr Ar- glwydd, yn gwrthod gwrando gweddí ei bobl,, yn y dull^ yr amser, neu y peth j gweddianfc am dano, y mae bob amser yn clywed eu dy-- muniadau, ac yn rhoddi iddynt bethau mwy angenrheidiol ar yr adeg hono, na'r pethau y maent yn eu eeisio, Gallant hwy, gamgymër- yd wrth ofyn, ond nis dichon Duw gamgym- eryd wrth gyfranu. Ni chafodd Paul ei ddy- muniad, pan y ceisiodd dair gwraith am gaol gwaredigaeth o'i drallodion, ond cafodd lawn cystal rliüdd, uDigon i íify ngras -i." Bu yn gyftelyb y tro hwn. Er na ehaniadhawyd i Moses- ei ddymuniad, i gael gweled gogoniant yr Arglwydd ì'r graddau a ddymunai, cafodd olw-g ar ei holl ddaioni. Ac os na chafodd efe weled wyneb Duw, cafodd weled eu du cefn% a threfnodd yr Arglwydd iddo gael llechu yn ei ymyl, mewn agen yn y graig, er mwyn cael gweled y i-hyfeddodau mawrion hyn. Gwrth- ododd yr Arglwydd ei ddymûniad o drugaredd, " Canys ni'm gwel dyn a byẅ? Trowyd fy sylw at y testyn hwn gan ein hanwyl chwaer ymadawedig, Mrs, Griffiths, ychydig ddyddiau cyn ei marwolaeth, a dymunodd arnaf bregethu arno. Addewais wneuthur hyny os byddwn byw a galluog. Gofynais iddi, pa beth oedd ei hesponiad hi ar y geiriau, a dywedodd, "O! wedi marw y cawn weled Duw yn iawn." Yr oedd yn dymuno cael marw er's amrai ddyddiau cyn awr ei hymddatodiad. Gwnaf ddau sylw oddi- wrth y testyn: I, Oynwtsiad deistftad Moses. II. Yb Atebiad. . ; ;