Skip to main content

Y CENHADWR AMEËICAMIDD. Oyf. 23, Rhie. 5. AI, 1862, Rhif. oll 269. Btidjòrattljoùat-tl). COFIANT Y PARCH. THOMAS W. ROBERTS, GYST O NEW YOBK MILLS, OND YN DDIWEDDAF O OAYUGA BRIDGE, N. Y. Er na chafodd gwrthrych y cofiant hwn ond byr ddyddiau ar y ddaiar, aeth trwy fwy o wahanol amgylchiadau na llaweroedd a fu fyw ddwywaith yn hwy nag ef. Y mae llawer o bethau cysylltiedig a'i fywyd ag sydd yn ei wneuthur yn esiampl deilwng o efelychiad i ddynion ieuainc yn gyffredinol, ond yn benaf Fyfyrwyr a Phregethwyr ieuainc, ac y mae yr holl amgylchiadau cysylltiedig a'i farwol- aeth yn deilwng i'w cofrestru ar ddalenau hanesyddiaeth, a gosod enw y brawd ffyddlawn hwn yn mysg y dyrfa fawr sydd wedi croesi yr afon, o wlad y cystudd, y rhai nad oedd y byd yn deilwng o honynt. Thomas W. Robeets ydoedd fab Mr. William Roberts, ac Elizabeth ei wraig, y rhai sydd yn awr yn fyw, mewn gwth o oedran yn Turin, swydd Lewis, N. Y. Y maent wedi dwyn i fyny deulu lluosog, ac wedi cyfarfod â llawer o ystormydd, yn gymysgedig ag ambell i ddiwrnod teg, yn nhaith yr anialwch; ond diau rnai marwolaeth eu hanwyl fab Thomas, mab eu haddunedau a'u gobeithion, a mab oedd yn mhob peth yr hyn aallasent ddisgwyl iddo fod, (yn y fath fyd halogedig a hwn) a'i farw hefyd dan y fath amgylchiadau ag a gyf- arfyddodd efe, a'i farwolaeth sydd yn ddigon i lethu eu meddwl i dristwch anrhaethadwy, oni bai eu bod yn gwybod am ddiddanwch ymadroddion gair yr Arglwydd. Ganwyd Thomas Roberts yn mhlwyf Dar- wen, swydd Drefaldwyn, G. C, Hydref 10, 1830. Ymfudodd gyda'i rieni a'r teulu i America yn y fiwyddyn 1840, pan nad ydoedd ond ychydig dros naw mlwydd oed. Gan fod teulu ei dad mor lluosog, a'i am- gylchiadau yn lled debyg i'r rhan fwyaf a ymfudasant o Gymru i'r wiad hon, bu gorfod i Thomas droi allan i weithio yn ieuanc ac yn dyner. Oolled ddirfawr i blant yw gorfod yinadael yn ieuanc o olwg ac o dan ofal rhieni crefyddol a duwiol, fel llongaü yn cael eu gollwng o fiaen yr awelon heb na llyw, balastr, na chwmpawd. Felly mewn rhan fu tynged Thomas, ond bu cynghorion, gwreddiau, ao esiamplau tad a mam fel bachau ynddo wrth raffau cryfion, fel nad allodd fyned yn mhell gyda y rhai a redent i bob gweithred ddrwg. Bu am gryn amser yn gwasanaethu amaethwr a chafodd wybod am lafur a chaledi, yr hyn yn ddiau a'i cymhwysodd i lafur mwy yr amser oedd i ddyfod. Ei duedd cryfaf oedd at weithio peirianau melinau llifio, yr hwn waith a ddilynodd gan mwyaf hyd yr amser y dechreuodd efrydu ac ymroddi am addysg tuag at ei gymhwyso i waith y weinidogaeth. Nis gallai nodi y fan, y dull na'r moddion ei ddychweliad at yr Arglwydd; ond gwyddai fwy na hyn oll, sef iddo gael ei symud o farwol- aeth i fywyd. Byddai yn adrodd fod argraff- iadau crefyddol wedi dwysbigo ei galon yn foreu iawn, ond fod gorfod byw mewn tealu- oedd diweddi a chyda dynion diofn Duw, wedi lleihau yr argraffîadau hyny lawer gwaith. Soniaí gyda diolchgarwch i'r Arglwydd am un teulu y bu byw ynddo, sef teulu Mr. Bush. Ymddengys fod Mr. Bush yn wr duwiol iawn, yn gweddio yn ei deuîu, ac yn rhybuddio a chynghori pawb a fyddai dan ei ofal. Yr oedd gan Mr. Bush fab bron o'r un oedran a Thom- as, a mynych y cymerai eu hachos yn destyn gweddi wrth yr allor deuluaidd. Byddai yn gweddio mor daer drostynt y boreu fel nad anghofìent ei ddeisyfiadau ar hyd y dydd. Y mae yn debyg mai yn y teulu hwn y cafodd yr had da ddyfnder daiar yn nghalon Thomas, yr hwn a dyfodd yn ffrwyth mor doreithiog a chynar. Ni chafodd Mr. Bush fyw i weled yr had a hauodd yn tyfu mor gynyrchiol, ond y mae yn bur debyg iddo ef a Thomas gyfarfod a'u gilydd yo^ä^- Y mae San rieni a Pnenaû- teuluoedd anogaethau lawer i fod yn ffyddlon gyda gwaitn^i^uw " T loreu haua dy had." Y mae miloedd yn bau, nad ydynt yn gweled amser medi. Y raae gweddiau duwiolion yu 13