Skip to main content

Y CEfflADWR AMERICANAIDD. Cyf. 23, Rhif. 4. EBRILL, 1862. Rhif. oll 268. <£raetl)0ûau. Y PEÌT-BÜGAIL YN OASGLU EI WYN ADREF. GÄ.N T PAEOH. ö. GEIFFITHS, MILWAUEEE. Fel bugail y portha efe ei braidd ; ê.'i fraich y casgl ei wyn, ac a'u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mauiogiaid.—Esaiah 40: 11. .* Lluosog ydynt yr engreifftiau a geir yn y Beibl o Dduw ar y naill law yn arddelwi yr enw bugail, er gosod allan y berthynas agos gydrhyngddo a'r saint, ac o honynt hwythau ar y llaw arall yn ei gydnabod yn y cymeriad hwnw, ac yn llawenhau a hyderus ddatgan eu diogelwch a rhagoroldeb eu bywioliaeth tan ei arolygiaeth. Myfi yw y Bugail da—medd Orist, ac a ad- waen yr eiddof fì, ac a'm hadwaenir gan yr eiddof fi. Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen inau y Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. A defaid eraill sy gen- yf, y rhai nid y'nt o r gorlan hon:—y rhai hyny hefyd sy raid i mi en cyrchu, a'm llais i « a wrandawant; a bydd un gorian, ac un bugail. ^.Gyfenwir ef gan Paul yn Fugail mawr y def- aid, a chan Pedr yn Ben-Bugail, i'r hwn y mae yr holl is-fngeiliaid, neu weinidogion yr efeng- ýl, yn gyfrifol, ac oddiwrth yr hwn y derbyn- iant eu gwobr. Yr Arglwydd yw fy Mugail, ebe Dafydd, ni bydd eisiau arnaf. Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog : efe a'm tywys gerllaw y dyfroedd tawel. Efe a ddy- chwel. fy enaid: efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. lë, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angeu, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi: dy wialen a'th ffon a'm cysurant. Fel bugail y portha efe ei braidd, medd y prophwyd wedi hyny yn y testyn. Mae y gair Hebraeg sydd yn sefyll am "borthi" yma yn cynwys mwy nag a dros- glwyddir yn ein cyfieithiad ni o hono. Cymer i tnewn holl ddyledswyddau bngail yn gysyllt- iedig a'i ddiadell, megys eu harwaiu, eu ham- ddiffyn, ac edrych na byddo diffyg ymborth srnynt. Hyn oll a wneir gan Fugail ac Esgob 10 ein heneidiau i'r rhai sydd y.n dwyn nodau ei ddefaid ef. "A'i fraich y casgl ei wyn, ac a'u dwg yn ei fynwes "—ymddengys hwn i rni yn un o'r desgrifiadau prydferthaf a chyfaddasaf o dir- iondeb a hynawsedd y Goruchaf yn ei ddis- gybliaethau tuag at yr ieuainc gyda chrefydd yn ei eglwys. Rhaid i fugeiliaid wneud hyn beunydd wrth symud y praidd o'r naill gyfin- fa i'r llall ar hyd llwybrau anhygyrch a pher- yglus. Mae yr wyn tyner yn rhy lesg i'w di- lyn—mae y nant yn rhy ddofn iddynt ei chroesi eu hunain—y gaer yn rhy uchel iddynt lamu drosti, a'r tylau yn rhy seirth iddynt eu dringo. Gorweddant i lawr yn ddihoenllyd gan frefu yn dorcalonus hyd ces y daw y bugail i'w cynorthwyo a'u ctirio yn ei gol. " Ac a goledda y mamogiaid," neu yn ol cyfìeithiad arall a rhagorach o'r geiriau—a dywysa yn araf y rhai sydd yn magu. Ys- tyrir hyn o'r pwys mwyaf gan y bugail gofalus.. Er mwyn hyn y dymunai Jacob, wedi ei hedd- ychu gydag Esau gael ei ddilyn wrth ei ach- lysnr, a chyda throdiad cymedrol i Seir yn lle cadw i fyny gydag ef a'i wýr mewn teithian cynym. "Fy arglwydd.a wyr mai tyner yw y pîant, a bod y praidd a'r gwartheg blithion gyda myfi, os gyrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna yr holl braidd." Mae'n gysur nid bychan i weiniaid yn nghychwyniad eu gyrfa tua'r nefoedd, ac hefyd i'r hen, y musgrell a'r methiant yn Seion gael sicrwydd na chant hwythau fod mewn eisiau o'r cyffel- yb ofal ac ymgeledd tra yn pasio trwy anial- wch y byd; ond y rhagdderbyd y Gwaredwr ar gyfer eu holl anghenion—y gweryd hwynt o grafangau pob creaduriaid ysgüfgar a ymos- odant arnynt. Mai wrth fesur pan ddaw allan yr ymddadle»**â hwynt; ac yr ettyl ei wynt garw ar ddydd dwyreinwynt—y rhydd nerth i'r difíygiol, ac yr amlha gryfder i'r di- rym—y caiff ei fynwes glyd fod yn llochea iddynt rhag gerwindeb y tymhestloedd, a'i fraich alluog eu casglu oll wedi eu erwydriad-* au ar y ddaear l'r meusydd nefol fry, lle rhed Y dyfroedd bywiol pur ar le^»