Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEMIADWR AMERICANAIDD. Cyf. 22, Riiif. 12. RHAGFYR, 1861 Rhif. oll 264. ^Lraetljobau, PREGETH AR DDYLEDSWYDD EGLWYS AT EI GWEINIDOG, Yr hon a äradäodwyd yn Gonier, Swydd Allen, ẅ, Medi löfed, ar sefydliad y Parch. J. Parry, ae a anfonir tír Cenhadwb ar gais unfrydol y gynulleidfa. 1 THESSALONIAID 5: 12,13. Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yri eich mysg, ac yn eich llyw- odraethu chwi yn yr Argiwydd.ac yn eich rhybnddio. A gwneuthur cyfrif mawr o honynt mewn cariad er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich ìiunain. O dan yr amgylchiadau nid wyf yn gwybod yn iawn pa beth i'w lefaru. Nid ymhyfryd- wyf un amser mewn gwneud esgusodion o'r areithfa, ond buasai yn dda iawn genyf hedd- yw pe buaswn wedi cael ychwaneg o amser i barotoi fy mhregeth. Mae fy mrawd yma wedi rhoddi cynghorion priodol, pwysig, a gwerthfawr i'r gweinidog; disgyna arnaf finau yn awr, mae yn debyg, i roddi ychydig o gynghorion i'r eglwys. Diau fod ganddo ef amrai o fanteision a.rnaf fi. Yn un peth, buasai ef yn fwy addas i gynghori yr eglwys eto, am ei fod yn hynac.h yn y weinid- ogaeth. Peth arall, nid oedd ganddo ef ond un i'w gynghori, er eich bod chwi oll yn gwrando arno ef; mae yr hoil dorf yma gënÿf fiuau i'w cynghori. Nid oedd ganddo ef ond un ysgolaig: os nad oedd hwnw yn hoíìì ei wers, nid oedd ond un i'w feio a'i drin ýn ol lìaw. Ond os na byddwch chwi yn hoffi y cynghorion a roddaf i chwi, bydd yr holl gy'- nulleidfa fawr hon yn fy meio, gwgu arnaf, a gwiugo yn erbyn y symbylau. Olywais am ddyn unwaith a alwodd gy- nghorwr ato ar ol iddo íethu myned trwy rÿw orchwyl pwysig ei hun. Ond wedi iddo dde- chreu ei gynghori, nid oedd yn ei hoffi, aeth i wneud gwyneb cas arno, ac yn y diwedd gor- chymynodd iddo dewi. Gobeithiwyf niai nid l'ehy y gwnewch chwi a mi yn bresenol. Mao genyf un fantais ì ddweyd y gwir i g\d wrthyoh heb ofni caiügásgliadau yn ol Uaw—- 34 yr wyf yn mhell oddicartref, anewydd ddyfod yma, ac wedi dyfod yma y daethnm i wybod fy mod i bregethu ar ddyledswydd yr eglwys tuag at y gweinidog, fel, pa beth bynag a ddy- wedaf yn cyffwrdd a'ch amgylchiadan, neu yn groes i'ch teimladau, y bydd yn annichonadwy i chwi ar dir teg i gasglu fy mod yn gwneud hyny yn fwriadol oddiar fy adnabyddiaeth o'ch. helyntion, neu ragfarn gul tuag atoch. Bydd ystyried hyn yn ddigon i beri i chwi fod yn. agored a diragfarn yn gwrando arnaf o'r de- chreu i'r diwedd. Nid wyf wedi dyfod yma i ddwcyd dim yn fach am fy mhobl fy hun gartref chwaith. Meddyliwyf fod genyf ddigon o barch iddynt rhag gwneud hyny yn eu cefnau. Dywedodd fy mrawd wrthych am beidio clepian arno ef gartref. . Mae Ironton yn rhy bell i chwi i fyned yno i glepian arnaf fì. Ond ni waeth ganddo ef na minau hyny, ymddygwn yma at ein pobl gartref, nes bydd raid i chwi, os gwelwch hwynt, ddweyd wrthynt fod genym wir barch iddynt yn e.u cefnau yn gystal a'a gwynebau. > Awn at y pwnc bellach. Mae yraa undeb | pwysig wedi ei wneud —perthynas newydd > gyfrifol iawn wedi ei ffuríio rhwng fy anwyl ; frawd, eich gweinidog, a ohwithau fel eglwys. ; Mae dyledswyddau pwysig yn codi oddiar ein > gwahanol berthynasau a'n gîlycíd fel bodau ; moesol yn llywodraeth foesol y Jehofah bendi- ; gedig—megys dyledswyddau éfn perthynas a'r teulu, a'r llywodraeth wladol, ac ag eglwys Dduw. Nid y lleiaf yn mysg y rhai hyn ýw dyledswyddau eglwys a gweinidog tuag at eu gilydd. Mae Mr. Edwards wedi dweyd yn od- idog wrth y gweinidog am ei ddyledswyddau arbenig ef. Ymdrechaf finau, yn awr, alw eich sylw chwithau at eich dyledswyddau. Yn ein testyn gosodir hwynt allan mewn modd cynwysfawr iawn. Nid yw y Beibl yn gosod i lawr reol eglur a phennodol i ni weithredu wrtlri, yh mhob amgylchiad a'n cyferfydd. Ond mae pob egwyddor angenrheidiol ynddo, ac yr ydym iiinau wedi cael dealltwriaeth a gwybüdäeth—synwyr eyffredin i gymhwyso éi