Skip to main content

Cyf. 22, Ehif. 8. AWST, 18G1 Biitf. oll 2G0. ©raetljoìratr. P E E G E T II. Yn gosod allan y perygl i wneyd lieddwcìi an- amserol ae angliyfiawn a'r gicrthryfelwyr caethiwol. GAN Y PAECII. G. GPJFFITHS, MILWAUKEE. " Melldigedig fyddo yr hwu a w.nelo waith yr Ar- glwydd yn dwyllodrus, aîmelldigedig fyddo yi' hwn a attaiio ei gleddyl' oddiwrth waed.—Jer. 48 : 10. Dysga yr Ysgrytbyr ni nad yw Duw yn ymhoffì yn marwolaeth yr annuwiol—nad ew- yllysia l'od neb yn golledig—nad peth dymun- ol ganddo yw cosbi ei greaduriaid—mai ei ddyeithr-waith a'i ddyeithr-weithred ydyw hyny—nad ymgymera â hi hyd nes y metha pob moddion arall eu dwyn i'w lle—fod ei galon yn troi ynddo a'i edifeirwch yn cydgyn- eu pan y gorfyddir ef trwy hir wrthryfel per- sonau neillduol neu genhedloedd i ddod allan o'i fangre yn eu herbyn, ac i hogi ei gleddyf raawr a chadarn i ddial arnynt. Ond, er hyny, y mae genym yr uu awdurdod uchel i gredu "Os hoga efe ei gleddyf dysglaer, ac os ymafia ei law ef mewn barn, y dychwela efe ddial ar ei elynion, ac y tala efe y pwyth i'w gaseion—y meddwaefeei saethau â gwaed, â gwaed y lladdedig a'r caeth, o ddechreu dial ar y gelyn—mai byr waith a wna efe mewn cyfìawmder ar y ddaear, ond y gwna ef yn Uwyr, ac i bwrpas. Nid rhaid myn'd o'r ben- nod hon i. geisio profion o hyn, oblegid y mae y crybwyllion a wneir yma o bertliynas i natur a thoster y farnedigaeth oedd i ddisgyn ar Moab yn ddigon i'n hargyhoeddi o wirionedd yr haeriad. Ymddengys fod gan yr Arglwydd gyfres faith o achwynion yn erbyn y genedl hon, ac nad y leiaf o'r cyfryw oedd eu troiau bryntion a bradwrus tuag at ei ddewisol bobl ar wahanol adegau yn flaenorol i hyn,—" Oni bu Israel yn watwargerdd i ti?" Cyfeiriad, ond odid, at eu hymgynghreiriad gydag Edoui a theyrnas- oedd eraill i'w drygu yn nheymasiad Jehosa- phat, a'u gorfoledd yu eu caethgludiad wedi byny ì Babilon. Teimlai Israel yn awchus 22 oddiwrth y diystyrwch. Lledasant eu hachos o flaen gorsedd Brenin y brenhinoedd yn y ddeiseb daer a ganlyn : " O Dduw, na ostega na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw. Canys" wele dy elynion sydd yn terfysgu ; a'th gasei- on yn cyfodi eu penau. Ymgyfrinachasaní yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgÿnghor- asant yn erbyn dy rai dirgel di. Dywedasant, Deuwch, a dyfethwn hwynt, fel na byddont genedl; ac na chofier enw Israel mwyach. Canys ymgynghorasant yn unfryd; ac ym- wnaethant i'th erbyn. Pebyll Edom, a'r Is- maeliaid; y Moabiaid a'r Hagariaid. Llanw eu hwynebaú-â gwarth; fel y ceisiont dy enw, 0 Arglwydd. Cywilyddier a thralìoder hwynt yn dragywydd ; i'e gwaradwydder a dyfether hwynt: Eel y gwypont mai tydi, yr hwn ya unig wyt Jehofah wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear." 11 Nid atebwyd eu gweddi yn uniongyrchol. Ilir oedodd Duw drostynt; ond erbyn hyny wele awr ei farn ef wedi dod i ben—pecbodau Moab wedi cyrbaedclyd hyd y nef-—Duwyn cofio ei hanwireddau hi—Nebuzaradan gyda byddin luosog o filwyr wedi gweithio ei fíbrdd i'w tir- iogaethau gyda cliommisiwn o'r llỳs uchaf i ddymchwelyd, anrheithio ac aoghyfauedclu eu dinasoedd—i ddifwyno eu gwastattir a'u dyff'- rynoedd prydferth—i ruthro ar eu ffrwythydd haf a'u cynauaf gwin, fel y darfyddo'r gwin yn y cafnau, ac na chlywer mwyach lais blodd- est wrth eu sathru—i losgi eu temlaü a charió Chemosh eu duw i gaethiwed; ac mor gaeth oedd yr instructions hyn i'r Caldeaid fel os es- geulusent un iod o honynt y gwnaent hyny i'w niwed a'u perygl eu hunaiu. "Melldigcdig fyddo yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodrus, a melldigedig fyddo yr hwn a attalio ei gleddyf oddiwrth waed." Er mai gwaith gwaedlyd a dinystriol ydoedd—gwrthwynebus iawn i natur }ẅb dyn o deindadau tyner; eto gan mai Duw oedd yn ei orchymyn, augenrhaid oedd i'r goruchwyl- wyr a genhadesid i'w gyflawnî wrandaw arno ef ac iiid ar wrthddadleuon cig a gwaed, a'i wneyd y.n onest ac i'r Ilythyren eithaf.