Skip to main content

î CENHADWR AMERICANAIDD. Cyf. 22, EniF. 6. MEHEFIN, 1861. RniF. oll 258. $Hîd)uTattl)rjîraet{). OOFIANT Y DIWEDDAR WILLIAM VINCENT, UTJOA. Ganwyd yr un y mae ei enw uchod tua chanol Mai, yn y flwyddyn 1779, mewn tŷ ffarrn fechan o'r enw Mariafel, yn mhlwyf Tal y Llan, swydd Feirion, G. 0. Enwau ei rieni oeddynt William ac Elinor Vincent. Ymad- awsant â'r lle uchod pan nad oedd gwrthrych ein cofiant ond tra ienanc, ac aethant i hlwyf Llanegryn, i le a elwir y Felin fach, yr hon hon sydd yn ymyl y peutref. Bu dwy chwaer iddo yn by w yno lawer o flynyddoedd wedi cof i'r ysgrifenydd. A diamheu genyrn fod llwch yr hen saintesau hyn yn anwyl iawn gan holl bregethwyr yr Annibynwyr a arferent ymwel- ed â Llanegryn, oblegid cawsant eu ty yn gar- tref achlysurol cysuros, pan nad oedd ond ychydig o ddrysau yn agored i weinidogion yr Annibynwyr yno, a'r achos yn dra isel yn y lle. "Nacanghofiweh letygarwch, canys wrth hyny y lletyodd rhai angylion yn ddiar- wybod." Pan oedd William tua phedair ar ddeg oed bu farw ei dad ; ac yna yr oedd Elinor yn weddw, a Wilham yn nghyd a chwech o'i chwiorydd jn arnddifaid. Yr oedd y golled yn un fawr, canys dywedir ei fod yu ddyn hy- naws, tirion, a llafurus, ac yn aelod dichlynaitld o'r Eglwys Sefydledig. Ond yr oedd ein Duw ni yn Dad yr amddifaid, ac yn Farnwr y gweddwon y pryd hwnw. Arn hyny gorchy- mynodd i'w angylion am danynt, i'w cadw yn en holl ffyrdd. Yr oedd ei fam yn medtlwl llawer iawn o'i "Will," a Will yn meddwl llawero'i fam, fel ag yr oedd y naill â'i holl egni yn ymdrechu cysuro y lîall. Cafodd ei ddysgeidiaeth mewn ysgol rad oedd ac sydd yn perthyn i bawb o blant plwyf Llanegryn, yn nghyd a rhanau o blwyfau eraill; ac ystyrid ef yn un o'r rhai blaenaf os nid y blaenaf oll yn yr ysgol y pryd hwiiw fel derbynydd dysg. - Wedi iddo gael cymaint o addysg ag a farnai ei fam a fyddai yn angenrheidiol iddo, cafodd 16 ar ei meddwl ei ddwyn i fyny yn fasnachwr, a bu mewn Maelfa (Storé) yn yr Abermaw am ryw gymaint o amser, pa faint o amser nis gwyddom; tebyg na bu yno yn hir cyn am- lygu i'w fam ei fod yn hollol ymwrthod â'r gwasanaeth hwnw. Dichon pe bnasai y fain dipyn yn fwy llygadog, y gallasai ddeall fod y bacbgen yn fwy eartrefol yn nghymydogaeth y fwyall, y cŷn, a'r llif, na thu cefn i'r cyfrif- fwrdd (counter). Yn fuan wedi ei ymadawiad â'r faelfa yn yr Abermaw, cawn ei fod gyda hen wr parchus a chyfrifol yn mhlwyf Towyn o'r enw Owen Pughe, yn dysgu y gelí'yddyd o saerniaeth. Wedi gorphen yr amser a nodwytl yn ei ymT \ rwyiniad gydag O. P., ymddengys nad arbsodd oird ychydig o gwmpas ei gartref atn rai blyu- yddau. Pan oedd yn lled ieuaríc, ymunodd mewn priodas ag un o'r enw Jane Lewis o Ddolgellau, gyda yr hon y bu byw yn gysurus flynyddau lawer. Bu yn gweithio ar amryw o adeiladau mawrion yn Nghyrnru. Oawn hefyd iddo fod yn dilyn Liverpool a'r Amwythig; oddeutu tair blynedd. Hyd yn hyn rhodiai yn ol helynt y byd hwn; y rhai nad oedd ofn Duw yn en llywodraethu oedd ei ffrindiau penaf. Ond pan ýn rbodio yn fl'ordd ei galon lygredig, ac yn ngolwg ei lygaid gwamal ymwelodd Ysbryd Duw ag ef, tywynodd ydwyfol oieuni ar'ei gyílwr, a daeth mater mawr ei enaid i orwedd yn bwysig ar ei feddwl. Olywyd ef yn dweyd mai o dan weinidogaeth Seisonig y caf'odd ei dtleffro arii fater mawr ei enaid. Testyn y bregeth oedd, "Gwr a gerydder yn fynych ac a galedo ei wàr, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo meddyginiaeth." Yn fuan ar ol hyn, cyn geni William ei mab hynaf, aeth ei briod yn anesmwyth eisiau myn- ed yn ol i Ddolgellau; â'r hyn y cydsyniodd yntau er yn anhawdd. Wedi dyfod i Ddol- gellau ymunodd y cyfle cyntaf a gafodd â'r eglwys Gynulleidfaol yn y lle, yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal y Parch. Hugh Pugh o'r Brithdir; ao yn fuan ar ol hyn cafodd ea ei alwedigaeth yn bu yn y Ile olaf