Skip to main content

.CANAIDD. Cyf. 22, Rnw. 5. M AI , 18 6] Rhtf. oll 257. î3ttíbòraitl)olraetl}. COFIANT MRS. ELINOR GRIFFITHS, GRANVILLE. ; Gwaith pwysig yw ysgrifenu cofiant. i Dylid gochelyd eitbafion ar bob llaw, fel na byddora yn mwyhan nac yri lleibau cymeriad y gwrth- rych a gofnodir. Gwirionedd ac nid teimlad, ffeitbiau ac nid barddoniaeth, egwyddorion ao nid dychymygion, gogoniant Duw ac nid ad- nabyddiaeth yn ol y cnawd, a ddylent gyfar- wyddo ein bysedd pan yn darlunio bywydau y rhai a gysgant yn llwch y ddaear. Fel y mae yr ardeb cywir yn wir ddelw o'r gwreiddio), felly y dylai yr hyn a ysgrifenir adlewyrchu bywyd y dyn y byddom yn rhoddi ei hanes ger bron y cyboedd. Math o ardeb yw cofiant argraffedig a garir i lawr ar hyd wyneb llifeiriant canrifoedd i genedlaethau newyddion o ddynion; a theg fyddai i ni dynu ei ddelw mor naturiol a pherffaith ag y gall ein hysgrifell ei dynu: oblegid bydd yn rhesymol i'n holynwyr gydnabodein cofnodion í'el ffeithiau gwirioneddol, a barnu oddiwrth- yut sefyllfa foesol ein hoes, cyn belled ag y gallont ei cbwilio allan. Y dyn fel yr oedd yn sefyll o ran ei gymeriad moesol a'i fywyd crefyddol ger bron y cyhoedd a ddylem ei gof- nodi, rhag y bydd dadblygiadau y dydd hwnw yn gwrthddywedyd ein tystiolaethau, ac yn ein gorchuddio â chywilydd. Dyrnunem gadw ein golwg at hyn yn yr ychydig ddesgrifiadau a roddwn o fywyd mewnol ac allanolgweddw y diweddar Nico- demus Griffiths. Nid ein hamcan yn y sylw- adau hyn fydd profi duwioldeb yr hen chwaer enwog hon, oblegid y mae hyny yn ffaith ddi- amheuol er ys ugeiniau o flynyddoedd bellach. Gwnaeth ei bywyd hi ei hun ddyfnach, cywir- acb a phrydferthach argraffiad ar feddyliau ei cbydnabyddion nag a wna unrhÿw beth a all- wn ni ei ysgrifenu am dani. Ond er hyny, barnwn god amryw ffeithiau yn gysylltiedig â hanes ei bywyd a allant fod yn ddyddorol ac adeiladol i'r oes bon, yn gystal a'r oesau dyf- ■odol. 13 Ganwyd Mrs. Griffiths mewn lle a elwir Ys- triliwra, plwyf Abererch, ger Pwllheli, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr ydoedd yn chwaer i Mr. Robert Thomas, Saethon, (wedi hyny Conwy,) pregethwr cynorthwyol cymer- adwy gyda y Cynulleidfaolion yn Ngbymru. Nid oes iddi berthynas agos yn ngwlad ei gen- edigaeth yn bresenol, oddieitbríÿod rhai o blant ei brodyr yn fyw. "V Amforeu ei hoes nid oesgenym nemawr i'w ddywedyd yn ychwaneg. nag awgrymu na cbafodd fawr o fanteision addysgiadol yn fwy na'i chyfoedion yn gyffredinol. Sefydliadau anghyffredin, dyeitbr, a Iled ddiwerth ydoedd ysgolion dyddiol yn Nghymru ryw 90 mlynedd yn ol; ond er hyny cafodd gystal cyfleusterau crefyddol a neb o'i chydoeswyr. Buyn eis- tedd dan weinidogaetb yr enwogion Harris, Emmanuel Davies, a Jones o BwIIheli, o'i hieuenctyd hyd ei hymfudiad i'r wlad hon, ao nid gwrando yn unig a wnaeth, ond ufuddha- odd, a rhoddodd ei henaid i'r Ceidwad yn moreu ei boes. Nis gallwn sicrhau y flwyddyn y dechreuodd broffesu crefydd, (er y tj'biwn i ni ei cblywed yn dywedyd fwy nag unwaith.) na pha un o'r gweinidogion a enwyd a roddodd iddi ddeheulaw cymdeitbas; ond meddyliwn yn sicr mai yn amser Harris y gwnaeth ei har- ddeliad cyhoeddus o Fab Duw, oblegid bu yn gv/asanaethu amryw flynyddoedd yn nheulu y gwr parchedig hwnw. Ond fodd bynag yr oedd hi a'i phriod 'yn aelodau rheolaidd a chymeradwy yn amser Mr. Jones, PwIIheli, fel y profai y Uythyrau cymeradwyol a gawsant ar eu bymadawiad â Gwyllt Walia. Ymadawodd Mrs. Griffìths a'i phi4öd Mr. Nicodemus Griffiths i America yn ngwanwyn y flwyddyn 1801. Tiriasant yn New York, ac arosasant yno rai misoedd, o herwydd afiechyd; yna cychwynasant yn mlaen, a sefydlasant yn mblwyf Steùben, N. Y., yn Hydref yr un flwyddyn. Pan gyrhaeddasant y lle nid oedd yno ond ychydig o Gymry i'w croesawu, a'r gauaf du yn dechreu dangos ei wyneb sarug ac anghymodlawn, yn nghyd a choedwig oesawl yn eu hamgylchynu, yn herio bwyell yr ym- fudwr i frwydr.