Skip to main content

Y CENHADWR AMERICANAIDD. Cyf. III. HYDREF, 1842. Rhif. XXXIV. l^^affîŵìitaetl). COFIANT BYR AM MRS. KLI2ABETH ROBERTS, 0 ROSA FAWR, GER DINBYCH, GOGLEDD CYMRTT. Gwrthddrych y Cofiant hwn a fu farw Mawrth 5,1842, ac a gladdwyd yn medd- rod ei thadau yn mynwent Llanrhaiadr, yn agos i Ddinbych, Mawrth 10. Gwraig Îdoedd i Mr. Thomas Roberts, Rosa, ger >inbych, yr hwn a fu farw ychydig gydag 8 mlynedd o'i blaen hi, gan adael tystiol- aeth mai Crist ydoedd ei fywyd a bod marw iddo yn dragywyddol elw. Buont fyw yn Rosa tua 50 o flynyddoedd, a bu eu tŷ dros y rhan fwyaf o'r amser hyny yn lletŷ cysurus i weinidogion a phreg- ethwyr yr efengyl ar eu teithiau, ac nid oedd ond ychydig o'r rhai hyn yn mhlith yr Independiaid yn Neau na Gogledd Cymru (ag a fyddent arferol o fyned oddi cartref ar deithiau i bregethu) nad oedd- ynt yn gydnabyddus yn y tý a'r tylwyth hwn. Merch ydoedd Mrs. R. i Thomas ac Ann Lewis o Ben y Banc, Pont As- trad, ger Dinbych. Ganwyd hi tua'r fl. 1765, ac felly yr oedd yn awr yn 77 ml. oed. Ymunodd mewn priodas gyda Mr. Thomas Roberts (y pryd hyny) o'r Tŷ mawr, Green Dinbych, yn y fl. 1790. Bu iddynt 9 o blant. Un o honynt a fu farw yu ei fabandod. Un ferch, Mrs. Mary Holliwell, a fu farw ychydig fisoedd wedi ymuno mewn priodas â Mr. J. Hol- Hwell, o Liverpool, pan yr oedd tua 30 oed. Dau o honynt ydynt yn yr hen grmydogaeth,—y mab hynaf yn nhref inbych, a'r mab ieuengaf yn Rosa; a chawsant y fraint o'i chysuro a bod yn dystion o rym ei ffydd a llawenydd ei gobaith yn ei misoedd a'i dyddiau diwedd- af. Y pump ereill ydynt dra gwasgaredig i glywed, un ar ol y llall, y newydd gal- arus o farwolaeth ei hanwyl fam. A thra y teimlont yn ddwys i feddwl fod gwedd- lau eu mam drostynt wedi terfynu, a r Hafo a glywyd lawer canwaith yn dadleu ger bron yr orseddfaingc yn awr wedi ẅW'jf» angau, gobeithiwn raai eugweddi 37 fydd, ar fod yr un ysbryd ag a'i meddian- ai yn gorphwys arnynt hwythau, ac ar eu plant. Y ferch ieuengaf sydd yn Aff- rica Ddeheuol, yn briod a Mr. Edward Williams, cenhadwr ffyddlawn a llwydd- ianus yn mhlith yr Hottentotiaid a'r Ne- groaid, y rhai a waredwyd o gaethiwed gan lywodraeth Lloegrychydigflynyddau yn ol. Dau ydynt yn y Gorllewin yn y wlad hon; un yn Utica, ac un (gwraig y Parch. R. Everett) yn Steuben,—oll yn cael y fraint o berthyn mewn proffea ì deulu yr Oen. Cafodd ei dwyn i fynu yn moreu ei dyddiau yn ol trefn eglwys Loegr; ond pan yr oedd yn dyfod i sylwi ar bethau drostì eu hun, dewisodd eistedd dan wein- idogaeth yr ymneillduwyr. Cafodd eî dwyn dan argyhoeddiadau difrifol am eî chyflwr pan tuag 20 oed, dan weinidog- aeth y Parchedig a'r ffyddlawn Daniei» Lloyd o Ddinbych. Tua'r amser hyn, pan yr oedd ei meddwl dan ddwys drallod am yr un peth angenrheidiol, dygwyddodd y Parch. George Lewis (wedi hyny Dr. Lewis) o Lanuwchlyn ddyfod heibio, a phregethu ar y geiriau, " Pa hyd yr ydych chwi yn cloífi rhwng dau feddwl &c," a than y bregeth hon tywynodd rhyw ol- euni rhyfedd ar ei meddwl, a daeth î hollawl benderfyniad i ymgyflwyno i'r Arglwydd a'i bobl ohyny allan hyd byth. Derbyniwyd hi a'i thad, Mr. ThomaB Lewis, i'r eglwys ar yr un pryd. Clywyd hi yn adgofio gyda hyfrydwch mawr aînl waith, i'w thad gael y fraint o broffesu proffes dda—ei fod yn dra phrofiadol mewn crefydd—ei gynydd yn eglur i bawb—iddogadwei "gariad cyntaf'hyd y diwedd, a marw mewn gorfoledd, wedi bod yn proffesu tua 10 mlynedd, ac yn henuriad yr eglwys y rhan fwyaf o'r am- ser hyny. J Yr oedd rhai pethau tra neillduol ya nodweddiad y Fam hon yn Isr^l. O ran cryfder ei chyneddfau, yr oedd yn rhagon ar y cyffredin; o ran ^i^hymer naturiol yr oedd y» addfwyn, yn BWyllog, a dwys; fel cymydoges, yr oedd yn serch- og, caruaidd adirodres; wrth y tlawd yr oedd yn dyner ac elusengar; ond yn ei thylwyth ac ýn eglwys Dduw y gwehd #t gẃerüi fwyaf.