Skip to main content

Y CENHADWR AMERICANAIDD. Cyf. III. CHWEFROR, 1842. Rhif. XXVI. ISgrojgraffgWtartí). BYR-HANES AM ELIZABETH SMITH. Mr. Golygydd,—Y cofnodiad canlynoì a wnaethum yn fy nydd lyfr, ar ol darllen Buch- draeth y Fenyw rinweddol a dysgedig uchod; yr hyn am tueddodd i sylwi ar yr unrhyw oedd, fod rhan o'i bywyd llafurus wedi ei dreulio yn Nghymru. Yr wyf yn amheus o barthed teilyngdod yr ad-ysgrif i ymddangos yn y Cenhadwr, a gad- awaf i chwi farnu. Wyf, yr eidoch, #c. Caerpfrognewydd. Gwilym ab Ioan, Meddwl yr ydým ei bod yn dra theilwng, a hoff fyddai genym gael ychwaneg o'r cyffelyb o ddydd lyfr ein hybarch Ohebydd, Mr. Wiiliams. Erfyniwn na bo ein cyfaill yn talfyru cymaint y tro nesaf. Y cyfryw hanesion am enwogion ein cenedl a duedda yn fawr i helaethu ar ddef- nyddioldeb ein Cyhoeddiad. Gol. Ganwyd EIizabeth Smith yn Swydd Durham, Lloegr, yn y fl. 1776, a chyr- haeddodd yn ei hoes fer, sef 29 o flwy- ddau, wybodaeth anghyffredin, heb ond ychydig iawn o hyfforddiadau na man- teision. Yr oedd yn hyddysg yn y Ffrancaeg, Eidalaeg, Yspaenaeg, Al- maenaeg, Lladin, Groeg, a Hebraeg!— Cyfieithodd o'r Hebraeg amrai o benodau yu Genesis, holl lyfr Job, nifer o'r Salm- au, a rhanau o'r Prophwydi. Dywedir fod ei chyfieithiad o'r lleg o Genesis, yr hyn a wnaed ganddi pan ond 20 mlynedd oed, yn dra gorchestol, ac yn cytuno a'r Esponiad neu y Deongliad a rydd Syr William Jones ar y benod hono. Mawr yr hoffai Miss Smith deithio ar hyd Cymru, chwilio adfeilion hen Ges- tyll, darllen hanes ein cenedl, a myfyrio ar ansawdd &c. mynyddoedd y Dywysog- aeth, mewn ystyr ddaearyddol. Tystiai ei bod yn gor-hoffî yr olwg ar fynyddoedd geirwon ynhytrachnagarddolyddgwas- tad,—mai mwy dymunol oedd ganddi weled creigiau serth na maesydd cnyd- "awr; a'i bod yn dewis edrrch ar reiydr rhochfawr yn fwy nag ar y gwrthddrych gwychaf o gywreinwaith celfyddyd. Eì darluniadau o'r Wyddfa, Castell Caer- narfou, a manau ereill ydynt hynod o gywrain ac effeithiol, ond yn rhy feithion i'w cyfleu yma. Yr amser mwyaf hyfryd o'i bywyd a dreuliwyd yn Muailt, tra yn trigfanu ar dyddyn a elwid Pierce-field, y lle a fu am rai blynyddoedd yn meddiant ei Thad, nes y bu orfod iddo, yn anffodus, ei werthu, yr hyn a ddìfuddiodd Elizabeth o'ì phleserau penaf. Hi a gymerth grỳn drafferth i geisio profi, yr hyn a ddychymygid ganddi, sef maì ar y tir hwnw y lladdwyd Llewelyn, Tywys- og Cymru: a chafwyd yn mysg ei phap- urau ddyfynnodiadau helaethion o weith- ydd Warrington, Smollet, Collier, Carte, Camden, ac ereill, ar y testyn. Ac er mwyn cadarnhau ei haeriadau, hi a gyf- 'ansoddodd Awdl ar farwolaeth Llewelyn, yn cynwys cyfeiriad at y llt y cwympodd y Tywysog, ac a'i galwodd yn gyfieithiad o waith hen Fardd Cymreig. Nid yw yn ymîìdangos ddarfod iddi gyraedd nemawr wybodaeth yn y Gym- raeg, ond gadawodd ar ei hôl gasgliad helaeth o eiriau Cymreig. BYR GOFIANT AM ELIZA THOMAS CWRAIG LEWIS THOMAS O BELMONTE. Ganwyd Mrs. Thomas yn Merthyr Tyd- fil, Swydd Forganwg, Mai lOfed, 1812. Ei rhieni oeddynt gyfrifoì iawn yn mysg y rhai a'u hadwaenent, enwau pa raì oedd Thomas a Mary Prìce ; proffesai y ddau grefydd Mab Duw yn Bethesda, dan ofal gweinidogaethol y Parch. Mr. Methusa- lem Jones. Cafodd Mrs. Thomas ei ham- ddifadu o'i hanẅyì dad pan yr oedd yn ieuangc, ond eì mam sydd fyw yn bres- enol, i dderbyn y newydd galarus am ei marwolaeth. Am wrthrych y cofiant yma nid oes genyf i'w ddywedyd, ond ei bod, fel y tystia Ûawer sydd yn yr ardal, yn ofalus iawn rhag cydymffurfio àg ar- feriadau pobj ieuaingc Merthyr, ac yn fawr ei sel dros yr Ysgol Sabbothol oddiar yn blentyn. Ac yn mis Awst, 1829, pan yn ddwy ar bunttheg oed, ymwelodd Jyr