Skip to main content

Y CEMiDWR AMERICMAIDD. Cyf. 19, Riiif. 11. TAOHWEDD, 1858. Ehif. oll 227. Biîd)ftraÜl)ofrait)l. COFFADWRIAETU AM THOMAS OWEN, YSWAIN", GYNT O BEN T LLT8, SWYDD DEEFALDWYN, O. C. Y mae yn resyn i enw a choffaâwriaeth un a fu mor gyhoeddus yn ei oes, mor 'lafurus a llwyddiannus gyda gwaith ei Arglwydd, acmor anwyl gan bawb a'i hadwaenai (ag ydoedd gwrthddrych ein cofiant presenol,) gael ei adael i dynged difaol traddodiad, nac i syrthio i lawr i gladdfa gymysglyd ebargofiant. Y mae ei enw yn deilwng o gael ei argraffu mewn llyfr a'i groniclo yn barchus i'r oesau addaw, obleg- id yr oedd efe nid yn unig o'n cenedl ni, ond hefyd "yr oedd efe yn wr ífyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na Uawer." Yr oedd yn caru ein penedl nh, ac efe a adeiladodd i ni synagog. I Y mae enw " Pen y llys" yn adnabyddus i holl bregethwyr yr Annibynwyr yn Ngogledd Cymru, ac i laweroedd yn Neheudir Cymru hefyd. Enw ac ymddygiad gwrthrych ein cofiant yn benaf a'i gwnaeth felly. Y mae enwau dynion da wedi enwogi llaweroedd o ardaloedd Oymru, y rhai na buasai son ain danynt oni b'ai fod y cyfryw ddynion wedi bod yn byw ynddynt. Ei enw ef a'i ffyddlon- deb gydag.achos y Gvvaredwr a gododd enw yr ardal anghysbell hon, a dymunem yspeilio angeu a'r bedd rhag ei guddio iuewn aughof, trwy gyhoeddi yr ycliydig grybwylliadau can- lynol yn y " Oenhadwr Americanaidd," er cadw ei enw mewn cof tra pery oes ein hiaith. 'lhomas Owén ydoedd fab Morris ac Anne Owen, Pen y.llys.".íEfe oedd yr hynaf o saith o blant, ac fellý efe oedd etifedd y lle hwnw ' ar ol ei dad. 'Ganwyd ef yn y tìwyddyn 1781. Yr oedd rbieni Mr. Owen yn aelodau gyda y Trefnyddion Oalfinaidd cyn iddynt ymunó fnewn priodas. Yu nghartref ei fam, sef Pen- t'rch, ger Llanfaircaereiuion, y dechreuodd y refnyddiou bregethu yn yr ardal hono, ac yn ipen y llys y dechreuasauteu hachosyn mhlwyf &iautìhangel y gwynt. Yn Pen y llys y de- ẅreuodd y diweddar Barch. John Hughes, 41 Pont Robert, ymroddi i grefydd. Yno hefyd yr ymgysegrodd yr enwog farddones Anne Grifiîths (awdures yr emynau mwynion) ei hunan i'r Arglwydd; ac yno hefyd y dechreu- odd y Parch. Jolm Davies, yr hwn am lawer iawn o flynyddoedd a fu yn Genhadwr yn Ta- hiti, yr hwn a fu farw ychydig flynyddau yn ol yn mhell dros bedwar ugain oed, ac wedi llwyddiant mawr. Wedi bod yn pregethn yn Pen y llys am flynyddau lawer, syraudwyd yr eglwys i Bont Robert, lle yr adeiladwyd addoidy helaeth a chyfleus. Y mae y gynulleidfa hyd heddyw yn y Ue hwn yn lluosog a pfiarchus. Nid oedd Morris Owen (tad gwrthrych ein cofiant) yn grefyddwr cul a rhagfarnllyd, ond carai bawb a gredai eu bod yn caru ein Uar- glwydd Iesu Grist. Arferai alw a derbyn gweinido^ion yr Annibynwyr yn fynych i bregethu i'w dŷ. Byddai y Parchedigion Jen- kyn Lewis, Llanfylhn, a Rbhard Tibbott, Llanbryninair, yn pregethu yn fynych yno.— Pan anwyd Thomas, gwrthrych ein cofiant, nid oedd gan y Trefnyddion weinidogion or- deiniedig yn eu' phth, ond ambell i offeiriad yma a thraw. Nid oedd rhai o'r hen frodyr yn foddlon ar un cyfrif i neb o weinidogion yr Annibynwyr, fedyddio etifedd " Pen y ilys;" ond mynent i'w rieni ei gymeryd i eglwys y plwyf i gael gweinyddu bedydd arno. Gwrth- ododd Morris Owen gydsynio â'u cais, a myn- odd gael Mr. Tibbott, Llanbrynmair, i fedyddio y bachgen. Parodd ei ymddygiad dramgwydd ac oerfelgarwcli, yr hyn sydd yn ddiamau yn destyn syndod i bob Methodist ac Annibynwr yn yr oes hon. Pan oedd Mr. Thomas Owen yn ddeg ar hugain oed. ymunodd mewn priodas â Miss Frances Morton, merch ieuengaf Mr. Thomas MortOn, Llwydiarth, plwyf Llangliangel. Yr oedd hon hefyd o deulu crefyddol. Bu Mr. Morton yn aelod ffyddlon am flynyddoedd gyd- a'r Annibynwyr yn y Sarnau. Pan y symud- odd i Lwydiarth, mynodd gael pregethu a moddion cretÿddol yn ei dŷ, a thrwy hyn hau- odd hadau parchus am grefydd yn ei holl deu- lu. Dyma fu dechreuad yr achos crefyddol