Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cye. 19, Biiif. 7. GORPIIENAF, 1858, Rhif. oll 223. Bttíljj&rattljoìrarol. JOIIN WICLIFF. GAN T PABOH. DAYID GEIFEITHS, BETHEL, OAEÍSNAEFON, G. 0. Nis gallwn eiddigedàu teimlad na chwaeth y dyn a fedro ddaiilen hanes yr anfarwol Jolm Wicliff gyda clialon ddîgyffro. Yn mhlith' gwroniaid a chedyrn y Diwygiad Protestanaidd yn y wlad hon—saif ei enw ef yn uwchaf a phenaf. Perchenogai elfenau gwir fawredd i'r graddau helaethaf; ac fel ysgolhaig a duwi'n- ydd. yr oedd yn mhell o flaen pawh oll o'i gyd-oeswyr. Ei alluoedd dealìtwriaethoi oedd- ynt ysblenydd, ac yn mhlaid gwirioneddau mawrion hanfodol efengyl Orist, llafuriai gyda sêl ac yni seraphaidd. Efe oedd y cyntaf a ddaeth yn mlaen i gyfieithu a chyhoeddi yr Ysgrythyrau Sanctaidd yn iaith gynenid y Saeson. Yr oedd cyfiawni hyn, yn yr oes hono, yn orchest-gamp fawreddog. Oododd Wicliff, megys y cofir, mewn adeg pan ydoedd nos Pahyddiaeth yn teyrnasu dros wledydd Ewrop oll. Wrth ddyfal efrydu yr Ysgrythyr- au, daeth i deimlo y dylasai wneyd rhywbeth er dymchwelyd ymherodraeth celwydd a gor- mes yshrydol yn y deyrnas hon. Meicldiodd fyned i ryfel â gallu y Babaeth Rufeinig—yr hwn allu ydoedd y mwyaf anorchfygol ac ofn- adwy ar y ddaear y pryd hwnw. Pa ddiw- ygiadau hynag a fo yn ysgwyd ac yn besdithio Ewrop yn yr oesaü dilynol, amlwg ydyw fod y cyfan wedi tarddu allan o'i lafur a'ì egniadau anghydmarol ef. Mewn cyfnod o dywyllwch anferth, cododd i wasgaru goleuni nefol drwy y gwledydd, ac o hyn allàn cenedloedd a'i gal- want yn wynfydedig, a phobloedd lawer a fen- dithiant ei goffädwriaeth. Gyda phoh priodol- deb y galwyd ef yn a8eren Ddydd y Diwygiad" ac yn uDad AngTiydffurfiuetli yn M.hrydain?'1 Ganwyd John Wicliff, fel y tybir, oddeutu y flwyddyn 1324,. mewn pentref ar lan yr afon Tees, gerllaw Bichmond, yn swydd Oaerefrog. Am helyntion boreuaf ei oes, ni wyddom ond y peth nesaf i ddirn; ac y rnae yn ffaith hynod nad yw ysgrifenwyr dysgedig yn gallu cytuno 25 â'u gilydd yn nghylch y modd i lythyrenu enw yr hen wron. Dywedir wrthyrn ei fod yn cael ei sillehu gan wahanol awdwyr, mewn oddeutu un-ar-bymtheg o wahanol ffyrdd! Yn wyneb hyn, teimlem mai y ffordd oreu oedd dewis yr un fwyaf syml a dealladwy i'r darllenydd cyfîredin. Mewn hen ysgrif, yn yr hon y penodir ef fel un i gyfarfod prwyad- uron y Pab yn y flwyddyn 1374, hysbysir ni mai "John Wicliff" yw yr enw a ddefnyddir. Orybwyllir am yr offeryn dan sylw yn Bymer's Fcedera, An. 48, Edw. III. Fel myfyriwr yn ISTgholeg y Frenines, Bhyd- ychain, y cyfarfyddwn gyntaf â gwrthddrych ein sylw presenol. Yr oedd y Ooleg hwnw ar y pryd, newydd gael ei sefydlu ga'n Bobert Eaglesfreld, cyffesydd i Phillinpina, brenines Edward II. Oddiyma symudödd Wicliff cyn hir i Goleg Merton, yn mha le yr hynododd ei hun fel ysgolhaig o'r radd uwchaf. Oynwysai y sefydliad hwn, ar yr adeg dan sylw, nifer mawr o efrydwyr, y rhai, mewn amser dyfod- ol, a gyrhaeddasant enwogrwydd nodedig. Yn eu plîth yr oedd Walter Burley, athraw Ed- ward III.; William Occaham, a elwid y doctor hynod; Thomas Bradwardine, Avedi hyny arch-esgob Oanterbury; John Gatesden, y physigwr enwog; Etswood a Bede, y serydd- wyr clodfawr; a Simon Mepham,. a Simon de Islip, y rhai wedi hyny a fuont yn arch-esgob- ion i'r deyrnas oll. Yn jSTghoIeg Merton, llwyddodd Wicliff cyn hir i feistroli yr holl ddysgeidiaeth a gyfrifid yn werthfawr y pryd hwnw. Nid oedd Bacon eto wedi gwneyd ei ymddangosiad, ac ni chyfodasai haul gwyddor- iaethbrofiadol ar ddynolryw. Yr oedd gweith- iau Aristotle mewn bri mawr, pa fodd bynag. Ymroddai Wicliff nos a dydd i efíydu y rhai hyn, a thrwy gynorthwy esbonwyr Lladinaidd, llwyddodd i ffurfio cydnabyddiaeth fanwl â hwynt. Wedi ymbarotoi fel hyn, dechreuodd efrydu duwinyddiaeth athrofaol, ac yn hyn hefyd yr oedd ei lwyddiant yn anghydmarol; yr oedd yn graff i ganfod holl waeleddau y scTioolmen; adwaenai eu ffregodau dyrus, a deallai yn ddä eu holl ddichellion ystrywgar. Yn y modd hyn daeth Wicliff i fod yn dra