Skip to main content

MCMAIDD. Cyf. 19, Rhif. 5. MAI, 1858, RniF. oll 221. Bucljìrraitljoîraml. COFFAD WRIAETHAM MRS. ELIZABETH GRIFFITHS, PEIOD T PAF.CH. EVAN GEIFFITHS, EAOINE, WISCONSIN. " Yr hyn a ollodd hon M a'i gwnaeth." Dau beth a'm lluddiasant rhag ysgrifenu hanes bywyd a marwolaeth fy anwyl briod yn gynt. Yn 1. Anhawstra y gorchwyl ynddo ei hun i mi. 2. Dysgwyl clywed o wahanol fan- aù yn yr Hen Wlad, Ue yr ydoedd yn adna- byddus er yn blentyn. Erbyn hyn yr ydwyf wedi derbyn Uythyr oddiwrth fy rhieni, oddiwrth y Parch. H. Llwyd, Towyn, yr hwn a'i derbyniodd i'r eg- lwys, ac a fu yn weinidog iddi am 19 o flyn- yddau o'm blaen i. Hefyd, derbyniais fythyr oddiwrth ei brawd hynaf, y Parch. E. Evans, Llangollen, gynt o'r Abermaw. Ond yr wyf heb glywed o Lanegryn, lle y buom am 11 mlynedd ar ol priodi; nac o Lwyngwril, lle y mae ei mam eglwys hi a'r teulu. Barnwyf mai nid gweddus oedi yn hwy heb gyhoeddi ei choffadwriaeth; ac os caf lythyrau yn fuan o*r ddau le diweddaf, yn dal rhyw berthynas â hi, anfonaf hwynt i'r " Cenhadwr Americanaidd." Ganwyd fy anwyl briod mewn ffarmdy o'r enw Bwlchgwyn, am yr afon a'r Abermaw, swydd Feirion, Gogledd Oymru. Enwau ei rhieni oeddynt Lewis ac Elizabeth Evans. Oyfenw ei mam cyn priodi oedd Owen, a pherthynai, fel y gwelir yn hanes ei by wyd, i linach yr anfarwol Dr. Owen. Bu farw fy mhriód yr 2il o Hydref, 1857, yn 53 oed. Oladdwyd hi ar y 5ed, pryd yr ymgasglodd y dorf luo&ocaf o lawer a welwyd yn Racine mewn un eladdedigaeth blaenorol. Rhifai y cerbydau 70. Bu ein mab a'n merch yn gleifion am rai wythnosau yn flaenorol i gystudd eu hanwyl fam, a dios i'w phryder yn eu cylch, ei gor-laf- ur pan yr oeddynt yn gleifion, yn nghycl a 17 llesgedd blaenorol, fod yn brif achosion ei chystudd diweddaf. Magodd y dwymyn a'i cymerodd hi ymaith, enynfa yn ei hymysgar- oedd, a methwyd ag attal yr enynfa er pob ymdrech meddygol. Yn raddol magodd yr enynfa fadredd yn y rhanau mewnol, yr hyn a derfynodd ei bywyd mewn ychydig amser. Yr oeddwn wedi ei gweled yn agos i angeu lawer gwaith cyn hyn, eto yn cael ei chodi 0 orddyfnder y ddaear, a'i choroni â thrugar- edd ac â thosturi. O herwydd paham, ni feddyliasom ei bod i'n gadael mor ddisymwth. Yr oedd yr hwn a ystyrir yu un o brif feddyg- on ein dinas, sef Dr. Page, yn dyfod ati yn gyson, ond fe'i twyllwyd ef fel ninau gan frenin y dychryniadau. Yr ydoedd yn dawel a difraçv trwy ei holl gystudd. Meddyliais lawer y pryd hyny a chwedi'n am y frawddeg a ganlyn, " Ni frysia yr hwn a gredo." Aeth i lyn cysgod angeu yn gwbl ddiarswyd, tan obeithio a theimlo fod ei Duw gyda hi. Bu fyw i'r Arglwydd, a bu farw yn yr Arglwydd. Gofynais iddi o fewn tair awr i'w marwolaeth, a ydoedd yn teimlo- yn ddigalon ? Atebodd yn gryf a phenderfyn- ol, gan ddywedyd, " Nac ydwyf;" gan ych- wanegu, " yr ydych chwi yn fwy digalon na mi." I hyn yr atebais inau fod genyf achos i fod felly, oblegid y byddai fy ngholled i yn fwy na'i cholled hi. Yn mhen enyd gofynais dra- chefn, a ydoedd ei chrefydd yn talu ei fîordd iddi? Atebodd yn bwyllus, penderfynol, â gwen siriol ar ei gwyneb, "Ydyw; ac y mae wedi talu yn dda i mi ganwaith cyn hyn." Ar 01 enyd o ddystawrwydd, tystiai drachefn mai nid am ddim yr oedd wedi dilyn yr Oen am ddeugain mlynedd. Yr ydoedd fy mhriod yn ofni yr Arglwydd o'i mebyd. Yr oedd ei rhieni yn eu cymydog- aeth fel Job yn ngwlad Uz, heb neb yn debyg iddynt mewn crefydd deuluaidd a ehymdeith- asol, fel y tystia Uawer o'u cymydogion hyd y dydd hwn. Pan yn ieuanc iawn, enillwyd Elizabeth i adnabod ac i wasanaethu Dûw ei rhieni; ac er na byddai un amser yn benboeth gyd a'i chrefydd, eto bu yn gyson a ffyddlawn hyd angeu. Yr oedd ganddi chwaeth at, ac