Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CENHADWE AMERHMAIDD. Cyf. 18, Rhif. 12. EHAGFYE, 1857. Ehif. oll 216. Mòtad a Cjjrffgìŵol. FREGETH ANGLADDOL. MES. ELIZABETII GBIFFITIIS, PEÍOD Y PAECn. E. GEIFFITH9, EACINE, A DEADDODWYD YN ADDOLDT YE AISTNIBYNWYE YN Y LLE ITCHOD, NOS SABBOTII YE UNFED-AE- DDEG O HYDEEF, GAN EI BEAWD YN NGHYF- EAITH, Y PAECH. G. GEIFFITHS, OSHEOSH. Gwraig rasol a gaiff anrhydedd; a'r gallnog a gant gyfoeth.--Solomon. Mawr y pris a rydd dynion ar anrhydedd. Mae rhywbetli yn swynol yn yr enw. Tỳn ato serchiadan pawb mewn mesur mwy neu iai, fel y gwna pegwn y Gogledd a nodwydd y morwr, pa gyfeifiad bynag a roddir i'r llong. Peth anghyffredin iawn a fyddai' gweled neb heb ynddynt rywfaint o hunanbarch ac uchelgais. Dyna yr unig beth sydd yn cadw miloedd o fewn terfynau gweddeidd-dra, ac yn eu hattal rhag rhoddi y ffrwyn i'w tueddiadau drygionus, ac ymollwng i ymdrabaeddu ar domenau fíì- eiddiaf halogedigaeth a phechod—gwyddant, pe gwnaent hyny, y collent eu cymeriad yn mysg eu cydnabod, ac yr ysgymunid hwynt o bob cymdeithas barchus, yr hyn a fyddai yn chwerwach nag angau iddynt. Y fath mewn gair yw ei werth yn ngolwg pob gradd a sef- yllfa fel y maent yn foddfon i gyfrif pobpeth yn dom a cholled er ei fwyn, ac i wynebu un- rhyw berygl a saif gydrhyngddynt ag ef. Pe gofynid—Beth yw anrhydedd? diau y byddai yr atebion mor wahanol ag i'r ymhol- iad—"Beth yw gwirionedd?" Mae dynion yn mhell oddiwrth fod yn unffurf eu golygiadau am dano, yr hyn sydd yn achosi yr amryw- iaeth cynlluniau a fabwysiedir i'w gyrhaeddyd. Byddai rhai yn barod i ddweyd mai ìnewn hel. aethrwydd o dda y byd hwn y mae yn gyn- wysedig; o ba herwydd ymroddant ati â'u holl egni i gasglu cyfoeth. Oodant yn fore ac ânt yn hwyr i gysgu, a bwytânt fara gofidiau yn ewyllysgar tros faith fiynyddau—aberthant eu goreuon ar allorau mammon, ac ymgrymant gyda d'wfn orchwyledd o'i flaen i dalu addoliad 40 iddo, yn y dysgwyliad y cant o'r cliwedd eu gwobrwyo ganddo â'r urddenwau anrhydeddus a wisgir gan fawrion ein dàiar. Myn eraill mai gwybodaeth yn unig a ddwg ddyn i anrhydedd, arn hyny ceisiant hi fel ceisio arian, ac ymofynant am dani fel am drysorau cuddiedig. Mae awydd yr efrydydd i alla myn'd trwy ei arholiadau "with lionors" yn rhoddi tanbeidrwydd ychwanegol i'w ymegni- adau arferol. Yn marn y polüicians nid oes dim mor urdd- asol a chael swydd enillfawr yn y llywodraeth, cael ei ethol yn Faer y dref—ei ánfon i'r As- sernbly, i'r Gydgyngborfa neu y Sènedd, ac os bydd gobaith iddo gael ei ddyrchafu i'r Gadair Lywyddol ystyria hyny y raddeb ucliaf y geill ymgyrhaedd ati. Tan ddylanwad y gred hon temtir ef i iselu ei hunan i wenieithio i bobl, i lwgrwobrwyo, i fradychu egwyddorion, ac i ymwerthu gorff ac enaid i'r blaid hono a fydd debycaf, yn ei dyb ef, o'i ddodi ynddi. Meddylia y milwr ar y llaw arall nad oes dim mor ogoneddus a dewrder ar faes y gwaed, ac oblegyd hyny cymer ato ei arfogaeth— . gwregysa ei gleddyf ar ei glun—ymafla yn ei lawddryll a'i bidog, a gesyd ei wyneb fel y gall- estr yn erbyn ei elynio.n, a gweithia ei ffordd trwy eu canol i'w hamddiíîÿnfâau cadarnaf. Dringa elltydd serthaf yr Alma—rhuthra yn ddiarswyd trwy ddyrys-lwyni Inkerman a Bal- aclava i wyneb y magnelau mawrion sydd yn chwythu ei gydfilwyr wrth y canoedd o'i ddeutu i dragywyddoideb, a gesyd i íÿny ei babell o fewn ychydig latheni i furiau Sebastopol yn nghanol cawodydd o sJiells a bwledau, i wylied am gyfleustra i fyned i mewn iddi i gwhwfanu baner ei wlad ar ei phinaclau, a thrwy hyny wneuthur iddo ei hun enw oesol ar gof- lyfrau y byd. Ond heb amcanu i ddiraddio yn y mesur lleiaf yr anrhydedd tybiedig a ddeillia o'r pethau crybwyhedig, dywedaf ei fod yn cael ei daflu i'r cysgodion yn hollol pan ci cyferbynir à'r bri a enillir gan y duwiol. Os coronir ymdrechion plant y byd hwn â llwyddiant, ac os enillant trwy eu gorchest-gampau barch a chymerad- wyaeth oddiwrth ddynion, beth ydyw hyny yn