Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEffiADWR AMERICAMIDD. Oyf. 18, Ennr. 10. HYDREF, 1857. Ehif. oll 214. JlToesol a (Eí)r^üíroL Y PLANT YN MYNWES IESTJ. PENAÜ PREGETH GAN Y PARCH. T, W. JENIÍYN, D. D., T. G. S,, O ROCHESTEH, GER LLUNDAIN". Marc 10: 16, Ac Efe a'u cymerodd liwy yn ei freichiaa ac a roddes ei ddwylaw arnynt, ac a'u benditbiodd. Y mae y rhan hon o'r Efengyl yn rhoddi i ni y darlun neu'r pictiwr mwyaf serchus yn holl hanesyddiaeth y byd—pictiwr o Iesu a'i fynwes yn llawn o blant bach. Yma mae yr olwg arno yn fwy anwyl hyd yn nod na phan oedd yn faban cerubaidd yn y preseb—neu pan ei gwedd-newidiwyd ar y mynydd. Mae y pictiwr hyn yn eglurhau yr hen broffwydol- iaeth felus yn Esaiah 40: 11, "Eel Bugail y portha efe ei braidd; â'i fraich y casgl ei wyn, ac a'u dwg yn ei fynwes." Dacw Ee—yn ei holl brydferthwch. Yn y Darlun ardderchog hwn, y mae yr Efeugylydd yn crynhoi pedwar dosparth o ber- sonau—y rhieni—y plant—y dysgyblion a'r Iesu anwyl yn y canol. I. Y Ehieni. Y mae yn lled debyg eu bod hwy eu hunain yn rhai o ddilynwyr Iesu—ac eu bod am i'w plant bach i ddyfod yn gydnabyddus ag Ef— ac iddynt i berthyn idd ei achos. i. Yr oeddynt yn teimlo eu cyfrifoldeb fel Ehieni. Peth mawr—peth da, a pheth hyfryd iawn yw gẅeled Ehieni yn ystyriol am eu plant— pan fo "calon y tadau yn teoi at eu plant"— yn Ue troi oddiwrthynt—ac yn troi at eu cyflwr tragywyddol. Maent fel Ehieni yn awdwyr dod anfarwol—bod a bery byth. Ac yr oedd dydd genedigaeth yr un bach anfarwol yn ddydd a fydd—naill ai yn fendith—neu yn fell- dith iddo am byth. Mae Ehieni yn gyffredin yn gofalu am gyrph eu plant. Gofal 'cyntaf y Fam ar ol ei phoen yw—" a ydyw'r pientyn yn iawn—pob aelod yn ei le—-pob synwyr yn gyílawn ?"—Yn hyn, 33 mae y tad hefyd yn hyfrydu. Mae yn llon ganddynt eill dau fod gan yr un bach gorph tlws a phrydferth. A thrwy tìynyddatt maent? yn gofalu am ymborth a diddosrwydd a chyn- ydd eu plant, Eto ychydig iawn o Eieni sydd yn gofalu am eneidiau eu plant. Pan anwyd y plant, yr oedd gofal dwys am fod pob aelod a synwyr yn ei le, ond fel yr oedd y plant yn tyfu i fyny—nid oes fawr o holi—"a yw y galon yn ei Ue ? a yw y deall yn oleu mewn pethau ys- brydol? a yw yr ewyllys yn ufudd i Dduw?—a yw yr enaid mewn cyflwr da? " Dyna'r holi sobr a ddylai fod gan Eieni. Ehyw ystyriaeth a theimlad fel hyn, debygid, a wnaeth i'r rhieni yn y testyn i ddyfod â'u plant at y Gwaredwr. Yr oeddynt am gael bendith i Eneidiau eu rhai bychain. Nid rhyw blant afiach, anhwylus a chlefydus oeddynt—yn cael eu dwyn at Iesu er mwyn meddyginiaeth wyrthiol idd eu cyrph—ond plant iachus a bywiog—ond eto plant ag oedd eisiau Bendith ar eu heneidiau. Ac yr oedd y Ehieni yma yn teimlo y dylasant wneuthur rhyw beth tuag at gael bendith Enaid idd eu plant. ii. Yr oeddynt yn awyddus am i'w plant i gael Bendith Iesu. Yr oedd hyn yn dangos y gwerth mawr yr oeddynt yn ei osod ar ffafr a bendith lesu Grist. Yr oeddynt yn gwybod fod eu plant mewn byd o bechod—a byd o beryglon—ac eu bod yn agored i felldithion tragywyddol. Barnent y byddai Bendith Iesu yn debyg o gadw eu plant rhag y drwg—y buasai yn gwneuthur daioni iddynt—ac y buasent hwy- thau yn well o'r fath fendith, mewn amser ac i bob tragywyddoldeb. Eel Iuddewon, yr oedd y Ehieni yma yn cofio yr hen addewid, "Mi a dywalltaf fy Ys- bryd ar dy had, a'm bendith ar dy hiliogaeth." Yn ol cofìo yr addewid, darfu iddynt ei phledio ger bron Duw, ac yna gweithredu arni, trwy ddwyn eu plant at yr Iesu. Dygent eu plant at lesu, "fel y cyffyrddai â hwynt"—drwy osod ei law arnynt fel arwydd o'i Eendith; ac "fel y gweddiai trostynt"—fel y caffent ran yn ngweddiau, ac yn eiriolaeth un mor fawr. Oh!