Skip to main content

Oyf, 18, Rhif. 7. GORPHENAF, 1857. Rhif. oix 211. JHoesol ct €i)rrfpòM. Y BIBL. Llawer yw y dadleu a'r ysgrifenu sycld wedi ac yn bod, ar ddigonolrwydd ac annigonolrwydd natur i ddangos i ddyn ei rwymau i Dduw fel ei Greawdwr a'i Gynaliwr. Myn un blaid fod natur yn taflu digon o oleuni i ddyn i ddangos iddo yr byn y mae ei Dduw yn ei of- yn ganddo, tra yr haera y blaid arall nad ydyw goleuni natur ond rbyw lewyrch rhy egwan a thywyll i ddangos i ddyn syrthiedig yr byn y mae ei Benllywydd mawr yn ei ofyn ganddo fel deiliad ei lywodraetb. Ac nis gallwn gydag un gradd o briodoldeb feddwl fod y Dùw Holl- Ddoeth yn cario ei lywodraeth yn mlaen, heb roddi rbeolau a deddfau i ddeiliaid ei Iywod- raeth. Ni wnai y meddwl hwnw ond taflu dirmyg ar yr Anfeidrol ei hunan. Ond diolch iddo, ni adawodd ni yn amddi- fad o'i air; ond rhoddodd ef i ni, ac wele ef yn ein hiaith; ac os na fydd i ni wneuthur y defnydd priodol o hono, bydd y bai yn gor- pbwys wrth ein drysau ni ein hunain. Yn bresenol ceisiwn daflu cip olWg ar y Bibl yn gyffredinol. Mae y gair Bibl wedi tarddu o'r gair Groeg Biòlos, yr hyn a arwydda " Y Llyfr,"—enw a roddir arno mewn ffbrdd o enwogrwydd a rhagoroldeb ar bob llyfr arall, o ran gwerth, pwys, perffeithrwydd, a defnyddioldeb. Ỳ mae y Bibl yn cynwys dwy brif ran, sef yr Hen Destament, a'r Testament Newydd. Llefarwyd yr Hen Destament, yn wreiddiol yn ieitboedd y Dwyrain, sef yr Hebraeg a'r Caldeaeg. Y fwyaf o'r ddwy ran yw yr Hen Destament; ac mae yn cynwys hanesyddiaeth, ysgrifau rhyddieithol, yn nghyd a barddoniaeth ddwyfol, oll wedi eu rhoddi i lawr er mwyn ein baddysg a'n hyff'orddiant ni. Bhenir yr Hen Destament i daîr rhan, sef y Gyfraith, y Prophwydi, a'r Ysgrifau Santaidd. Wrth yr Ysgrifau Santaidd y meddylir, yn fwyaf neillduol, y cyfansoddiadau barddonol, a barnai rhai mai at y dosbarthiad hwn y cyfeiria 23 ein Harglwydd pan y dywed " fod yn rbaid cyflawni yr hyn a ysgrifenwyd yn nghyfraith Moses, a'r Prophwydi, a'r Salmau, am danaf fi;" o herwydd wrth y Salmau y meddyliant yr oll nad oedd yn perthyn i'r Gyfraith a'r Prophwydi. Y mae yr Hen Destament yn cynwys 39 o Ìyfrau, 929 o bennodau, 23,214 o adnodau, 592,439 o eiriau, 2,728,100 o lythyrenau. Yr oedd yr Ilebreaid yn enwi llyfrau y Bibl oddiwrth y geiriau cyntaf yn y llyfr; ond y Groegiaid a'u hemvent oddiwrth yr hyn a gy- nwysent. Er engraifft, enw y llyfr cyntaf gaa yr Hebreaid oedd Beresith, yr hyn yw, " Yn y deehreuad;" ond yn ol y cyfieithiad Groegaidd, gelwir ef " Genesis," 'yr hyn a arwydda gyfan- soddiad, neu,. genedliad, o herwydd mai cread- igaeth y byd yw y peth cyntaf ag y mae yn rhoddi hanes am dano; ac felly yn mlaen gyda phob llyfr. Nid yr un enw sydd genym ni ar- nynt yn bresenol ag ydoedd cyn eu cyfíeitha i'r Groeg, yr hyn, fe fernir, a wnaed ynnghylch y flwyddyn 277 cyn Orist, gan ddeg a thriugain 0 henuriaid Iuddewig, y rhai a roddwyd ar waith gan y llywodraethwr Aifftaidd, Ptolemy Philadelphus. Gelwir y Oyfieithiad hwn " Septuagint," sef deg a thriugain. Yr oedd y cyfieithiad hwn yn cael derbyniad cyffredinol gan yr Iuddewon;. ac mae yn deilwng o sylw mai i'r cyfieithiad hwn y byddai ein Hiachaw- dwr yn cyfeirio pan y byddai yn difynu rhanau o, ac yn cyfeirio i'r, " Ysgrythyrau Santaidd." Ysgrifenwyd yr Hen Destament gan wahan- 01 ddynion,, mewn gwahanol wîedydd, ar wa- hanol amseroedd, yn yr ysbaid maith o 1100 o flynyddoedd; a chafwyd ef at ei gilydd gan Ezra yr Offeiriad. Yr ail ran yw y Testament Newydd. Y mae yn cynwys 27 o lyfrau, 260 o bennodau, 7,95T o adnodau, 181,258 o eiriau, 838,380 o lythyr- enau. Oynwysa y ddau Destament yn nghyd, 66 o lyfran, 1,189 o bennodau, 31,175-o adnod- au, 773,697 o eiriau, 3,566,480 o lythyrenau. Bhenir y Testament Newydd yn benaf i dair rhan, sef Hanesyddol, Athrawiaethol, a Phro- phwydoliaethoh Hanes am Iesu Grist, Pen yr