Skip to main content

.1 CEfflADWR Cyf. 18, Rhif. 5. MAI, 1857, Ehif. oll 209. ilîoesol a Cljrefgìẁol. DIGOIAINT. " Digiwch, ac na phechwch;" felly nid yw pob digter ddini bob amser yn bechadurus: a hyny, feddyliem, oblegid fod rhyw raddau o hono, ac ar rai achlysuron, yn anocheladwy. Ond y mae yn dyfod yn bechadurns, ac yn gwrth-daro rheol yr Ysgrythyr, pan y cyífroir ef gan beth rhy ysgafn a rhy ddibwys i'w gyf- iawnhau, a phan yr erys yn hir. 1. Pan y cyffroir ef gan bethau dibwys; oblegid " cariad sydd hirymarhous, ac ni chy- thruddir."—Bydded pob dyn yn hwyrfrydig i ddigofaint. Enwir tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, addfwynder, yn mhlith ffrwythan yr Ysbryd, Gal. 5: 22, ac y maent yn cyfansoddi y wir dymher Gristionogol gyda golwg ar y ddyledswydd hon. 2. Pan fyddo yn para yn hir: canys, " na fachluded yr hanl ar eich digofaint chwi." Mae y gorchymynion hyn, ac yn wir y mae pob ymresymiad ar y pwnc, yn rhagdybìed fod y nwyd o ddigofaint o fewn ein gallu: a'r gallu hwn sydd gyfansoddedig nid yn gymaint mewn unrhy w gyneddf a feddom o orchfygu ein digter ar y pryd (canys yr ydym yn oddefol dan y briw y mae niweidiad neu sarhad yn eì achlysuro, a'r oll a allwn wneyd y pryd hyny ydyw ei attal rhag tori allan mewn gweithred,) ag mewn dysgyblu ein meddyliau yn y fath fodd trwy yr arferiad o adfyfyrdod cywir a phriodol, fel ag i fod yn llai cythruddedig dan argrafriadau o niwaid, ac i ymheddychu yn gynt. Myfyrdodau priodol i'r perwyl yna, a'r rhai a ellir eu galw yn gicsgheiriau i ddigofaint, yw yrhaicanlynol: Y posiblrwydd o gamgymeryd yr amcanion oddiar ba rai y tarddodd yr ym- ddygiad fydd yn ein cythruddo; mor fynych y mae ein tramgwyddiadau ni wedi bod yn effaith diofalwch, pan y priodolid hwy i falais; y cymhelliad a achlysurodd i'n gwrthwyneb- ydd ýmddwyn fel y gwnaeth, ac mor rymns y mae yr tm oymhelliad, y naill dro a'r Ilall, 16 wedi effeithio arnom ninaU; y gall ei fod ef yn ymofidio am y weithred, a chywilydd arno, neu heb fod ganddo gyfieusdra i gyfaddef hyny; ac mor wael fyddai mathru trwy oer- felgarwch nen sarhad ar deimladau un sydd eisoes wedi cael ei ddarostwng yn y dirgel; mai melys yw effeithiau tiriondeb, ac nad oes dim anrhydedd na rhinwedd na daioni o'u gwrthsefyll;—canys meddylia rhai eu bod yn rhwym o feithrin a chadw yn fyw eu digter, pan Avelant ef yn marw o hono ei hun. Gall- wn gofío fod gan eraill eu. nwydau, eu rhag- farnau, eu cyrchnodau hoff, eu hofnaü, gochel- iadau, eu helwau, eu cynhyrfiadau sydyn, a'u hamgyffrediadau amrywiol gystal a ninau; gallwn alw i gof beth sydd wedi pasio trwy ein meddyliau ein hunain pan ddygwyddodd i ni fod ar yr ochr feius mewn ymrafael, a dychymygu fod yr un peth yn myned trwy feddwl ein gwrthwynebydd yn awr; pan ddaethom yn ymwybodol o'n camymddygiad, gynifer o bethau yn tueddu i'n cyfìawnhau a welsom ynddo, ac y dysgwyliasom i eraill weled hefycl; fel yr effeithiwyd arnom gan y tiriondeb, ac y teimlasom y rhagoroldeb o dderbyniad mawrfrydig a madcleuant parodol; pa fodd wed'yn y daríu i erlidigaeth adnew- ydddu ein hysbrydoedd yn gystal a'n gelyn- iaeth, ac yr ymddangosai fel i gyfìawnhau yr ymddygiad ynom ein hunain a feiasom o'r blaen. Tchwaneger at hyn, yr anweddus- rwydd o ddigofaint anghymesur; pa fodd y mae yn ein gwneyd ni, trà y pery, yn watwar- gerdd a chwerthinbeth pawb o'n hamgylch, ac wedi yr el heibio, y mae yn ein gadael ninau yn deimladwy o hyny, a chywilydd arnom o'i herwydd; y dyryswch a'r cam- ymddygiadau di-alw yn ol y mae ein nwyd- wylltedd weithiau wedi ein bradychu iddynt; y cyfeillachau y mae wedi eu tori i ni; yr anghysuron a'r gofìdiau y dygwyd ni iddynt gandd'o; a'r chwerw edifeirwch ag y mae, o'r naill herwydd neu y llall, yn ei gostio i ni bob amser. Oüd y myfyrdod a duedda uwchlaw ,pob peth i ddofi y dymher uchelfalch ag sydd byth yn chwilio allan y cymhelliadau i ddigofaint,