Skip to main content

Y CEMADWR AMERICANAIDD. Ctf. 18, Rhif. 1. IONAWR, 185T. Rhif. olt, 205. 13iîii)ìrraití)DtratoL HANES MARWOLAETH GASPER COLIIsHüS. Gasper Colinius oedd benllywydd llu môr yn Ffraingc, ac fe gafodd ei ladd yn Uaddfa'r Parisicẃd, Awst 24-, 1572. Fel rhyw beth rhagfiaenol i'r glanastr, tair bwled a ollyngwyd at Gasper Colinius, trwy ffenestr o goed, pan yr oedd yn dyfod o'r Cwrt; un o honynt a dorodd bedwarydd bys ei law ddeheu, a'r ddwy arall a drywanodd ei law aswy. Y Peiülywydd hwn a ddangosodd lawer o wTroldeb Crist'nogol pan dorodd y meddyg ei fys ymaith, a phan ffleimiodd ei glwyfau; o blegyd gosododd y gwaith hyn ef i'r fath boen, fel ag yr oedd ei ffryns o bob tu iddo yn wylo; ond efe a ddywedoddwrthynt, "Fy ffryns, pa ham yr ydych yn wylo? yr wyf yn cyfrif fy hunan yn hapus fy mod yn dy- oddef y clwyfau hyn dros achos fy Nuw------ Y clwyfau liyn ydynt fendithion Duw.------Y mae'r doluriau yn wir yn flinedig, ond yr wyf yn cydnabod mai ewyllys Duw ydynt; ac yr wyf yn bendithio ei Fawredd, yr hwn a wel- odd fod yn dda i'm hanrhydeddu fel hyn, ac a roddodd arnaf ryw boen er mwyn ei enw sanctaidd.------Gadewch i mi erfyn arno ef i roddi i mi allu, fel y byddo i mi barhau hyd y diwedd." Ei Gaplan, Monsieur Merlin, a ddywedodd wrtho ef, fod y gofidiau a'r helbulon ag fydd yn dygwydd i blant Duw yn arferol o'u byw- hau i weddi; yna'r Penllywydd, â lîais soniar- us ac enaid gwresog, a weddiodd ar Dduw fel y canlyn: "O Arglwydd Dduw, a'm Tad nefol, cymer drugaredd arnaf, er mwjn dy dirion drugar- edd. Na chofia yn fy erbyn fy anwireddau gynt; na osod ychwaith yn fÿ erbyn bechodau fy ieuengctyd. Os edrych a wnai'r Arglwydd yn fanol ar yr hyn ag ydym yn eu wneuthur ar fai, neu, os cyfrifi i ni dori dy gyfamod, pwy gnawd a all sefyll o'th flaen di, neu a all ddyoddef dy lid? ond yr wyf yn ymwrthod â'r holl dduwiau dieithr a'u haddoliad, ac arnat fi yn unig yr wyf yn galw, Tad tragyw- yddol ein Harglwydd Iesu Grist; a thi yn un- ig yr wyf yn addoli. " Er mwyn Crist, yr wyf yn atolwg arnat i roddi i mi dy lân Yspryd, a'r gras o amynedd. Yn dy drugaredd yn unig y mae fy ymddir- ied; ynot ti yn unig y mae fy holl obaith a'm hyder: Pa un bynag yr wyt yn gweled bod yn dda, ai fy rhoddi i angeu, neu i arbed fy mywyd fel y gallwyf dy wasanaethu yn mhell- ach, Avele fì, Arglwydd, gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg, heb amheu os rhoddi fi i angeu, y bydd i ti fy nerbyn a'm cymeryd i'th drag- ywyddol deyrnas; ond os, Arglwrydd, y dyodd- efi i mi fyw yn hwy yma, caniatâ, O Dad nefol, i mi dreulio y rhan sydd ol o'm dyddiau i ddyrchafu dy ogoniant^ ac i synied ac i ymlynu yn agos i'th grefydd wirioneddol, AmenP Yn ddiatreg, wTedi i'r Penllywydd gael ei glwyfo, y Brenin a'r Frenhines a ymwelasant ag ef; a'r pryd hyny y Penllywydd a ymddyg- odd yn weddus tu ag at y Brenin, gan osod o'i fiaen, trwy sel Crist'nogol a llidiawgrwydd, yr holl ffieidd-dra a'r creulondeb ag oedd yn cael ei wTneuthur yn ddigosp. Y Brenin a ddeisyfodd arno i beidio a bod mor brysur yn yr achos, o blegyd trwy hyny y gwnaethai ef ei gyfiwr yn fwy peryglus; a chyd â'r rhagrith mwyaf, cymerodd arno fod ganddo barch mawr iddo ef, a'r casineb mwyaf i'r rhai a amcanasant ei ladd ef, gan ddy wedyd, " Yr wyf yn tyngu, trwy angeu Duw, y cospaf am y weithred ddrygionus hon, fel nad el y goffadwriaeth o honi yn anghof i'r oes ddiweddaf." Y brenin a orchymynodd symud y penllyw- ydd i'r castell, dan liw ei fod ìirewn mawr ofal am ei ddiogehvch; ac y byddai i'r Cath- oliciaid gael eu symud o bob lle oddiaragylch, mewn trefn i wneuthur lle i'r Protestaniaid i fod yn agos iddo ef, i ragfiaenu perygl yn ycb. waneg. Yr holl amser hyn, yr oedd y brad uffernol wedi ei drefnu i ladd yr holl Brotesíaniaid, yn Mìiaris: O blegid yn nghanol y nos, y 23 o