Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CENHADWR AMERICANAIDD. Cyf. II. RHAGFYR, 1841. Rhif. 12. 3Bstofiraẅìí3tt. COFIANT Y PARCH, JOHN R. JONES, Turin, Swydd Lewis, C. N. yr hwn a ym- adawodd o"r byd yma mcwn buddugoliacth glir trwy lesu Grist, Awst 15, 1841, yn y 2Qain mlwydd oH oedran. ' d Y Parch. John R. Jones, testyn y Byw- graffiad hwn ydoedd fab i Rowland ac Eliza- beth Jones, gynto Lanymowddwy, Merionydd, Gogledd Cymru, ond yn awr sydd yn trigo er ys dwy-ar-hugain o flyneddau yn yr ardal uch- od, Turin. Yr oedd y brawd Jones o ran ci gyfansodd- iad corphorol yn ddyn lluniaidd iawn a theg yr olwg arno, ac o ran ei feddwl yn dreiddiol, ty- ner, a mwynaidd. Bu am ddau dymor yn fy- fyriwr rheolaidd yn Athrofäau Cazenovia a Governeur, yn ystod pa bryd, trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd, y cyrhaeddodd wybodaeth hel- aeth o'r ieithoedd Saesoneg, Lladin a Groeg, ynghyd ag amrai gangenau ereili o ddys- geidiaeth. Bu y brawd Jones fyw yn ol helynt y byd hwn fel ereill heb grefydd hyd nes yr oedd yn 19eg oed, pryd yr argyhoeddwyd ef yn ddwys gan Ysbryd yr Arglwydd o'i sefyllfa druenus fel pechadur colledig; ac yn y fan nid ymgyng- horodd a chig a gwaed, ond yn ddioedi diang- odd am ei einioes i'r mynydd—ffodd rhag y llid a fydd, a gwnaeth ei gartref gyda phobl yr Ar- glwydd yn Nghyfundeb y Methodistiaid Wes- leyaidd (Saesnig,) a bu yn aelod hardd ddi- frychog ac yn filwr pybyr a da hyd ei farwol- aeth—-parhäodd hyd y diwedd. Pan oedd y brawd Jones yn cychwyn gyntaf o Ddinas distryw ar ei fordaìth i Gaersalem Newydd, yr oedd lluoedd yn cyd droi allan gydag ef, ieuengctyd gan mwyaf. O yr oedd yr olwg arnynt yn ddymunol! Eu hwyliau gwanaidd yn llawn gwynt, A'r mòr yn dyner danynt. Pawb yn meddwl bod ar ben ei daith cyn hir. Ond ow! nid felly y bu—cododd y gwynt, cynhyrfodd y môr a'i donau, duodd yr wybr, &c, ac aeth yn llongddrylliad ttr y rhan fwyaf 45 o honynt. Ond er i John orfod edrych ar un yn suddo yn ei ymyl—y Ilall yn cael ei chy- meryd megys gan for-ladron yn ei olwg—y drydedd yn taro yn erbyn y graig yn y fan draw, eto efe a ddaliodd ei ffbrdd i fyned ym- laen yn nerth yr Arglwydd trwy y cyfan, nes y cyrhaeddodd ben ei daith mewn hedd—aeth i mcicn trwy y pyrth i'r ddinas. Nid oedd y brawd Jones yn segurwr yn ngwinllan ei Arglwydd; oiîd o'r awr gynraf "jr' cyflogodd hyd y mynud y machludodd ei haufc efe a fu yn ffýddlon a diwyd i gynyddu mewn profiad a defnyddioldeb, a'i gynydd o%dd eglur i bawb. Ni bu yn hir wedi iddo enwi ei hun ar enw yr Arglwydd hyd iddo ddeehreu sefyll yn eneu cyhoeddus dros ei Dduw at ei gydar- dalyddion iddeu hanog i ffbi at yr ArglwydA am orphwysfa i'.w heneidipu, a thros y pum * mlynedd diweclprfo'i fywyd bu yn bregethwr rheolaidd, a derbyniodd ei Drwydded (li- cence) yn ol rheol dysgyblaeth y Cyfundeb. Teithiodd un flwyddyn yn nghylch-daith (cir- cuit) Newport, ac yr oedd wedi ei benodi i deithio y flwyddyn hon yn genhadwr cartref- 61, (home missionary.) Ond cyn iddo bre- gethu gymaint ag unwaith yn y lle a benodwyd iddo, er mawr golled i'r rhai oedd yn dysgwyl am dano, a galar i bawb a'i hadwaenai, sy- mudwyd ef gan Iesu Grist, yr Esgob mawr, i gylch-daith arall, ragorach o lawer, lle nid oes neb yn achwyn clwy. Yr oedd y brawd Jones fel pregethwr yn meddu ardderchawgrwydd nid ychydig, ei fa? terion yn ddwys ac Ysgrythyrol—ei ddrych- feddyliau yn ddwfn, eto eglur a threiddiol—ei ddull yn llym, sobr, ac argyhoeddiadol iawn. Canwyll yn Uosgi ydoedd, a halen daear Duw. Mewn amser ac allan o amser ymdrechai dynu pawb iddei elfen ei hunan. Yr oedd fel Mo- ses yn " ffyddlon yn ei holl dŷ;" fel Paul, safai yn gywir genad droa Dduw trwy bob anbaws- derau; ac fel Ioan ymbwysai yn wastad ar fynwes Iesu Grist, ei Anwylyd penaf, i ymhy- frydu yn ei wedd. Ond ow ! ow! gwywodd y blodeuyn llawn pan braidd yn dechreu agor, a machludodd yr haul cyn canol ei ddydd. Ei gystudd ydoedd Darfodedigaeth. Yr oedd wedi dechreu gwanychu er ys yn agos i flwyddyn, eto yn dal i lafurio ychydig hyd o