Skip to main content

Y CENHADWR AMERICANAIDD. Cyf. II. HYDREF, 1841. Rhif. 10. ANERCHIAD ANGLADDAWL, T DIWEDDAR BARCH. WILLIAM WILLIAMS, o'r Wern. (Parhad o'r Rkifyn diweddaf.) 4. Un mawr ydoedd mewn haelfrydedd (liberality.) Nid oedd byth am orfodogi neb i fod o'r un farn ag ef mewn athráwiaeth na dim arall. Casái y golygiadau cul a rhâgfarn- llyd a goleddir gan lawer o broffeswyr o wa- hanol enwadau am eu gilydd; a gwnaeth ei oreu drwy ei oes i ladd pob teimladau anny- munol felly. Rhoddai ddeheulaw cymdeithas i bawb a welai am wneud daioni i eneidiau pechaduriaid, gan nad i ba enwadau y perthyn- ent; a phregethai Iesu Grist wedi ei groes- hoelio yn mhob addoidŷ y caffai efe ei ddrws yn agored i'w dderbyn. Y mae rhai yn ei hystyried yn beth mawr a phwysig eu cael hwy, neu yr enwad y perthyn- ant iddo, i gydnabod proffeswyr o enwadau er- eill yn broffeswyr; fel pe byddai iechydwr- iaeth eneidiau y cyfryw yn dibynu ar y medd- yliau fyddo ganddynt hwy am danynt: ond y mac y cyfryw o ysbryd gwahanol iawn i'r di- weddar Mr. Williams, o'rìÄfc. Dangosodd ef ei hun yn nghychwyniadji weinidogaeth yn wr rhydd caredig, o'r nifef Hyny, sydd yn tyb- ied eu gilydd yn well na hwý eu hunain. Pan ddaeth llwyrymataliaeth i Gymru, bu ef yn gymcdrol iawn yn ei nodiadau. Yr oedd pob peth a ddywedai yn tueddu yn hyt- rach i enill dynion at yr egwyddor nag i'w tarfu oddiwrthi. Yr oedd am i'r egwyddor Iwyr- ymataliol sefyll ar ei sylfaen ei hun, ac nid ei ehymysgu â'r efengyl; nid oedd yn foddlon ei gwneuthur yn amod derbyniad i'r eglwys, nag yn gymhwysder (qualification) i'r areithfa. Dywedai wrth gyfaill oddeutu mis cyn marw fel hyn :—:" Nid oes genyf fawr o feddwl am y pregethwyr oeddynt yn eu swydd^ ac yn mcdd- wi, fod dirwest wedi rhoi principle newydd iddynt; ond dynion ag oeddynt yn feddwon, ac a aethant yn ddirwestwyr, ac a ddaethant yn broffeswyr, y mae genyf gymaint o feddwl am y cyfryw a neb." ö. Yroodd yn fawr mewn gostyngeiddrwydd. 37 Ni welid byth mo hono yn arfer un math o dwyll na hoced i geisio dyrchafu ei hun. Nid ei hunan oedd ganddo mewn golwg ond gogon- iant Duw a lles y pechadur. Yroedd yn fodd- lon i ddwyn ei holl gofnodau goruchafiaeth (trophies) at droed y groes; i gysegru pob dawn a dylanwad a feddai at ogoniant ei feistr. Yr oedd yn hawdd ei drin. Y mae ambell hen bregethwr, na chyrhaeddodd erioed y íyrddiynfed ran o ragoriaethau na defnyddiol- deb Mr. Williams, y byddai yn haws i chwi gael ymddiddan â'r Tywysog Albert nag âg ef. Y mae wedi ei chwythu i fyny á meddyliau mawr am dano ei hun; a bydd raid i bawb nesau i'w wyddfod fel y bydd caethion yn myned o flaen eu gormeswyr; ond fel plant yn nesau at cu tad y nesâi pregethwyr ieuainc at Mr. Williams. Byddai fel un o honynt; pob gwahaniaeth wedi ei golli i raddau mawr; ac yntau yn gwneuthur ei hun yn hyfryd yn y gyfeillach. Nid oedd yr holl godiad a'r dyr- chafiad oedd yn gael wedi effeithio arno er niwaid; ond yr oedd efe yn gydostyngedig â'r rhai iselradd. Nid oedd neb mwy rhydd nag ef ychwáith oddiwrth goeg ysgoleigiaeth (pedantry;) yr oedd efe yn fwy dysgedig o lawer nag y cymer- odd arno fod erioed ; gallesid meddwl wrth edrych ar ei ddiofalwch gyda'r Gymraeg a'r Saesoneg nad oedd ei wybodaeth yn hyn ond canolig, ond yr oedd y neb a dybiai byny yn Ilafurio dan gamgymeriad ; nid arwyddion dyn annysgedig oedd ar ei bregethau; ei feddyl- ddrychau ef, mae yn wir, oedd fwyaf yn y gol- wg; ychydig a ymdrafferthai yn nghylch y dull o'u gosod allan, ond gwelid y dyn o athrylith (genius) a dysg yn mhob peth yr ymdrinai efe âg ef. Y mae- llawer, os byddant wedi cyraedd gradd o fedrusrwydd i osod geiriau wrth eu gilydd yn lled reolaidd ac ysgoleigaidd yn Gymraeg neu Saesoneg, yn meddwl fod y gwaith ar ben, pe byddai y darnau a gyfan- soddant mor amddifad o athrylith ag yw copa y Wyddfa; ond nid ymdrafferthai Mr. Wil- liams gymaint gyda'r wisg; nrynai ef egwydd- or i'r golwg; y mae yn wir y gallasai ef dac- luso mwy ar amryw o'i ymadroddion, ond gwell oedd ganddo gloddio mwn i'w wranda-'