Skip to main content

¥ CENHADWR AMMICANAIDD. Cyf. II. GORPHENAF, 1841. Rhif. 7. î3 utoíîtöìíîjf aetit* PRJEGET7T, Gan yParch. T. Etlwards, Pittsburgh. " Canys yr hyn ni allai y ddeddf o herwydd ei bod yu wan trwy'r cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun ynghyffelybiaëth cnawd pechadurus, ac am bechod a p-ondemniodd bechod yn y cnawd. Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddoddf ynom ni, y rhai ydym vn rhodio, nid yn ol y cnawd, eithr vn ol yr Yspryd. Rhuf. B: 3, 4. Wedi i'r Apostol nodi diogelwch cyflwr y rhai sydd yn Nghrist Iesu, y mae ef yn nodi yn yr ail adnod y rheswm am eu diogelwch, sef, am fod " deddf yshryd y bywyd yn Nghrist Iesu wedi eu rhyddliau oddiwrth ddeddf pech- od a marwolaeth." Wrth ddeddf " ysbryd y bywyd" y byddaf yn deall gweithrediad yr Yspryd Glan ar gyflwr troseddwyr o ddeddf Duw, trwy Grist fcl cyfrwng gweinyddiad, nes dwyn y rhai oeddent euog i fod yn gyfiawn yn haeddiant Iesu Grist, yr hyn ni allai y ddeddf, sef, y ddeddf á roddwyd trwy Moscs. Ac i'r dyben i sylwi yn fwy manwl, cawn nodi, I. Y ddédâf a emcir yma. II. Y drefn rasol cr cioblhau yr hyn ni allasai y ddeddf. III. Y dyben, " Fel y cyfíawnid cyfiatcn- der y ddeddf ynom ni," <f«c. I. Y däeddf a nodir. 1. Deddf angenrheidiol yw. Ileb hon ni fuasai trefn yn llywodraeth foesol y Jehofa mawr. Ni all teyrnas fodoli heb gyfraith; ni fyddai brenin na deiliaid heb hyny î felly heb ddeddf ni fuasai deiliaid na brenin trwy holl lywodraeth Duw; ac yr oedd dyn fel crcadur ymddibynol ar yr Arglwydd yn rhwym i ym- ostwng i'w Gynaliwr, ac fe gädarnhawyd hyny trwy roddiad y ddeddf. 2. Mae y ddeddf hon, sef y ddeddf foesol, yn uniawn rhwng y gwahanol bleidiau, sef Duw a'i holl greaduriaid rhesymol. Oni bai fod deddf yn perthyn i'r brenin ac i'r deiliaid ni fyddai grym ynddi. Mae y ddeddf hon yn rheol foesol i Dduw i ymddwyn at ddynion ac angylion, ac yn rheol wrth ba un y mae i ddyn- ion ac angylion i ymddwyn tu ag at yr Ar- glwydd. Nid ydyw Duw fel Llywydd moesol yn ymddwyn at ei greaduriaid ond yn ol y 25 ddeddf; ac er fod Iesu Grist wedi rhoi iawn, cto rheol yr Arglwydd fel Llywydd moesol yw y ddeddf hon. Ni ddarfu i Grist i newid yr orsedd, na lleihau gofyniadau y ddeddf, na rhyddhau dyn o fod yn ddeiliad deddf Duw; ond efe a gadarnhaodd rwymau dyn yn fwy yn ei berffaith ufudd-dod i'r ddeddf hon; ac er i Grist i roi iawn, eto nid oes modd i ddìangc rhag cosp, heb gredu yn Mab Duw ; yr ydym yn droseddwyr yn erbyn Duw, ac fel y cyfryw nid oes genym le i edrych am un drugaredd ond yn yr iawn. 3. Mae y ddeddf hon yn anfeidrol. Mae hi yn dal perthynas a gorsedd anfeidrol ac a bre- nin anfeidrol. Wele ddeddf anfeidrol yn gofyn creaduriaid meidrol; eto nid yw hi yn gofyn dim oddiwrtbym ond yr hyn sydd ddyledswydd arnom i'w gyflawni, sef ymddwyn yn uniawn at Dduw a dynion. Mae mawredd " y ddeddf" yn dangos mawi-edd y drwg o'i throseddu; ac y mae yn sicr y bydd y gosp yn ol y troseddau; ac y mae yn amlwg y bydd y gosp yn dragy- wydclol ac anfeidrol bwysig. 4. Deddf ddaionus yw hon. Nid ydyw yr Arglwydd wedi gwneyd ond daioni yn nghosp- edigaeih y colledigion; a bydd i'r Arglwydd i gospi troscddwyr ei ddeddf dda mewn modd daionus i dragywyddoldeb. Nid ydyw Duw yn gwneyd drwg mewn un cyflawniad ; ac nid drwg fydd cospi, ond daioni yn ei berthynas a'r Arglwydd, ac ni fydd i neb gael cam gan Dduw mewn dim, oblegid " cyfiawn yw yr Ar- glwydd yn ei holl ffyrdd a sanctaidd yn ei holl weithredoedd." 5. Mae cyíiawnder y ddeddf hon yn galw am gosp. Gan fod pawb wedi troseddu, nid oes modd i gadw neb yn ei bechod;- onite byddai holl Iywodraeth foesol Duw wedi cael cam. Byddai arbediad neb i fywyd tragy- wyddol tu allan i Grist yn groes i drefn y Jehofa oll, ac mae yn sicr na wna Duw gam a'i gyfraith i gadw neb; mae yn rhaid i ni i gael ein cadw yn unol a threfn gyfiawn y nef neu ni fydd i ni i gael ein cadw. Wedi i ni droseddu, ni allasai y ddeddf ein cyfiawnhau, am ei bod hi yn ddeddf gyfiawn. Nid yw pechod wedi gwneyd y ddeddf yn ddì-rym, ond ni ail y ddeddf, ac ni all unrhyw ddeddf i ddwyn pechadur i sefyllfa gyfiawn yngolwg