Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CENHADWR AMERICANÄIDD. Cyf. II. EBRILL, 1841. Rhif. 4. ©utoítisìtòfoeth. DYLEDSWYDDAU GWEINIDOGION YR EFENGYL, T N A I L L AT T L L A L L . Mr. Gol.—Gyda gostyngeiddiaf barch dy- lcdus, ar gais fy anwyl frodyr yn y weinidog- aeth, cynygiaf i eich sylw rai nodiadau ar y testyn rbag-grybwylledig. Buasai yn fwy dewisol i'm teimladau pe buasai rhyw un mwy medryswych yn cymcryd y gwaith nodadwy mewn llaw, ond mi a nodaf rai pethau ag sydd fel rheol genyf pa fodd y dylwn i ymddwyn at fy mrodyr gweinidogaethol; sef, 1. Gweddio dros fy mrodyr fel rhai sydd mewn sefyllfa bwysig neillduol. Ein gwaith yw bugeilio praidd Duw, gwylio dros eneidiau ; ac fe fydd cyfrif gweinidogion yn ddychrynllyd. os heb fod yn weision ffyddlon. Nid oes un sefyllfa yn y byd yma mor fuwr ei chanlyniad- au, a sefyllfa gweinidogion yr efengyl. " I'r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwol- aeth, ac i'r lleill yn arogl bywyd i fywyd ; a phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn." 2 Cor- 2 : 16. Ac am fod eu swydd mor bwysig dy- lem weddio yn barhaus dros y rhai sydd ar furiau Seion, mewn modd cyhoeddus a dirgel- aidd, am iddynt gael eu cynal a'u llwyddo hyd eu beddau. " O frodyr! gweddiwch drosom." 2. Mae dyledswydd neillduol ar bob gwein- idog i ymadroddi yn barchus a theilwng am ei gyd frodyr yn eu habsenoldeb. Mae yn gas clywed neb yn siarad yn amharchus am was i Grist; ond mae yn gasach cly wed gweinidog >n llefaru yn amharchus am ei gyd frawd neu ei gyd frodyr na ncb. Mae dyìedswydd ar bob gweinidog i fod yn siampl i'r praidd, ac os bydd ef yn cyhoeddi beiau ac yn ymbleseru datguddio ffaeleddau ei gyd frodyr, nid oes le i ddysgwyl na fydd eu gelynion yn cael eu caledu, a'u gyru yn fwy i ryfyg. Gocheled pob gweinidog rhag bod yn euog o hyn, ac ym- drechaf hefyd i fod felly fy hun. Ond os cnoi a thraflyngcu eich güydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd. Gal. 5 : 15. 13 3. Bod yn ochelgar rhag barnu yn galed y naill am y lla.ll am nad ydym yn cyd weled am bethau amgylchiadol crefydd. Mae gan bob brawd hawl i farnu drosto ei hun, ac y mae pawb yn ddarostyngedig i ffaeleddau yn y sef- yllfa bresenol; ac am hyny ni a-11 un brawd rwymo y lla.ll i fod yr un farn ag ef. Os na chyd welir am bethau fel uchod nid oes hawl gan neb i feio ei frawd am hyny; os bydd galwad, gellir rhoddi cyngor mewn ysbryd addas; ac y mae hyny yn fwy tebyg o fod o les na cherydd mewn modd chwerw. " Cynghor- wch eicb giiydd bob dydd tra- y gelwir hi heddyw." 4. Parchu naill y llall. Mae parch yn ddy- ledus i weision Crist;- ond cant eu amharchu gan elynion croes Crist; ond ni' ddylai gweis- ion yr Argîwydd Iesu amharchu y naill y lla.ll. " Perchwch bawb, cerwch y frawdoliaeth;" a phiiodol yw dywedyd, " Parhaed brawdgar- wch." 5. Dyledswydd gweinidogion yr efengyl yw peidio gwneyd cyfeillion o'r rhai sydd yn elyn- ion i'w brodyr. Mae yn ofidus coffau fod rhai gweision ffyddlon i Grist wedi cael eu gofidio gan " feibion eti mam," ac fod rhai o'u brodyr yn y weinidogaeth wedi cysylltu a gelynion eu brodyr ac wedi codi plaid, ac wedi cynyg ni- weidio eu brodyr oedd yn ddefnyddiol a flÿdd- lon. Ni ddylai neb gweision i Grist wneyd cyfeillion o elyniòn eu brodyr, ac os bydd rhai yn gwneyd felly y maent o egwyddorion drwg, am y gellir dywedyd, " Gwelaist leidr, cytun- aist ag ef." 6. Dylai gweinidogion amddiffyn y naill y lla.ll pan font yn cael cam. Nid bod yn greulon, at eu gilydd pan fyddant wedi clywed rhyw beth y naill am y lla.ll, ond edrych " a ydyw y pethau hyn feìly." Ac os bydd brawd yn cael cam, ei amddiffyn ef ar dir cyfreithlon. Nid troi ein cefnau ar ryw frawd yw ein dyled- swydd, pan fydd ef yn dyoddef ar gam, íind teimlo drosto fel pe baem ni yn dyoddef fel yntau ; 'ie, teimlo y naill at y llall fel yr oedd Jonathan a Dafydd at eu gilydd. 7. Bod yn ofalus rhag cymeradwy© y naill y llall pan fydd bai yn bod. Eribd undeb gwein- idogion yn agos, eto nid rheol Duw yw am- ddiffyn neb i fyw yn ei bechod. Dylem ym-