Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CENHADWR AMERICANAIDD. cyf. n. MAWRTH, 1841. Rhif. 3. YR AFFRICANES DDUWIOL. Cyfieithiad gan y Parch. Geo. Roberts. Anwtl Gyfaill—Nid wyf yngwybod am un ffordd yn well i fod yn ychydig o gynorthwy i chwi yn y gwaith pwysfawr o arolygu y Cen- hadwr, nag í fod yn ychydig o ddefnydd i fy nghydwladwyr, na thrwy anfon i chwi y cyf- ieithiad goreu ag a fedraf wneyd o'r hanes gwirioneddol canlynol. Yr wyf wedi darllen Hanesion Bywydau amryw o rai enwog iawn mewn duwioldeb, ond nid wyf yn gwybod i mi ddarllen hanes neb ag oedd eu duwioldeb yn ymddangos i mi yn fwy dysglaer na'r Affric- ANE3 Ddu a ddarlunir yn y llinellau canlynoi:— Yn teithio trwy ran Orllewinol Talaith Caer- efrog Newydd yn yr haf 1316, arosais mewn tafai'n ar nos Sadwrn, mewn rlian o'r wlad lle yr oedd y trigolion yn anaml, i'r dyben i or- phwys dros y Sabbath. Wrth holi cef'ais hys- bysiad nad oedd un lle o addoliad cyhoeddus o fewn amryw o fiiltiroedd. Yr oedd y medd- wl am dreulio dydd yr Arglwydd yn y fath sefyllfa yn peri i brudd-der ymdaenu dros fy meddwl. Ond pa mor aml y mae Duw yn well i ni na'n hofnau ! Gan fy mod yn ílined- ig gan fy nhaith, cyflwynais fy hunan i Geid- wad Israel, ac aethum i orphwys dan deimlad dwys o ddaioni Duw. Ar wawriad y dydd yr oeddwn yn rhyfeddu, molianu, a charu fy Nuw, wrth daflu fy ngolwg ar y maesydd a chanfod gweithredoedd natur ni allwn lai na dywedyd, os oedd y gweithredoedd mor ogoneddus, pa mor ardderchog oedd eu Gwneuthurwr. Nid aëth y diwrnod heibio heb ryw arwyddion dy- munol o'r dwyfol bresenoldeb. Yr oedd dalen- au y Gair ysgrifenedig yn agored ger fy niron, a galluogwyd fi i weled hawddgarwch ei ath- rawiaethau, a phrofi melysder ei addewidion. Túa diwedd y dydd cefais fy aflonyddu gan swn ac ymddyddanion halogedig personau a alwasant yn y dafarn; a chyfeiriais fy ngham- rau tua'r coed ar hyd llwybr oedd yn myned trwy feesydd hardd, y rhai oedd wedi eu llwytho â thrugareddau Rhagluniaeth. Pan aethum i ystlys y goedwig, clywais lais yn dis- gyn ar fy nghlust—sefais i wrando—yr oedd y swn yn debyg i ddeisyfiad—Nesais tua'r Ue o ba un yr oedd y swn yn dyfod, a gwelais wrth ochr derwen fenyw ddu oedranus ar ei gliniau, a'i dwylaw yn blethedig, a'i llygaid yn edrych yn sefydlog tua'r nefoedd. Gwrandewais, a chefais fy nharo a syndod wrth glywed un o ferched Ethiopia yn y modd mwyaf taer yn dyrchafu ei gweddi at Dduw. Fel merch wir- ioneddol i Jacob, cafodd nerth gyda Duw.— Erioed ni welais y fath symlrwydd—y fath wresogrwydd—a'r fath ymdrech. Y rhan hyny o'i gweddi a glywais yn eglur oedd yn cael ei gyfyngu i'w hachos ei hun a'i mheistr. Ar ran ei mheistr hi weddiodcf, " O Arglwydd bendithia fy meistr! Pan mae'n galw arnat i ddamnio ei enaid, paid a gwrando arno, paid a gwrando arno, ond gwrando fi; achub ef, gwna iddo wybod ei fod yn ddrygionus, ac yna fe weddia arnat." Drosti ei hunan hi a ddy- wedodd, " Mae arnaf ofn, 0 Arglwydd, fy mod wedi dymuno dymuniadau drwg yn fy nghalon, cadw fi rhag dymuno drwg iddo, er ei fod yn fy flangellu ac yn fy nghuro'n dost—dywed wrthyf am fy mhechodau, a gwna i mi wcddio mwy arnat, gwna i mi lawenhau yn fwy am yr hyn a wnaethost i mi, negro tlawd." Fel y cyfododd oddiar ei gliniau, gwelodd fi. Math o derfysg gonest a daenodd dros ei g\vvnebprvd pan welodd fy mod wedi ei chan- fod ; a darparodd i ddiangc ar frys, pan alwais ar ei hol mewn modd addfwyn ; ceisiais gan- ddi beidio dychrynu, a dywedais fod yn dda genyf ei gweled wrth waith mor dda. Cafodd ei chcfnogi wrth anerchiad addfwyn, a daetli tuag ataf. Holais i'w sefyllfa a'i hamgylch- iadau. Yr oedd yn ymddangos yn bapus iawn i gael cyfLusdra i'w gwneuthúr yn adnabydd- us. Gofynais iddi paham yr oedd yn dyfod i'r lle hyny i weddio. Atebodd fod ei meistr yn dds'n drwg iawn, ac na chaniatâai iddi weddio, mewn un modd, os byddai yn gwybod. Yr achos o'i dyfodiad yno y pryd hyny i weddio oedd fod ci meisfr \Vedi bod yn ei churo y di- wrnod hwnw, a bod arni ofn nad oedd yn teimlo fel y dylasai tuag ato, a'i bod yn gwnoú" thur yr hyn na ddylasai trwy beidio ymos- twng gyda mwy o ymroddiad i'w çhoelbren anhapu3. Gofynais iddi pa fodd y daeth i feddwl fod yn ddyledswydd arni i weddiò.—