Skip to main content

Y CENHADWR AMERICANAIDD. Cyf. I. MAI, 1840. Rhif. 5. BYWGRAFFIAD YDIWEDDAR BARCHEDIG JOHN ROBERTS, 0 LANBRYNMAIR. Farhad o'r Rhifyn 4, tn dalen 100. Byddai yn hoff iawn gan ein cyfaill Mr. Roberts sylwi ar ddaioni yr Arglwydd tuag at ei bobl yn ngoruchwyliaethau ei ragluniaeth. Ar un tro wrth fyned tua chapel Carno, ar brydnawn Sabboth, cwympodd oddiar ei ani- fail mewn lle peryglus. Ni chafodd friw mawr; ond gwnaed argraff ddwys ar ei feddwl o ryf- eddol diriondeb yr Arglwydd yn arbediad ei fywyd, ac wrth adgofio yr amgylchiad hwn y mae yn dyweyd iddo ddwyn yn fywiog i'w gof rai o'r gwaredigaethau creill a gawsai yn ys- tod ei bereiindod,—yn enwedig unwaith pan yn blentyn oddeutu chwe' mlwydd ocd. Ad- rodda yr hanes fel hyn :— "Pan wcdi cael fy anfon ar neges i dŷ cyfaill, ag oedd o gylch milldir o dŷ fy nhad, darfu i dymestl drom o wlaw taranau ddisgyn tra yr oeddwn yno, fel ag y darfu i gornant fcchan wyllt ag ydoedd rhyngwyf a chartref chwyddo dros ei glànau ac yn mholl dros y bontbrcn nes bron gyrhaedd y ganllaw. Heb un dychryn yn y byd wrth edrych ar lifeiriad y cenllif, hŷ'f- ddringais yn ddioedi y ganllaw sigledig, ac ym- lusgais yn araf ar hyd-ddi, gan ymloni wrth weled y 'dwr mawr' yn fy ymyl, ond heb allu fy nghyraedd. Cyn gynted ag yr aethum drosodd, gwelwnfychwaer yn gwyllt-redeg i'm cyfarfod ; a phan ofynodd mewn syn lawenydd, pa fodd y daethum dros yr afon; atebais yn ddigynwrf, mai trwy ymlusgo ar hyd y ganllaw. Darfu i hyn ei dychrynu yn fawr, a phan gyraeddas- om y tŷ ac adrodd yr hanes i'm mam,—ymoll- yngodd i wylo, a chyda llawer o serch ac o dir- iondeb ymdrechodd arghraffu ar fy meddwl ymdeimladrwydd o'r mawr berygl y buaswn ynddo, ac o ddaioni yr Arglwydd yn fy nghadw rhag boddi." Yn ei adfyfyrdodau ar ddaioni yr Arglwydd, mae Mr. R. yn myned ymlaen ymhellach i sylwi,— " Yr wyf yn credu i mi gael llai o flinderau fel gweinidog, nà llawer o'm brodyr. Yr ocdd 17 yn achos o fawr ddiolchganvch genyf, fod sef- yilfa yn barod i mi pan derfynodd fy amser yn yr athrofa; ac i mi gael fy ngwahodd i lafurio yn yr eglwys lle y cefais fy nerbyn ar y cyntaf. Yr hyn oeddwn yn ei ofni fwyaf wrth ymsefyd- lu fel gweinidog oedd, na fedrwn gael digon o amrywiaeth i'w pregethu i'r un bobl. Mynych y bu fy meddwl mewn cryn gyfyngder yn ni- wedd gwasanaeth un Sabboth, rhag nad allwn gael testynau priodol erbyn gwasanaeth un ar- all; ond darfu i'r Arglwydd yn ei raslonrwydd fy nghynorthwyo fel nad wyf yn cofio fy mod erioed heb destyn pan oedd ei eisiau, ond nid mynych y gallwn gyfansoddi pregeth neu anerch pan na byddai ei heisiau. Y peth penaf oedd yn rhoddi esmwythder i'm meddwl ynghylch hyn, oedd yr ystyriaeth o gyjlawnder diderfyn yr Ysgrythyrau. Yr oedd argyhoeddiad bob amser yn fy meddwl fod y Bibl yn cynwys dyfn- deroedd diwaelod a goludoedd anchwiliadwy o ddoethineb a diddanwch, a bod yr Ysbryd Glan wedi ei addaw i'm tywys i bob gwirion- edd, a'i fod ef yn abl fy nysgu i ddwyn allan bethau newydd a hên o drysorau anmhrisiadwy y Gair. Cefais lawer o hyfrydwch yn fy oes wrth fyfyrio yn yr Ysgrythyrau; a hyfryd genyf feddwl nad wyf eto ond megis wedi gwlychu yn brin wadn yr esgid yn moroedd didrai a di- derfyn y dwyfol wirionedd; ac y mae y gobaith o gael bod byth, gyda dilynwyr yr Oen, yn trei- ddio ac yn treiddio i ddyfnderoedd rhyfeddod- au y Brynedigaeth, yn rhoddi i mi weithiau gynhaliaeth a gorfoledd ag sydd uwchlaw fy narluniad." Mcwn ymchwilio i'r Ysgrythyrau yr oedd ysbryd a threfn ein brawd hwn yn dra theil- wng. Ar hyn dywed,— " Yn fy ymchwiliadau am y gwirionedd nid wyf yn ymwybodol o'm bod yn rhagbleidiol i unrhyw gyfandrefn o athrawiaethau, neu o'm bod yn mynwesu dymuniad i un athrawiaeth fod yn wir yn fwy nag un arall. Yr wyf yn