Skip to main content

i y Y CENHADWR AMERICANAIDD. Otf. 25, RniF. 1. IONAWR, 1864. Ritif. oll 289. 33tul)òrattlioùaetl). COFIANT Y PARCH. JOHN PARRY, DIWEDDAR WEINIDOG YE EGLWYS GYNULLEIDFAOL YN GOMER, 8WYDD ALLEN,.OHIO. Y mae dysgwyliad cyffredinol, pan y byddo marw dyn cyhoeddus, fod sylw cyhoeddus yn cael ei wneuthur o hono. fel arwydd o barch i'w goffadwriaeth. Ymddygiad rhy anheilwng tuag at ddyn a wasanaethodd ei genedl y w gad- ael i'w enw bydru gyda'i gorff. Y mae y dyn a gyfrifwyd yn gyrahwys i lenwi yr areithfa trwy ei fywyd, yn deilwug o goffadwriaeth ar ol ei farwolaeth. Dan yr ystyriaeth hon, ac ar ddymuniad unfrydol cyfeillion anwylaf yr ymadawedig, yr ydwyf yn ymaflyd yn y gor- chwyl galarus o gofnodi ychydig sylwadau ar daith ac ymadawiad y brawd teilwng a llafurus a enwir uwchben yr ysgrif hon. Er fy mod yn adnabod Mr. Parry er's mwy na chwarter canrif—yn gwybodam dano cyn iddo ddechreu pregethu—yn bresenol yn Nghyfarfod ei neill- duad i waith y weinidogaeth—ic wedi cael manteision lawer i gymdeithasu ag ef am flyn- yddau yn hen wlad ein genedigaeth, eto yr ydwyf yn teimlo fy huu dan gryn lawer o an- fanteision i wneuthur cyfiawnder â'r testyn sydd genyf mewn llaw, oblegid fy nyeithrwch iddo am gynifer o flynyddau ar ol ei ymfudiad i'r wlad hon. Ymadawodd a'r "heu wiad" dan goron o barch a chymeradwyaeth pawb a'i hadwaenai, ac mor bell ag y mae genyf ddefnyddiau yn profi, efe a syrthiodd i'r bedd heb fylchu ei goron na llychwino ei wisgoedd. Gweithiodd ei ffordd i sefyllfa o ddefnyddiol- deb trwy lawer o anfanteision. Daliodd yn ddiysgog gyda'r gwaith trwy bob tywydd a'i cyfarfyddodd, a hunodd yn dawel yn yr Iesu, wedi cystudd byr, (ond poenus,) boreu Sadwrn, Medi 20fed, 1863, yn y 53 flwyddyn o'i oedran, ac yn y bumed flwyddyn ar hugain oM weinid- ogaeth. Claddwyd ef y dydd Mawrth canlyn- ol yn mynwent Gomer, ger amaethdy Tawelen, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. T. Edwards, Cincinnati, ac ysgrifenydd y çofnodion hyn. Ryw jchydig amser cyn ei farwolaeth, efe a ysgrifenodd ycliydig grybwyllion yn cynwys talfyriad byr o amgylchiadau ei fywyd. Ym- ddengys nad ydoedd wedi ei ddarparu i'w ar- graffu, am ei fod wedi ei ysgrifenu yn frysio£% a chymysglyd. Y mae weithiau yn ysgrifenì^ yn y person cyntaf, ac weithiau yn yr ail ber- son. Gosodaf ef o flaen y darllenydd yn yr ail berson, ám mai yn hwn y llefara efe fyn- ychaf. Gadawaf ef i lefaru drosto ei hun, ao yn ei ddull ei hun, heb un cyfnewidiad, ond y gwelliant crybwylledig. Efe a ddywed am dano ei hun: "Enwau ei rieni oeddynt James ac Alice Parry. Ganwyd ef ìnewn ffartndy bychan a enwid Pen y cefn, plwyf Llanfor, ger y Bala, Mawrth 12, 1810. Yr oedd ei dad a'i fam yn aelodau o'r Eglwys Annibynol yn Rhyd y wernen, cyn adeiladu capel Beüiel. Yr oedd ei rieni yn ofalus iawn am ddwyn eu plant i fyny yn hyddysg yn mhethau y Beibl. Yr oedd ei fam yn hynod o ymdrechgar i ddwyn ei phlant i fyny yn ofn yr Arglwydd, a chafodd y fraiut o'u gweled oll ond un (wyth mewn rhifedi) yn d)fod i winllan Iesu yn moreu eu hoes. Gan mai John oedd y mab liynaf, bu gorfod iddo weithio yn galed ar y ffarm er yn ieuanc. Efe oedd i edrych ar ol yr anifeiliaid a chanlyn y wedd, yr hyn a'i hymddifadodd o bob manteision dysgeidiaeth, ond yr ysgol Sab- bothol ac addysgiadau teuluaidd, hyd nes oedd yn agos i ddeuuaw mlwydd oed. "Cafodd ei ddwyn i í'yny yn y gymdeithaa eglwysig er yn blentyn, ond ni dderbyniwyd ef yn gyflawn aelod. hyd nes ydoedd rhwng un a dwy ar bymtheg oed. Galarai yn barhans ara na chawsai ei anog yn foreuach i lwyr ym- roddi i grefydd ac ymuno ag eglwys Dduw. Pan oedd John ychydig dros bymtheg oed, aeth oddicartref i wasanaethu at amaethwr yn Glyn Dyfrdwy, a phan ydoedd yn y lle hwn y derbyniwyd ef yn aelod yn yr eglwys Gynull- eidfaol yn Llangollen, gan yr enwog Williams o'r Wern, yr hwn oedd yn weinidog yr eglwys hono y pryd hyny. Ymddygai Mr. Williams tnag ato fel tad tyner, ar ol hyn, bob amser *Vf*'