Skip to main content

Y CEMADWR AMERICANAIDD. Cyf. 20, Rhif. 12. RHAGFYR, 1859 RllIF. oll 240. Bm:l)ûrattl)oftaetl). FY NHAD, SEF Y DIWEDDAR JOHN ROBERTS, LLANBRYSÍMAIR. ÜSTid wyf yn gweleà perygl neillduol mewn bod un yn ysgrifenu adgofíon arn berthynasau ymadawedig. Ac hefyd, y mae yr enwogion sydd wedi ein rhagflaenu yn y swydd hon wedi rhoddi urddas ar y gwaith erbyn hyn. Ysgrif- enodd yr hen Goiner hanes ei Fab—Gwilym Hiraethog hanes ei Dad a'i Fab—Glan Alun hanes ei Chwaer--y Parch. James Sherman hanes ei Briod—merch y Parch. Dr. Hender- son hanes ei Thad—a llu o enwogion eraill a ysgrifenasant hanes eu perthynasau. Y rhesytnau a ddygir yn erbyn yr arferiad yw, y gall cariad at berthynasau effeithio ar y llygaid fel na welir eu gwendidan, a bod perygi i'r ysgrifenydd ddefnyddio lliwiau rhy gryfion i osod allari eu rhagoriaethau. Ond yr wyf fl yn llwyr argyhoeddedig fod y perygl fel arall. Os bydd dim chwaoth yn yr ysgrifenydd, y mae yn teitnlo y byddai yn anmhriodol iddo ef or- ganmol ei anwyliaid, a'r brofedigaeth yw ym- ollwng i ddefnyddio lliwiau rhy weiniaid. Cyhoeddwyd Bywgraffiad fy nhad yn llyfr 2s. 6ch. dair blynedd ar hugain yn ol; a dywed- wyd gannwaith gan y diweddar Barchedigion Grifnths, Tyddewi; Morgans, Llanfyllin; ac Eta Delta, mai yr anffawd fwyaf oedd i'r gor- chwyl o gasgluhwnw syrthio i law ei fab S. R., ara fod gwyleidd-dra y plentyn wedi peri iddo wneud cam â'i dad. Y mae yr un anhawsdra ar ffbrdd yr ysgrifenydd presenol, os na chyd- nabyddir fod un plentyn yn fwy digywilydd na'r llall. Bygythiai y triwyr a enwyd, flwydd- yn ar ol blwyddyn, ailysgrifenu hanes fy nhad; ond syrthiodd y naill ar ol y lla.ll ato ef i'r beddrod cyn cyflawni eu hamcanion. Cwynai Mr. Morgan yn ddwys yn ymyl angeu na buas- ai yn dewis ei hen gyfaill o Lanbrynmair yn destyn ei draetbawd olaf yn lle Adda^ Yn y llyfr a gyhoeddwyd yn 1837, ceir cfyn- odeb o brif amgylchiadau bywyd fy nhad, wedi ei ysgrifena ganddo ef ei hnn. Os bydd rhyw tro yn teimlo awydd gwybod pa le y ganwyd 36 ^ ef—pwy ooddynt ei dad a'i fam—pa le ý der- byniwyd ef, a chan bwy—pa bryd y dechreuodd bregethu, ac yn mha le y bu yn yr Athrofa, a phwy oedd yr athraw—pa bryd yr urddwyd ef, a phwy oedd yn bresenol, darllened hwnw. Ceir yma hefyd bigion o'i lythyrau—adgofion o rai o'i bregethau—dyfyniadau orai o'i draeth- odau—a byr olygiad ar rai o nodweddiadau ei gymeriad fel dyn ac fel gweinidog, gan y Parch- edigion W. Williams, Wern ; J. G., Tyddewi; C. Jones, Dolgellau; W. Rees, Liverpod; ei Frawd o America; E. D., Llanerchymedd; T. Picton, New York; Dr. T. Rees; J. C; M. B.; a Syr J. B. William?, Ainwythig. Adwaenai y rhai hyn ef yn dda, a diau y gwyddent am dano mewn rliai pethau yn well nag y gwn i, ac yr oeddynt yn fwý cymhwys ar y pryd i ffurfio barn. Gwn inau lawer o bethau am dano nas gwyddent hwy, a thybiwyf fy mod yn lled add- as e'rbyn hyn i ffurûo barn yn ol yr hyn a wn. Meddyliwn mai fy unig amcan yn ysgrifonu yw dangos rhai llinellau yn nghymeriad fy nhad nad ydynt i'w cael yn gyffredin yn y byd, ond sydd yn werth eu hefelychu. Er ymofyn â mi fy hun, nid wyf yn teimlo fod genyf un cymhelliad i organmol. Nid wyf yn gweled y gallai un lles ddeilliaw i neb oddiwrth hyny. Ac yr wyf yn ddigon adnabyddus o ledneis- rwydd fy nhad i wybod, pe yn fyw, na fuasai diin a mwy o dnedd i glwyfo ei deimladau ef na gorganmoliaeth ; ac ni wnaf yn ei absenoldeb yr hyn na ddymunwn wneyd yn ei bresenoldeb. Nid wyf yn sicr nad yw teulu y nef yn medru darllen èin cyhoeddiadan misol; ac ni ddymun- wp archolli teimladau un o honynt, llawer llai fy nhad. Nid yw ond megys er doe er pan oedd ef yn teithio i gyfarfodydd, a byddaf yn sy.u clywed dynion yn dywedyd, fagwyd yn ei ymyl, nad ydynt yn ei gofio, nac yn gwybod iddynt ei weled erioed; ond, erbyn cyfrif y blynyddoedd, deallwyf eu bod yn rhy ieuainc. Byddaf bron digio pan glywaf wragedd yn dweyd, sydd a'u gwallt yn dechreu gwynu, eu bod yn ei gofío eithr o'r braidd, ac iddo y tro diweddaf y ba yn nhŷ eu tad, eu cymeryd hwy ar ei lin, a gor fyn iddynt a oeddynt yn caru y Gwaredwr;