Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEIHADW: CANAIDD. Oì-f. 20, Khif. 11. TACIIWEDD, 1859. RniF. oll 239, (íraeíi)oìîait. SYLWEDD PEEGETH, GAN T PAROH. JAMES DAYIES, ALLEN", OHIO. Heb. 13 : 20, 21. " A Duw yr heddwcb, yr hwu a ddug drachefn oddiwrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail raawr y defaid, trwy waed y cyf'amod tragywyddol, a'eh perífeithio yn nihob gweitbred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr.hyn sydd gyrneradwy yn ei olwg ef, trwy lesu Gr'iat: i'r hwn y byddo y gogoriiant yn oes oesoedd. Amen." Yn y blaen-destynau mae yr apostol yn deisyf gweddiau ei frodyr drosto ei hun a'i gyd- lafnrwyr. Mae pwys eu gwaitb, y gwrthwyn- ebiadausydd ar eu ffordd, eu hannigonolrwydd i'r gwaith, a'r cyfrif manylaidd sydd ganddynt i'w roddi i'w Harglwydd, yn galw yn uchel am weddiau yr eglwys drostynt. Pa fwyaf a weddio eglwys dros ei gweinidog mwyaf o fuddioldeb a dderbyniant oddiwrth ei weinid- ogaeth. Y rheswm a ddefnyddir ydyw, adu. 19eg, "Canys yr ydym yn credu fod genym gydwybod dda,"—cydwybod wedi ei goleuo, cydwybod dyner, yn tystio drosom ac nid yn ein herbyn,.cydwybod ddirwystr ger bron Duw a dynion. Yn y testyn y mae Paul yn gweddio drostynt hwythau, Ue y gallwn sylwi, I. Ar gymeriad goruehel Jehofa, "Duw'r heddwch." II. Y gorchwyl pwysig a briodolir iddo, "dwyn drachefn oddiwrth y meirw ein Har- glwydd Iesu, Bugail mawr y defaid." ÎII. Y llwybr rhyfeddol trwy ba un y dyg- wyd y gorchwjl hwn yn mlaen, "trwy waed y cyfamod tragywyddol." IV. Y bendithion a ddysgwylir ganddo, ad. 21, "A'ch perffeithio yn mhob gweithred dda &c." I. Oymeriad goruchel Jehofa, "Duw yr heddwch." Y mae yn dra eglur ei fod yn deilwng o'r cymeriad hwn, 1. Oddiwrth yr enwau a gymer arno ei hun. Nid adwaenid ef wrth yr enw hwn yn yr Hen Destament; ond Duw Israel, Duw Abraham, Duw Isaac, Duw Jacob, Arglwydd Dduw byddinoedd Israel; ond pan ddatguddiwyd dii'gelwch y brynedigaeth, yr hon oedd gudd- iedig yn Nuw er oesoedd ac er cenedlaethau, ymddangosodd mewn agwedd arall trwy enw newydd, yn Dduw a Thad ein Harglwydd lesu Grist, yn-ei bertliynas a'r natur ddynol; obleg- yd fel Duw y mae yn ogyfuwch â'r Tad, Phiî. 2:6; ac yn ei berthynas â'r swydd gyfryngoî, feì anfonedig y Tad i gyflawni gorchwylion cyfainod y brynedìgaeth, mae yn Dad y trugar- eddau, Duw'r heddwch, gwir Dduwy tangnef- edd, yn Dduw yr amynedd, ac yn Dduw pob gras i ni. 2. Mae pob bendith ysbrydoi, deillíedig trwy Grist, yn tarddu o'r Tad. Ehaid gan hyny fod heddwch a gwaredigaeth i ni yn deilliaw oddi- wrtho ef. Nis galìdsai y cymundeb lleiaf fod rhyngom ni droseddwyr â Duw annghymod- lawn, Eph. 1:3; 1 Oor. 8: 6. 3. Mae yn egìur mai Jebofa y Tad yw awdwr yr heddwch, oddiwrth drefn y cyfam- od o brynedigaeth. Mae y tri pherson dwyfol yn ogyfuwch mewn natur, cynghor, hyfrydwch a gogoniant; eto mae un weíthred yn briodol i'r Tad, arall i'r Mab, ac arall i'r Ysbryd Glân. Oreodd y Tad bob peth trwy Iesu Grist, CoL 1: 1&; mae yu cymodi y byd ag ef ei hun trẁy lesu Grist, 2 Óor. 5:18. Gwadu y gwir- ionedd hwn yw gwadu trefn gweithrediad y personau dwyfol. Y Tad fel Deddfroddwr a osododd i lawr amodau yr heddwch. LJythyr- en y ddeddf oedd marwoiaeth y troseddwr, "yr énaid a becho hwnw a fydd marw;" ond cadwodd Duw anrhydedd y ddeddf trwy dros- osod cosbedigaeth ar Berson galluog ac ufudd, i sefyil dani, "cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef," Esaiah 53: 5. Yr oedd yr holl gymhwysderau angenrheidiol yn ymgyfarfod ynddo i ddwyn ei waith ymlaen, Esaiah 11: 2. 4. Amcan mawr Jehofa rnewn creadigaeth oedd dwyn oddiamgyîch drefn yr heddwch, Col.l: 16, 20, M y byddai Orist yn Ben i'y eglwys. Yn y drefn ryí'edd hon mae holl beri* ffeithrwydd ei natur yn ymddysgleirio. yn ysblenydd: goddefodd ddyfodiad pechod i'r byd, a chymerçdd achlysur trwy hyn i ddat- guddio ei gymwynasgarwch at droseddwyr,— megys y gwelwn yn hanes Joseph, Gen.öO; 2íL