Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEMIADWR ÂMERICAMIDD. Ow. 20, Rhif. 9. MEDI, 1859, Rhif. oll 237. (ftraetljocatt. Y PARCH. J. LEWIS, HENLLAN, AR DDIGIO HEB BEOHU. Y pechodau y dywedir fwyaf yn eu herbyn yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd yw'r pechodan hyny ag sydd yn fwyaf tneddol ki galon dyn. Yn hyn oanfyddir enghraifft darawiadol o add- asrwydd yr Ysgrythyrau i ddiwygio'r 'natnr ddynol. Nid oes un pechod yn fwy cydnaws- aidd ag anian lygredig na digofaint pechadurus, ac nid oes un y dywedir yn amlach yn ei erbyn, ond er y bygythiadau dychrynllyd a gyhoeddir yn eî erbyn, yr anogaethau grymus ac amryw- iawg i'w ddiwreiddio o'r fynwes, coleddir a meithrinir ef gan lawer gyda'r fath ddwysder a gofal a phe byddai yn un o brif rinweddau'r enaid. Y mae yn ddychrynllyd meddwl mor gyffredin ydyw. Anaml y cyfarfyddir â myn- "wes yn rhydd oddiwrtho. Yr ydym yn cael ein twyllo gan ymddangosiadau allanol. Wrth dremu ar wyneb cymdeithas y mae yr olygfa yn hyfryd a bywioglawn; gwisgir hi â llawer o flodau prydferth—gorchuddir hi gan wenau siriol, geiriau teg, serchawgrwydd tyner, a Uawer o gymwynasgarwch, nes cyfodi gobaith gwan fod tangnefedd wedi dyfod i'r ddaiar ac fod yn mhlith dynion ewyllys da. Ond erbyn erafu ychydig ar y wyneb, cloddio dipyn yn ddwfn i galonau dynion, canfyddir gyda gofid a siomedigaeth nad y w'r arwyneb gwyrddlas a blodeuog, yn aml, ond gorchudd teneu j3ros galonau gorlawn odân digofaint, cenfigen a dîal. Oyfrifir y teimlad o ddigofaint, ynddo ei Jiun, gan rai yn bechadurus; ac mewn trefn i gynal y golygiad hwn i fyny, ymdrechir esbonio yr adnod, "Digwch ae na pheehwch," yn gyson ag ef. Amrywia eu golygiadau ar hyn, ond ni sylwn yn awr ond ar un o honynt. Dysgir ni pa fodd i ddigio heb bechu, trwy ddweyd mai digio ẃrth oeehod ae nid wrth lerson y troseddwr a ddylem. Os cywir yr eaboniad hwn, o ganlyniad— 1. Md yw digofaint ynddo eu hun yn bech- adurus, canys caniateir i ddigio wrth bechod. 2. Ynol y golygiad hwn, ni ddylem gadw 27 digofaint at oechod; canys gorchymynir i ni beidio gadaeî i'r "haul fachludb ar ein digof- aint." O ganlyniad y pechadur mwyaf ydy w yr hwn sydd yn cadw digofaint hwyaf at bechod. 3. Ond y mae digio wrth bechod yn beth anmhosibl. Gweithydd gwirfoddol (yoluntary agent) yn unig sydd wrthddrych digofaint. Egwyddor yw pechod, ac nis gall fod yn wrth- ddrych teimlad digofus. Os ceir digofaint at bechod mewn esboniad nid yw i'w gael mewn un galon. 4. Os peeJiod yw gwrthddrych priodol digof- aint, onid pechod ddylai fod gwrthddrych priodol cosb? Dysgwyliwn i haelfryder a thosturi'r Iôr, o ganlymad i'w gymhell i dros- glwyddo'r gosb oddiar oersonau ar oechodau. Ond ymddengys i mi nad yw digofaint ynddo ei hun yn bechadurus—y gellir digio wrth ddyn heb bechu. Golygwn ef yn deimlad hanfodol i'r natur ddynol, mor hanfodol a chariad neu dosturi. Yr oedd dyn yn agored i deimlo digofaint, mewn amgylchiadau priodol ac ar achosion cyfreithlawn, pan ddaeth allan yn loyw o ddwylaw ei Wneuthurwr. Nid yw digofaint yn bechadurus ond pan y byddo yn cael ei gynyrchu gan achosion anmhriodol, ac i raddau anghyfreithlawn. Os dadleuir fod y teimlad ynddo ei hun yrt bechadurus, o herwydd y camddefnydd a wneir o hono, oni ellir dwyn yr un ddadl yn erbyn cariad, îe yri erbyn pob teimlad ag sydd yn nghalon dyn; canys pa deimlad sydd heb ei wyrdroi a'i lygru gan bechod? Ond golygir yn gyffredin fod digofaint i un gradd ac ar un- rhyw achos yn bechadurus,—ac nid anfuddiol fyddai ymofyn beth yw'r achos o gyffredinol- rwydd y dyb hon. Yr achos debygwn ywT foi digofaintfynychaf yn myned i raddau gormod- ol, ac yn gysylltiedig â theimladau drwg; ac oblegid hyny ystyria llawer y teimlad êi hun yn ddrwg. Hyd yn nod Aristotle, yr hwn oedd yn ddi-eilfath yn mhlith y philosophydd- ion paganaidd, i drychwalu meddylddrychau a theimladau i'w helfenau unplyg, a ddarlunia (definé) digofaint yn wddymuniad i£ymddial." Er fod dial a digofaint yn deimladau gwahanolt