Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

¥ CEMADWË ÁMERICMAID'D. Cyf. 20, Riiif. 8. AWST, 1859, Ehif. oll 236. -$tid)òrattl)eròaetl). OOFIANT 'ME. WILLIAM GPJFFITHS, OINCINNATI, O. " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Yn ddiweddar yr oedd son mawr aui Mr. W. Griffiths, dràw yà Ngbymru, yn areithio ar "Y Diwygiad Ceefyddol Ameeicanaidd." Daeth yn ol yn ei lawn hwyl, a bu yn areithio yma ddwy waith yn Cincinnati, i dyrfaoedd lluosog, ac un tro yn Covington, Ky., ar « Y Diwygiad Ceefyddol 'rs Nghymeu." Pan oedd siarad am y llwyddiant crefyddol a fẃyn- heir yn ngwlad ein tadau, ac awydd mewn manau eraill am gael Mr. "William Griffiths i ar- eithio ar yr un tesyn, a Golygydd y Cenhadwe yn galw arno ar gyhoedd y wlad am anfon iddo hanes y Diwygiäd draw i'r Werydd, wele y newydd yn myned ar led yn annysgwyliadwy, sef, "Bod Mr. William Griffiths wedi marw!" Braidd y credid hyny yn ein dinas, yn mysg Oymry nac Americaniaid—ond fel yna y mae. Priodol yw coffâu bod yr ymadawedig yn fab i'r Parch. S. Griffiths, Iloreb, sir Ceredig- ion. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1814, a bu farw Mehefin 10; 1859. Byddai yn coffâu yn aml am werthfawrogrwydd yr addysg grefydd- al a gafodd pan yn ieuanc yn nhŷ ei dad, yr hyn a fu yn fendith iddo hyd ddiwedd ei oes. Yntaü a ddylynodd siampl ei rieni duwiol, a chofiai eu cynghorion a'u haddysgiadau o ddydd i ddydd. TJnodd â chrefydd yn 16 mlwydd oed, a daeth i'r wlad hon yn 1836. Y lle cyntaf yr unodd fel aelod eglwysig yn America oedd yn eglwys yr Annibynwyr yn Pittsburgh, yr hon oedd dan ofal gweinidogaethol yr ysgrifenydd. Yn yr amser hwnw ni a ffurfiasom gyfeilläch agos â'n gilydd, yr hon a ddaliodd nes ei dryllio gan angau ; ond mae gobaith eto am ail gyfar- fod Ue na bydd marwolaêth yn ysgaru neb oddiwrth eu gilydd. Yn y flwyddyn 1838, daeth Mr. Wm. Grif- fiths i Oincinnati, a sefydlodd yno i ddylyn ei alwedigaeth fel Adeiladydd. Yn y flwyddyn 24 1840 cysylltwyd ef mewn priodas â Miss Oath- ^ arine Bebb, yr hyn a fu yn gysur iddynt ill dau hyd ei farwolaeth. Bu iddynt 9 o blant, 4 o ba rai a orweddant yn yrayl eu tad yn Spring Grove, ac yno hefyd mae Mr. Samuel Griffiths, brawd i wrthrych ein cofiant, j.n tawel huno, oll mewn gobaith am adgyfodiad gwelî. Pan sefydlwyd eglwys i'r öynulleidfaolion yn Oincinnati, dewiswyd Mr. W. G. yn ddi- acon, yn mha swydd yr ydoedcl pan yn myned oddiwrth ei waith at ei wobr. EI GYSTÜDD A'l FAEWOLAETH. Bu yn areithio y'n Oovington nos Sadwrn, Mai 28, a'r Sabboth teimìai boen ar gefn ei droed chwith ;. aeth i'r capel fel arferol; dydd Llun yr ydoedd yn abl i gerdded allan wrth ei ffon, a bu yn y weithfa (shop) dydd Mawrth; ond aeth y poen yn ddolurus iawn idd ei glun. Galwyd am feddyg, ond ni wnaeth ddim lles. Oododd y dolur idd ei ochr aswy, ac idd ei wddf a'i ben, a sefydlodd yn enynfa ar yr yrn- enydd, yr hyn a fu yn achos o'i farwolaeth. Bu y Parch. B. "W. Ohidìaw yn ymddyddan ag* ef ar lan afon marwolaeth, a'i dystiolaeth oedd, " Yr ydwyf yn foddlawn i ewyllys yr Arglwydd." Galwodd ei deulu ato cyn methu siarad, ac efe a roddodd gynghorion iddynt, a dymunoçld ar Samuel ei fab, 14 mlwydd oed, "i gadw dyledswydd grefyddol yn y teulu," yr hyn a addawodd y mab ieuanc yn benderfynol ei wneud, a'r Arglwydd a'i nertho i wneud felly, fel ei dad. Pan ddaeth yr ysgrifenydd adref o'r Gymanfa, Mehefin 9fed, ni allai Mr. Griffiths sial-ad, ac efe a fu farw y dydd can- lynol. Penderfynwyd cadw ei gorff heb ei gladdu hyd ddydd Llun, yn un peth aru fod Mr. Griffiths yn groes iawn i gladdedigaethau ar y Sabboth, pan na fuasai gwir alwad am i hyny fod. Oredai fod claddedigaethau di-angen ar ddydd Duw yn droseddar orchymyn moesol yr Arglwydd, ac ystyriai mai ymddygiad an- addas i'r efengyl oedd claddu neb ar ddydd yr Arglwydd, a bod y Sabboth yn cael ei halogi wrth wneud felly. Iîyderwn y dylynir y siampl hon gan ein cenedl eto rhagllaw.