Skip to main content

IMERICAMIDD. Oyf. 20, Rhif. 6. MEHEFIN, 1859 Rhif. oll 234. Bttdjòrattíjoùaetlj. COFIANT MR. TIIOMAS D. EYANS, BRA- DY'S BEM). Yr oedd gwrtbrych ein cofiant yn ail fab i David a Mary Evans. Ganwyd ef Ehagfyr 22, 1807, yn Llanarth, swydd Gaerfyrddin, D. 0. "Wedi bod dan ofal ei rieni tyner, hyd nes oedd wedi tyfu fyny yn fachgenyn, aeth i ddysgu y gelfyddyd Panwriaeth. Pan wedi dyfod yn ddyn trodd ei wyneb fel llawer un arall tua Gweithfaoedd Haiarn Oyraru, a sef- ydlodd yn Nant y Glo, swydd Fynwy, D. 0., lle y bu yu dilyn ei alwedigaeth fel Peiriann- ydd. Aeth oddiyno i Abersychan yn yr un swydd, ac yno yr ymunodd mewn priodas yn Mehefin 1841, â Miss Mary Lewis, yr hon a fu yn ymgeledd gyinhwys iddo hyd ddydd ei far- wolaeth. Yn y flwyddyn ganlynol, sef 1842, daeth ef a'i briod i'r wlad hou, ac ymsefydlasant yn y lle hwn, Brady's Bend, Ue y treuliodd ef allan weddill ei oes. Fel dyn yr oedd yn barchus gan ei gyd- weithwyr a'i gymydogion a phawb a'i had- waenai. O ran ei feddwl yr oedd yn dreidd- gar. Er nad oedd yn siaradwr mawr, eto yr oedd ganddo feddwl mawr. Fel cyfaill yr oedd yn gywir a didwyll, a sefydlog. ün o'i gas bethau oedd datguddio cyfrinach, a brad- ychu ei gyfaill,—gallesid dywedyd am dano ei fod yn wir gyfaill. Ond sylwn yn benaf arno fel crefyddwr, am yr ystyriwn mai y rhan hon o'i hanes sydd yn fendigedig. Dilynodd argraffiadau boreuol ei feddwl pa rai a dderbyniodd oddiwrth ei fam dduwiol, (yr hon oedd yn aelod barchus gyda'r Bedyddwyr.) Derbyniwyd ef yn ae-lod eg- Iwysig gyda y Trefnyddion Calfinaidd,—y Ue a'r amser yn anhysbys. Ond cafodd y fraint o wynebu at grefydd pan yn ieuanc, yn mlodau ei ddyddiau. Wedi iddo symud i Nant-y-glo, rhoddodd ei bun yn aelod o'r Eglwys Anni- bynol, yr hon oedd o dan ofal gweinidogaethol y Parch. D. Stephens> ac o hyny allan parha- 18 odd i fod yn aelod hardd a pharchus gyda yr enwad uchod hyd ei fedd. Yr oedd amryw o bethau yn cydgyfarfod ynddo i'w wneud yn wir ddefnyddiol gydag achos yr Arglwydd, megys ei ffÿddlondeb a'i ddiwydrwydd gyda moddion gras. Nid peth bychan fyddai yn rhwystr iddo fyned i dŷ Dduw, pan fyddai pobl yr Arglwydd yn cyfar- fod; ond byddai ef yn sicr o fod yno, os bydd- ai modd, ar bob tywydd. Hefyd yr oedd yn hynod o ffyddlon gyda'r Ysgol Sabbothol, ac nid oedd dim yn sirioli ei feddwl yn fwy na gweled yr ieuenctyd yn cael eu dysgu yn eg- wyddorion y Beibl. Aml y dywedai ei fod yn foddlon i wneud a allai er llesoli y plant, " Am mai hwynt-hwy fyddant yn golofnau o da.n achos yr Arglwydd pan fyddom ni wedi myn- ed i ffordd yr holl ddaear." Hefyd yr oedd yn bwyllog ac ystyriol pan yn myned i siarad ar faterion eglwysig, a byddai yn ofalus fod yr hyn a ddy wedai yn unol â gair Duw. Y Beibl oedd ei gyfaill penaf i ymgy- nghori ag ef pan yn myned i draethu ei feddwl ar faterion crefyddol. Mae yn debyg y byddai yn fendith fawr i eglwysi y saint, pe dilynid esiampl ein hanwyl frawd ymadawedig yn hyn, gan mai gnir Duw yw ein rheol, ac nid ein mympwyon ein hunaiu. Byddai yn onest a didderbyn-wyneb yn ei geryddon, eto cai y cwbl ei dymhern ag ysbryd addfwynder. Yr oedd ei gynghorion yn llesol, buddiol ac adeil- adol. Hir gofir genym ei sylwadau yn y gyfeillach eglwywig ddiweddaf ag y bu ynddi, pan y dy- wedai, " Ychydig o amser yr ydwyf wedi ei gael i feddwl am grefydd yn fy nghystudd, a hyny gan faint y poenau yr wyf yn eu dyoddef,. rhwymau diolch sydd arnaf fy mod wedi cael fy nhueddu i feddwl am hyny cyn fy nghys- tudd," a chynghorodd bawb i barotoi mewn iechyd erbyn afiechyd, ac mewn bywyd erbyn angeu. Yr oedd yn fanylaidd gyda'i ddyledswyddau teuluaidd. Teimlai yn fawr dros iachawdwr- iaeth ei blant. Yr oeddynt yn wrthrychan neillduol ei ofal, ei gynghorion a'i weddiau, ac mae ol ei ddiwydrwydd ef a'i briod i weled ai*-