Skip to main content

T CENHAÜWE AMERICAÎÍAIDD. Oyf. 20, Ehif. 5. MAI, 1859 Ehif. oll 233. Bm^raitljoftaetl). LOWBY GEIFFITH, LLANELLTYD. Meroh ydoedd Lowry Griffith i Lewis Eohert a Jane ei wraig, y rhai fuont hyw am ychydig yn Ty'nygwyllt, a chwedi hyny yn Drwsymel- au, plwyf Llanfachraeth Meirion. Ganwyd Lowry Griffith gerllaw Bhydymain, ac ymun- odd trwy briodas a Dafydd Griffith, Ooedmws- oglog, plwyf Dolgellau, yn 22 oed. Bu iddynt 5 o blant, o ba rai y mae 4 yn awr yn íý w. Ymunodd Lowry Griffith hefyd a'r eglwys An- nibynol yn Ehydymain, 42 o flynyddau yn ol, yn amser gweinidogaeth 0. Jones o Ddolgellau yno. Nid oedd ond tua dau ddwsin o aelodau yn Ehydymain y pryd hyny ; a'r rhai hyny yn gyffredin yn lled isei eu hamgylchiadau; ond yr oedd yn anwyl iawn gan Lowry Griffith am danynt, ac ymdrechai dori trwy bob rhwystrau a'i cyfarfyddai i ymarfer a chrefydd yn eu mysg. Symudodd o gymydogaeth Bhydymain i Lanelltyd, a bu fyw yno am y gweddill o'i thymor bywyd, a bu farw ar yr 16 o Orphenaf diweddaf yn ei 67 mlwydd oed. Pregethwyd yn y tŷ y noson cyn claddu gan ei hen athraw Mr. 0. Jones, a chladdwyd hi dranoeth wrth ochr ei merch yn mynwent yr eglwys wladol Llanelltyd, He yr hir orphwys oddiwrth ei llafur a phob trafferthion bywyd. Oafodd hir gystudd oddiwrth ddafaden wyllt dan ei llygad, yr hon ar y diwedd a drodd allan yn gancer. Ónd er ei bod mewn mawr ofid oddiwrthi am o gwrnpas 18 mlynedd, ni bydd- ai yn arfer grwgnach ac anfoddloni, ond ystyr- iai hyn yn drefn yr Arglwydd, a dywedai gyda Job, " Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a gymerodd ymaith, bendigedig fyddo enw yr Arglwydd." Fid oedd yn alluog i fyned i'r capel i blith ei hanwyl gyfeillion, er's tua dwy flynedd; ond byddai yn hoff neillduol ganddi weled ei chyfeillion crefyddol yn ymweled a hi yn ei chystudd, y rhai ar ol terfynu y moddion y Sabbothau, a arferent fyned ati i gydweddio, ao ymddyddan am bethau crefyddol. Byddai y cyfarfodÿdd hychain hyn megys gwledd iddi 14 hi a'i chyfeillion, nes y byddai poen ei chorff yn aml yn cael ei anghofio. O mor hyfryd y byddai yn son am Iesu a'i ddyoddefiadau mawr- ion, nad oedd ei dyoddefiadau hi yn deilwng eu cydmaru i'w ddyoddefìadau ef, a bod gan ei Thad nefol amcanion anfeidrol ddaionus a gwerthfawr yn ei gosod hithau yn mhair cys- tudd, sef ei dwyn i ollwng ei gafael o bob peth a welir, a sefydlu ei meddwl a'i serch ar bethau y byd nefol, a'i gwneud yn gyrahwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Dy- wedai er fod yr ystorm yn fawr yn curo ar ei thŷ o bridd, ei bod weithiau yn teimlo cysur mor gryf a thangnefedd mor fawr nes ydoedd uwTchlaw ofn a dychryn, bod crefydd wedi tala yn odiaethol iddi yn nydd ei bywyd a'i hiech- yd ; ond yn awr mown henaint a chystudd yn well nag erioed. Yr oedd yn gysur mawr gan- ddi yn awr ei bod wedi dechreu crefydda; dy- wedai nad oedd euogrwydd ddim yn ei chad- wyno a'i hattal i droi at Dduw fel ei Thad, a'i Ohyfaill, a'i Brawd. Yr oedd ei addewidion ef yn rhoddi nerth a llawenydd yn ei henaid,, fel yr hoffai adrodd yr hen benill hwnw, •' lesu, diFyrwch f enaid drud Yw edrych ar áy wedd, Ac mae llyth'renau d' enw pur Yn fÿwyd ac yn hedd." j Yr oedd yn gysur mawr ganddi feddwl pa fwyaf fyddai y chwerwder yma, mai mwyaf melus fyddai y nef yn y diwedd. Yr oedd cadw cyfarfod gweddi ambell nos Sabboth gyda Lowry Griffith yn gyfnerthiad mawr i'r presenolion oll. Byddai yn adrodd geiriau Duw gyda blas, yn son am ei dŷ ef gyda serchawgrwydd ac anwyldeb mawr dros ben, ac am y nef fel un a hiraeth arni am fyn- ed yno at hen gyfeillion a chydnabyddion oedd wedi blaenu, yn neillduol at lesu, "Oyfryngwr- y Testament Newyddj" a mynych adroddai y pennül canlynol:— "Âr ardaloedd nefol hyfryd, Draw'r lorddonen tir y bywyd, Gwlad lle mae t'y hen gyf'eillion. Wedi dianc o'u trallodion." Amlhefyd y coffaai eiriau Solomon, "Yn ofsx yr Arglwydd y mae gobaith cadarn, ac iV hlant ef y hydd noddfa." A hefyd eiriau j